Portread o Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE a’r Haul y Tu Hwnt i'r Tonnau

Cyhoeddwyd 30/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/01/2024   |   Amser darllen munudau

Ted Harrison & Rosie Moriarty-Simmonds OBE

Wedi’i noddi gan y Llywydd, y Wir Anrhydeddus Elin Jones AS

Dyddiadau: 18 Tachwedd - 21 Rhagfyr

Lleoliad: Neuadd y Senedd

 

Eleni, mae’r Senedd yn falch o arddangos gwaith celf gan ddau artist o Gymru i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Nod Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, a gynhelir ar 3 Rhagfyr bob blwyddyn, yw cynyddu ymwybyddiaeth a llesiant pobl anabl ym mhob agwedd ar eu bywyd.

 

Rosie Moriarty-Simmonds OBE

Mae Rosie Moriarty-Simmonds yn paentio 'Y Haul y Tu Hwnt i'r Tonnau'. © Rosie Moriarty-Simmonds

Mae Rosie Moriarty-Simmonds yn artist paentio ceg o Gaerdydd sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac sydd wedi ennill gwobrau. Mae'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth drwy waith celf, darlithoedd ysbrydoledig, a gwaith yn y cyfryngau.

Ar ôl oes o ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl, dyfarnwyd OBE i Rosie yn 2015. Roedd Rosie hefyd yn brif ymgyrchydd ar gyfer creu cofeb Thalidomid ym Mharc Cathays, Caerdydd, sy'n nodi bywydau a chyflawniadau pobl ledled y byd sydd â nam o ganlyniad i Thalidomid.

“Mae’r portread ohonof yn fy ngwisg Uchel Siryf (2022-23) yn arwyddocaol oherwydd fi yw’r person cyntaf i gael fy eni’n anabl ac ymgymryd â’r rôl. Gan y bydd yr arddangosfa’n cael ei harddangos i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, rwy’n gobeithio y bydd yn annog pobl anabl eraill i gymryd rolau cyhoeddus.” - Rosie Moriarty-Simmonds

 

Ted Harrison

Portread o Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE gan Ted Harrison. © Ted Harrison

Mae Ted Harrison yn artist sy’n byw yn Aberystwyth. Mae ei waith yn eang o ran ei arddull a'r cyfryngau a ddefnyddir, ac mae nifer o'i weithiau yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae Ted yn gweithio ar gyfres o bortreadau o bobl amlwg yng Nghymru.

“Y tro cyntaf i mi weld Rosie oedd ar y teledu, yn ei gwisg las wych fel Uchel Siryf De Morgannwg pan fu farw’r Frenhines, ac roedd hi’n cymryd rhan yn y seremonïau yng Nghastell Caerdydd. Wrth edrych ar-lein dysgais fwy amdani fel aelod hynod ddiddorol o’r genhedlaeth Thalidomid.” - Ted Harrison 

Ar ôl cael ei arddangos yn y Senedd, bydd portread Ted o Rosie yn ymuno â’r casgliad portreadau cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.