Ffyrdd o bleidleisio

Cyhoeddwyd 01/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae dy lais yn bwysig. Os wyt ti’n 16 oed neu'n hŷn, defnyddia dy lais i lunio dyfodol Cymru trwy bleidleisio yn etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru.

Mae tair ffordd o bleidleisio:

  • drwy fynd i orsaf bleidleisio
  • drwy’r post, gyda phleidlais bost
  • trwy ddirprwy, gan ddewis rhywun i bleidleisio ar dy ran

Rhaid i ti fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y galli di bleidleisio yn etholiad y Senedd.

Cofrestru i bleidleisio

 

Pleidleisio drwy fynd i'r orsaf bleidleisio

Os wyt ti ar y gofrestr etholiadol, byddi di’n cael cerdyn pleidleisio yn y post. Bydd hwn yn rhoi manylion ynglŷn â ble mae dy orsaf bleidleisio leol.

Galli di fynd i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod etholiad y Senedd i fwrw dy bleidlais. Mae gorsafoedd pleidleisio yn cael eu gosod am y dydd mewn adeiladau lleol fel ysgolion neu neuaddau cymunedol ar hyd a lled y wlad.

Ar ddiwrnod yr etholiad, mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07.00 a 22.00 i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio’u pleidlais.

Rhagor o wybodaeth

 

Pleidleisio drwy'r post

Os wyt ti'n 16 oed neu'n hŷn, galli di wneud cais am bleidlais bost i'w defnyddio yn etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru. Nid oes angen rhoi rheswm pam.

Bydd angen llenwi ffurflen gais am bleidlais bost. Mae'r ffurflen hon ar gael gan dy swyddfa cofrestru etholiadol leol.

Ewch i www.gov.uk/contact-electoral-registration-office i ddod o hyd i'r swyddfa leol.

Pan gynhelir etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, bydd papur pleidleisio yn cael ei anfon atat ti, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi.

Dim ond pan fyddi di’n 16 oed neu'n hŷn ar adeg etholiad y Senedd neu etholiad leol y bydd hwn yn cael ei anfon atat.

I wneud cais am bleidlais bost, mae’n rhaid cofrestru i bleidleisio yn gyntaf.

Dysgwch fwy am bleidleisio trwy'r post

 

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os wyt ti'n 16 oed neu'n hŷn, galli di wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru. Bydd angen esbonio pam dy fod am bleidleisio trwy ddirprwy.

Os wyt ti’n gwybod na fyddi di’n gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleisio trwy ddirprwy yn ddewis gwych. Mae pleidlais drwy ddirprwy yn golygu dy fod di’n dewis rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo i bleidleisio ar dy ran. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes gen ti broblem feddygol neu anabledd sy'n dy atal rhag mynd i orsaf bleidleisio, neu os wyt ti’n bwriadu bod dramor ar ddiwrnod yr etholiad.

I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, mae’n rhaid cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Mae angen i'r person rwyt ti’n ei ddewis i bleidleisio ar dy ran fod wedi cofrestru i bleidleisio hefyd.

Dysgwch fwy am bleidleisio trwy ddirprwy

 

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am sut i bleidleisio, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

www.electoralcommission.org.uk/i-am-a/voter/how-cast-your-vote