Dinas Portreadau

Dinas Portreadau

Dinas Portreadau

Cyhoeddwyd 14/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2024   |   Amser darllen munudau

Grahame Hurd-Wood

Noddir gan Eluned Morgan AS

Dyddidau: Chwefror - 9 Mawrth 2024

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Yn 2013, penderfynodd Grahame Hurd-Wood ddechrau prosiect uchelgeisiol i beintio portread o bob un o drigolion Tyddewi, Sir Benfro.

Mae Grahame wedi peintio dros 1000 o’r 1800 o bobl yn Nhyddewi, ond mae’n rhagweld y bydd y prosiect yn galw arno i barhau i beintio am flynyddoedd lawer i ddod. Ar ôl deng mlynedd, mae bellach yn gwahodd trigolion o'r gymuned ehangach yng nghyffiniau Tyddewi i eistedd am bortread.

Mae pob portread wedi'i beintio ar gynfas fach cyn cael eu hymgynnull mewn systemau grid o un metr sgwâr. Gyda'i gilydd, mae'r portreadau'n rhoi cipolwg unigryw ar ddinas leiaf Prydain.

 

Lluniau © Grahame Hurd-Wood

Grahame Hurd-Wood

Astudiodd Grahame Hurd-Wood yn Ysgol Gelf Camberwell ar gyfer gradd B.A. Anrhydedd ac aeth ymlaen i ennill ei radd MA yn Academi Frenhinol y Celfyddydau, Piccadilly. Mae Grahame wedi byw a gweithio yn Nhyddewi, Sir Benfro ers bron i bedwar degawd. Mae'n arddangos ei waith yn lleol yn ei oriel yn Nhyddewi a thu hwnt, ar draws Cymru a'r DU.