Mae’r Senedd a’r Pierhead yn gartref i raglen reolaidd o arddangosfeydd, sy’n rhoi’r cyfle i chi godi proffil eich sefydliad neu gymuned a’i ddyheadau a’i bryderon.
Mae’r arddangosfeydd yn rhai thematig i adlewyrchu cyfrifoldebau a blaenoriaethau’r Senedd, neu cânt eu curadu mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol i arddangos treftadaeth ddiwylliannol Cymru neu i ddangos arwyddocâd eang ar lwyfan y byd.
Gweler enghreifftiau o arddangosfeydd y gorffennol yma.
Mannau arddangos
Sut i wneud cais am arddangosfa
- Cwblhewch y ffurflen gais arddangosfa gyda chymaint o fanylion â phosibl.
- Dylai pawb sy'n trefnu arddangosfa ddarllen dros delerau ac amodau'r Senedd cyn cwblhau a chyflwyno cais.
- Mae tîm Arddangosfeydd y Senedd yn gwerthuso ceisiadau yn rheolaidd. Cynhelir adolygiad o geisiadau newydd ar ddechrau bob tymor.
- Yn dilyn yr adolygiad byddwch yn derbyn e-bost gyda'r canlyniad.
- Os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd angen ichi wedyn ofyn am nawdd gan Aelod o’r Senedd er mwyn i’ch arddangosfa gael ei chadarnhau.
Mae arddangosfeydd yn y Senedd fel arfer yn rhedeg am 6-12 wythnos, ac mae angen o leiaf 3 mis ar gyfer ceisiadau newydd.
cysylltu
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â’r Tîm Lleoliadau yn lleoliadau@senedd.cymru neu ffoniwch ni’n uniongyrchol ar 0300 200 6218.