Cynlluniwch eich ymweliad addysgol

Cyhoeddwyd 26/01/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2025   |   Amser darllen munudau

Gwybodaeth bwysig cyn i chi ymweld

Bydd Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn goruchwylio eich ymweliad â Senedd Cymru a bydd yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch. 

Bydd pob ymweliad yn cychwyn yn y Senedd. 

Mae’n hanfodol eich bod yn brydlon er mwyn mynd drwy’r gweithdrefnau diogelwch. Mae hyn yn gallu cymeryd 10-15 munud.

Bydd yr ymweliad yn dechrau gyda thaith dywys o'r Senedd. Oherwydd gwaith adeiladu yn y Siambr i baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd ni fydd yr Oriel Gyhoeddus a Siambr Hywel ar gael i ymwelwyr am gyfnod. O ganlyniad, cynhelir gweithgareddau yng Nghanolfan yr Urdd.

 


Asesiad Risg

Mae’r Senedd wedi cynnal Asesiad Risg cyffredinol ar gyfer cyfnodau y bydd ysgolion yn ymweld â safle’r Senedd, a hynny o dan arweiniad y Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Byddwn yn anfon copi o'r Asesiad Risg atoch ar ôl cwmblau y broses archebu. Rhaid i Arweinwyr Grwpiau ddarllen yr asesiad hwn yn fanwl, sicrhau eu bod yn deall y mesurau rheoli a'r gofynion a osodir ar y grŵp.

 

Goruchwyliaeth a Maint y Grŵp  

Mae holl aelodau’r Tîm Addysg yn athrawon neu’n weithwyr ieuenctid cymwysedig sydd hefyd wedi cael hyfforddiant priodol yn unol â gweithdrefnau hyfforddi Senedd Cymru.  

Mae aelodau’r Tîm yn gwisgo bathodynnau adnabod sy’n dangos yn glir eu bod yn aelodau o staff y Senedd. 

Y grŵp mwyaf o ran niferoedd a ganiateir gan y Senedd yw 50 o staff a disgyblion. Os bydd angen i chi archebu ar gyfer grŵp mwy, cysylltwch â ni oherwydd mae’n bosibl y gallwn ddarparu ar eich cyfer.

Mae’n hanfodol bod disgyblion yn cael eu goruchwylio’n ddigonol yn ystod eu hymweliad â’r Senedd. Cyfrifoldeb Arweinydd y Grŵp sy’n ymweld yw sicrhau bod lefel briodol o oruchwyliaeth ar bob adeg. Dylai’r oruchwyliaeth honno gydymffurfio â gofynion unrhyw Awdurdod Addysg Lleol. 

Ni ddylai’r staff sy’n goruchwylio adael eu grŵp heb oruchwyliaeth ar unrhyw adeg. 

Gwybodaeth i Ddisgyblion  

Cyn yr ymweliad, yn ogystal â’r canfyddiadau a nodwyd yn eich asesiad risg eich hun, dylid rhannu cynnwys asesiad risg cyffredinol y Senedd â’r disgyblion a’r staff a fydd yn dod ar yr ymweliad. Ar y lleiaf, dylai’r disgyblion ddeall y pwyntiau a ganlyn:  

  • Diben ac amcanion yr ymweliad 
  • Y peryglon a nodwyd ac unrhyw gamau rhagofalu a drefnwyd  
  • Safon yr ymddygiad a ddisgwylir  
  • Pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau Arweinydd y Grŵp a staff Senedd Cymru  
  • Pwy sy’n gyfrifol am y grŵp  
  • Beth i’w wneud os bydd rhywun o’r tu allan i’r grŵp yn dod atyn nhw 

Dylai’r disgyblion hefyd ddeall bod y Senedd yn weithle ac yn lle sydd ar agor i’r cyhoedd. 

Gofynion o ran Mynediad

Mae’n bwysig i chi roi gwybod i’r tîm archebu am unrhyw ofynion mynediad neu anghenion arbennig ar ddechrau’r broses archebu. 

Tynnu Lluniau 

Fel rhan o’r ymweliad, mae’n bosibl y byddwn yn tynnu lluniau o’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau. 

Mae’n bosibl y bydd y delweddau hyn yn ymddangos mewn cyhoeddiadau argraffedig neu ar wefan y Senedd a/neu wefan Aelodau o’r Senedd.

Os caiff y delweddau hyn eu cyhoeddi, ni fyddwn yn cyfeirio at y disgyblion wrth eu henwau. 

Eiddo Personol  

Bydd angen i’ch holl eiddo personol fynd drwy’r sganiwr pelydr-X wrth ichi gyrraedd. Rhaid i’r disgyblion sicrhau nad oes unrhyw eitemau miniog (e.e. sisyrnau, cyllyll ffrwythau) yn eu heiddo personol.

Bydd y Swyddogion Diogelwch yn mynd ag unrhyw eitemau o’r fath ar gyfer hyd yr ymweliad. Nid oes cyfleusterau ar gael i ddisgyblion storio eu heiddo, felly dylech eu cynghori i ddod â chyn lleied o eiddo personol â phosibl.

Y disgyblion eu hunain a fydd yn gyfrifol am eu heiddo personol yn ystod yr ymweliad. 

Gadael yr Adeilad Mewn Argyfwng

Yn ystod eich ymweliad, bydd eich Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn rhoi cyfarwyddiadau sy’n addas i oedran eich grŵp, gan gynnwys gwybodaeth am weithdrefnau tân, ymddygiad ar y safle, ac unrhyw beryglon posibl a all godi yn ystod yr ymweliad. Caiff yr ymddygiad a ddisgwylir yn ystod y daith ei amlinellu cyn cychwyn.

Pan fydd larymau tân yn cael eu seinio unrhyw le yn yr adeilad, byddant yn canu’n ddi-dor. Bydd y Swyddog Addysg ac aelodau o staff (yn cynnwys y Wardeiniaid Tân) yn sicrhau bod y grŵp yn gadael yr adeilad ar unwaith drwy’r allanfa agosaf. Dylai’r grŵp fynd yn syth i’r Man Ymgynnull Tân perthnasol.  

Cyfleusterau Cymorth Cyntaf

Mae ystafelloedd a chyfarpar cymorth cyntaf ar gael os bydd eu hangen. Rhowch wybod i’r Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc neu aelod o’r Tîm Diogelwch am unrhyw ddigwyddiad neu ddamwain sy’n digwydd i aelod o’r grŵp addysg yn ystod yr ymweliad â’r safle. 

Rhaid i Arweinwyr Grwpiau lenwi ffurflen ddamwain neu ddigwyddiad. Bydd y ffurflen yn cael ei hanfon at y Tîm Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd.