Mae Bywydau Du o Bwys: Pwyllgor yn y Senedd i gynnal arolwg o gerfluniau a henebion Cymru

Cyhoeddwyd 19/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Yn dilyn digwyddiadau diweddar yn ymwneud â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn y Senedd yn arolygu priodoldeb cerfluniau a henebion mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar bwy sy'n cael ei anrhydeddu mewn mannau cyhoeddus ac a oes angen canllawiau ar gyrff cyhoeddus i sicrhau ein bod ni'n parchu ein hanes heb hepgor cyd-destun hanfodol.

Bydd y gwaith hwn hefyd yn trafod pobl sydd heb gael eu hanrhydeddu, e.e. mae diffyg cerfluniau o fenywod a enwir.

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn sefydlu rhai egwyddorion arweiniol ynghylch pwy neu beth y dylid ei goffáu a sut i benderfynu mewn ffordd gytbwys a yw'n briodol parhau i ddangos rhai ffigyrau.

Fel man cychwyn, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio rhestr o gerfluniau mewn mannau cyhoeddus.

Ym Mryste yn ddiweddar, cafodd cerflun o Edward Colston, dyn a fasnachai gaethweision o Affrica i'r Caribî, ei dynnu i lawr gan brotestwyr, gan annog llawer o awdurdodau lleol i ystyried cael gwared ar henebion dadleuol tebyg.

Bydd cynghorwyr yng Nghaerdydd yn trafod symud penddelw marmor Syr Thomas Picton o Neuadd y Ddinas. Dathlwyd Picton fel arwr rhyfeloedd Napoleon, ond cyhuddwyd ef hefyd o ladd caethweision ac fe'i cafwyd yn euog o arteithio merch ifanc yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, er na chafodd ei ddedfrydu erioed.

Mae obelisg a godwyd er cof am Picton yn sefyll mewn lle amlwg yng Nghaerfyrddin, a bydd Cyngor Sir Caerfyrddin sut yr ymdrinnir â'r gofeb hon a chofebion tebyg yr wythnos nesaf.

"Mae'r angen am ddadl ynglŷn â phwy sy'n cael ei gynrychioli yn ein lleoedd cyffredin yn cynyddu o ran brys," meddai Helen Mary Jones AS, Cadeirydd dros dro Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Mae'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn taflu goleuni ar y caswir ac ni allwn ei anwybyddu mwyach.

"Bydd y Pwyllgor hwn yn edrych ar briodoldeb cerfluniau a henebion ledled Cymru, ac yn erbyn pa feini prawf y dylid eu barnu.

"Hoffem gasglu cymaint o safbwyntiau ag y gallwn ni ar y mater hwn a byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd i glywed yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud."

Gellir gweld manylion ar gyfer cyfrannu i'r ymchwiliad hwn, a rhagor o fanylion am waith Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ar wefan Senedd Cymru, neu trwy ddilyn @SeneddDGCh ar Twitter.