Tir/Môr

Cyhoeddwyd 10/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2024   |   Amser darllen munudau

Noddir gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd

Dyddiadau: 1 Mehefin – 1 Medi

Lleoliad: Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol y Pierhead

Llun sy’n dangos llecyn porfa gyda bryniau yn y cefndir. Mae grŵp o blant ysgol sy’n gwisgo cotiau glaw melyn a bagiau ar eu cefn yn cerdded tuag at y bryniau. Mae'r awyr yn gymylog a llwyd yr olwg.
Taith Maes, Bryniau Preseli, Sir Benfro, 2019 © Mike Perry

Mae ffotograffiaeth gyfoes Mike Perry o’r tirwedd yn agor ein llygaid i’r gwrthdaro rhwng gweithgareddau dynol, a’r angen dybryd i fynd i’r afael â’n problemau amgylcheddol.

Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, mae gwaith yr artist yn gais inni newid ein perthynas â byd natur. Yn lle toddi capiau iâ a llosgi coedwigoedd glaw, mae’r artist yn hawlio ein sylw ar yr argyfwng amgylcheddol sydd ar ein haelwyd.

Mae Tir/Môr yn dwyn dau gorff parhaus o waith ynghyd, gyda’r  naill a’r llall wedi bod ar daith yng Nghymru, ac ar y llwyfan rhyngwladol, ers nifer o flynyddoedd.

Llun sy’n dangos pysgod cregyn llwyd a gwyn yn bwydo ar wadn fflip fflop a daflwyd.
Fflip-fflop 29, Playa Santa Maria, Hafan, Ciwba, 2014 © Mike Perry


Yn y gweithiau celf 'Tir', mae'r artist yn canolbwyntio ar leoedd a elwir yn gyffredin yn ‘ardaloedd o harddwch naturiol’. Gan bortreadu lleoliadau fel ein parciau cenedlaethol, mae Perry yn defnyddio'r gwaith celf i archwilio’r effaith ddynol ar y mannau hyn.  

Corff o waith yw Môr Plastig sy'n gosod gwrthrychau sy'n cael eu golchi i’r lan gan y môr mewn tri grŵp: Poteli, esgidiau a gridiau. Mae Perry yn defnyddio camera cydraniad uchel (neu high-resolution) i ddal y manylion arwyneb diddorol a geir ar bob gwrthrych.

Mae’r artist yn byw ac yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn y ffotograff hwn, mae’r artist yn darlunio ffurf gerfluniol ei natur a grëwyd ganddo o gynfasau plastig y cafwyd hyd iddynt mewn cae cyfagos. Mae naws fygythiol i’r cynfasau sy’n hongian dros ganghennau ddraenen ddu leol.
Draenen Dan Orchudd, Cymru, 2023 © Mike Perry

Mae Tir/Môr yn arddangosfa deithiol Ffotogallery

Cyflwynwyd yr arddangosfa mewn partneriaeth â Ffotogallery ac Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.

 

Defnyddia dy Lais

Mae amrywiaeth o boteli a chartonau plastig lliwgar wedi’u casglu a’u gosod ar dair silff.
Eitemau plastig a ddarganfuwyd gan Mike Perry ar arfordir Cymru a thu hwnt.

 

Gallwch weld rhai o'r eitemau plastig y tynnodd Mike lun ohonynt ar ein Dresel Gymreig yn y Senedd.

Beth am godi cerdyn post a rhoi eich ymateb i ni.

Allwch chi ddewis gwrthrych o’r Seld a chreu stori am ei berchennog gwreiddiol?

Beth fydd y pethau rydym yn gadael ar ôl yn dweud amdanom wrth y cenedlaethau i ddod?