Mae cynnal digwyddiad ar ystâd y Senedd yn rhoi’r cyfle ichi godi proffil eich sefydliad a’r materion a’r pryderon sy’n berthnasol iddo.
P’un a yw rhywbeth yn effeithio ar eich tref neu bentref, neu’n fater sydd o bwys i’ch grwp buddiant neu gymdeithas, mae’r mannau sydd gan y Senedd ar gyfer cynnal digwyddiadau yn eich galluogi i wneud y mwyaf o ystâd y Senedd a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Mannau digwyddiadau

Mannau digwyddiadau y Senedd
Gellir cynnal digwyddiadau yn y Neuadd a’r Oriel. Mae’r ddwy lefel ar agor i’r cyhoedd yn ystod y dydd; maent felly yn lleoliadau gwych ar gyfer cynnal digwyddiadau sy’n targedu’r cyhoedd. Dim ond fin nos ac ar ôl i’r Cyfarfod Llawn orffen y gellir cynnal digwyddiadau ar gyfer gwesteion a wahoddwyd. Bryd hynny, mae’r Neuadd a’r Oriel yn lleoliadau gwych ar gyfer eich digwyddiad neu lansiad. Mae’r Neuadd yn lleoliad perffaith ar gyfer adloniant, ac o’r Oriel ceir golygfeydd gwych dros Fae Caerdydd, sef y cefndir perffaith i areithiau.
Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:
- Derbyniadau;
- Digwyddiadau rhyngweithio;
- Stondinau gwybodaeth;
Gwybodaeth bwysig am wneud cais i gynnal digwyddiad
Ni fydd ceisiadau newydd yn cael eu hystyried fwy na chwe mis cyn y digwyddiad. Bydd ceisiadau a gyflwynir mwy na chwe mis ymlaen llaw yn cael eu cadw ar ffeil ac yn cael eu hystyried chwe mis cyn y dyddiad y gofynnwyd amdano.
Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yw’r diwrnodau mwyaf poblogaidd, ac er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud trefniadau ar gyfer eich dyddiad a'ch lleoliad dewisol, efallai y bydd angen i ni awgrymu dyddiad neu leoliad sy’n wahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano ar eich ffurflen gais.
Rhaid i bob digwyddiad gael ei noddi gan Aelod o'r Senedd. Er mwyn gofyn i Aelod noddi eich digwyddiad, cysylltwch ag Aelod yma.
Darperir cymorth cynllunio digwyddiadau, cymorth clyweledol a chyfieithu ar y pryd fel rheol ar gyfer pob digwyddiad a gynhelir yn ystod ein horiau arferol.
Rhaid i bob deunydd cyhoeddusrwydd ddangos yn glir enw'r Aelod o’r Senedd sy'n noddi’r digwyddiad. Rhaid i chi gyflwyno'r holl wahoddiadau, hysbysiadau neu gylchlythyrau sy’n cyfeirio at y digwyddiad i'n Tîm Lleoliadau, yn lleoliadau@senedd.cymru, i'w cymeradwyo cyn eu defnyddio. Os na fyddwch yn cydymffurfio â'r cam hwn, gallai arwain at ganslo eich digwyddiad.
Sut i wneud cais i gynnal digwyddiad
- Llenwch ffurflen gais, gan roi cymaint o fanylion â phosibl am eich digwyddiad. Rydym yn argymell gwneud cais bump i chwe mis cyn dyddiad eich digwyddiad.
- Ar ôl i ni gael eich cais, bydd yn cael ei asesu a'i adolygu i sicrhau ei fod yn bodloni ein telerau a’n hamodau.
- Os caiff eich digwyddiad ei gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a drefnwyd ac i roi gwybodaeth am y camau nesaf.
- Cyn i'ch digwyddiad gael ei gynnal, bydd angen i ni gael prawf bod Aelod o'r Senedd yn noddi’r digwyddiad, a chopi o destun eich gwahoddiad i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.
- Chwech i wyth wythnos cyn eich digwyddiad, byddwch yn cael gwybod pa Swyddog Digwyddiadau fydd yn gweithio gyda chi i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer eich digwyddiad.
- Rhaid i chi wahodd pob un o'r 60 o Aelodau o'r Senedd i’ch digwyddiad, mae rhagor o fanylion am ein telerau a’n hamodau ar gael yma.
Trefnu bod Aelod yn noddi eich digwyddiad
- I gael gwybod pwy sy'n eich cynrychioli, ewch i dudalen yr Aelodau neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
- Fel arall, gallwch anelu eich digwyddiad at bwyllgor penodol – ewch i dudalen y pwyllgorau i weld rhestr o’r pwyllgorau a’r Aelodau o'r Senedd sydd ar bob pwyllgor.
- I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â'r Tîm Lleoliadau yn lleoliadau@senedd.cymru neu ffoniwch ni yn uniongyrchol ar 0300 200 6208.