Bywydau Cymreig

Cyhoeddwyd 06/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2024   |   Amser darllen munudau

Celfyddyd Meisgyn

Noddir gan Andrew RT Davies AS

Dyddiadau: 4 - 17 Ionawr 2024

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Yn yr arddangosfa hon mae aelodau o grŵp Celfyddyd Meisgyn (Miskin Art) yn tynnu sylw at lawer o wahanol agweddau ar fywyd Cymru. Maent yn talu teyrnged i Gymry a lleoedd arwyddocaol drwy bortreadau a gwaith tirwedd.

Ffurfiwyd Celfyddyd Meisgyn yn 2005 gan Peter Mayo, Gareth Davies a Haydn Williams. Yn gwasanaethu’r gymuned leol ym Meisgyn, Aberpennar a Hirwaun, mae Celfyddyd Meisgyn yn sefydliad dielw sy’n cyfarfod yn wythnosol ar gyfer sesiynau a addysgir.

Mae aelodau’r grŵp yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau ac yn dewis eu testun eu hunain. Bydd artistiaid sy'n ymweld yn rhoi arddangosiadau drwy gydol y flwyddyn, a chynhelir gweithdai o bryd i’w gilydd i gynnig cipolwg newydd ar waith artistig i'r grŵp.

Mae Celfyddyd Meisgyn yn cyfarfod bob nos Iau rhwng 19:00 a 21:00 yn Eglwys Gatholig Santes Theresa, Hirwaun. Croesewir aelodau newydd o bob lefel.