Yn y cyfnod yn arwain at etholiad y Senedd, y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn rydym yn dathlu'r menywod a ymgyrchodd am yr hawl i bleidleisio, ac yn rhannu profiadau Menywod yng Ngwleidyddiaeth Cymru.

Y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru

Bu mudiad pleidlais i fenywod trefnus yn gweithredu’n barhaus ym Mhrydain ers dros drigain mlynedd. Enillodd etholfraint rhannol ym 1918, a sicrhaodd hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o’r diwedd, ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Nod yr oriel ar lein hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hir ac amlweddog hon, lle y ceisia’r ffotograffau a’r delweddau ddangos rhai o’i brif elfennau.

Gweld yr oriel ar-lein

Gwir Gofnod o Gyfnod

Mae Gwir Gofnod o Gyfnod yn brosiect ar y cyd rhwng Archif Menywod Cymru a’r Senedd.

Mae'r prosiect hwn yn ceisio diogelu lleisiau a phapurau’r cyn Aelodau benywaidd y Senedd a rhai cyfredol, sydd wedi'u hethol i'n Senedd genedlaethol yn ystod ei hugain mlynedd gyntaf.

Mae rhai o’r Aelodau hyn wedi gwasanaethu ers 1999, mae rhai wedi dal swyddi pwysig yn y llywodraeth, ac mae gan bob un stori ddiddorol a phersonol i’w hadrodd o safbwynt ein hanes a’n treftadaeth ddemocrataidd. Mae'r straeon hyn yn archwilio sut y daethant i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, pa anawsterau a gawsant, eu diddordebau arbennig ym maes gwleidyddiaeth, yr ymgyrchoedd y buon nhw’n eu cefnogi a pham, ymysg pethau eraill.

Mae menywod wedi gwneud cyfraniadau enfawr i stori datganoli yng Nghymru a dylid diogelu eu cofnodion a’u storïau ar gyfer y dyfodol.

Gwyliwch ddetholiad o grynodebau cyfweliad yma neu ewch i wefan Archif Menywod Cymru i weld pob un o'r clipiau wrth i'r prosiect ddatblygu.

Menywod yn y Senedd

Sefydlwyd y Senedd ym 1999 gyda'r egwyddor o gyfle cyfartal yn ganolog iddi. Mae'r cyfreithiau a'r rheolau sy'n llywodraethu'r sefydliad yn mynnu’n benodol y dylid cynnal ei gwaith gan roi ystyriaeth briodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb."

Yn 2003, y Senedd oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd perffaith rhwng y rhywiau, gyda 30 o fenywod a 30 o ddynion yn Aelodau ohoni. Er bod hyn wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, nid yw cyfran y menywod yn y Senedd erioed wedi gostwng o dan 40 y cant. Mae adroddiadiau diweddar wedi argymell y dylid cyflwyno cwota rhywedd i warantu bod isafswm o Aelodau o'r Senedd yn fenywod.

Menywod a etholwyd mewn Etholiadau Cyffredinol (fel % o'r ddeddfwrfa)

Ers ei chreu, mae'r Senedd wedi parhau i gadw cyfran lawer uwch o Aelodau benywaidd na Thŷ'r Cyffredin, Senedd yr Alban na Chynulliad Gogledd Iwerddon.

 

Yn yr etholiadau diweddaraf, roedd 42 y cant o Aelodau o’r Senedd yn fenywod, o'i gymharu â 32 y cant o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, oherwydd newidiadau yn yr Aelodau ers yr etholiad diwethaf, ar hyn o bryd mae 48 y cant o Aelodau'r Senedd yn fenywod (29 allan o 60).

 

Yn fyd-eang, y ganran gyfartalog o fenywod mewn seneddau cenedlaethol yw 25 y cant a phe bai'r Senedd yn cael ei chyfrif fel senedd ar wahân, yn safle'r byd, byddai'n bumed yn y byd.

 

Disgwylir i'r Senedd gynnal etholiad yn 2021, a rhoddir sylw manwl i gydbwysedd rhwng y rhywiau yn y  Senedd.

Ym 1929, Megan Lloyd George oedd yr Aelod Seneddol fenywaidd gyntaf i gael ei hethol i etholaeth yng Nghymru. Ymgyrchodd am senedd i Gymru, ac roedd yn ffigur blaenllaw ar Bwyllgor Grym y Menywod, a ymladdodd dros hawliau cyflogaeth menywod yn ystod y rhyfel. Gallwch ddysgu mwy am Megan Lloyd George drwy ymweld â'n llinell amser datganoli yn ein rhith-daith o'r Senedd.

O'r ymgyrchoedd a'r deddfau a arweiniodd at sefydlu'r Senedd, i'r cynlluniau i'w diwygio, mae cydraddoldeb wedi'i wreiddio'n ddwfn yng nghyd-destun diwylliant, rheolau ac uchelgeisiau'r sefydliad ar gyfer y dyfodol.