Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 2 Rhagfyr 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa ganran o gyfanswm y boblogaeth yn Ardal Adfywio Strategol Blaenau’r Cymoedd a ddaw o bob un o’r awdurdodau lleol. (WAQ55195) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn 2008, canran y boblogaeth gyfan yn Ardal Adfywio Strategol Blaenau'r Cymoedd o bob un o'r awdurdodau lleol a gwmpesir gan ffiniau'r rhaglen yw:
Rhondda Cynon Taf: 30%
Merthyr Tudful: 22%
Caerffili: 12%
Blaenau Gwent: 28%
Tor-faen: 8%
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth oedd swm a chanran cyfanswm gwariant Ardal Adfywio Strategol Blaenau’r Cymoedd a ddyrannwyd i bob un o’r awdurdodau lleol ar gyfer pob blwyddyn o’r rhaglen Ardal Adfywio Strategol hyd yn hyn. (WAQ55196) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Leighton Andrews: Ers 2005, mae Ardal Adfywio Strategol Blaenau'r Cymoedd wedi buddsoddi dros £68m mewn gweithgareddau adfywio ledled ardal y rhaglen. Yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen, canolbwyntiwyd ar fuddsoddi mewn prosiectau effaith fawr ym mhob un o'r pum ardal awdurdod lleol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae model ariannu poblogaeth/amddifadedd wedi dechrau cyfeirio adnoddau i ddarparu cynlluniau adfywio Ardal Gyfannol ym mhob ardal. Nodir dadansoddiad o'r arian (blwyddyn, swm, canran) yn ôl awdurdod lleol isod:
GWARIANT ARDAL ALL BLAENAU'R CYMOEDD |
06/07 |
07/08 |
08/09 |
09/10 (3ydd chwarter) |
CYFANSWM (gan gynnwys £1.8m ar gyfer 05/06 a ddyrannwyd mewn pum ardal) |
Rhondda Cynon Taf |
£3.1m (20%) |
£3.4m (20%) |
£3.98m (20.6%) |
£3.24m (22.4%) |
14.08 (20.8) |
Merthyr Tudful |
£3.1m (20%) |
£3.4m (20%) |
£3.6m (18.5%) |
£3.0m (20.7%) |
13.46 (19.7) |
Caerffili |
£3.1m (20%) |
£3.4m (20%) |
£3.29m (16.9%) |
£2.66m (18.4) |
12.81 (18.5) |
Blaenau Gwent |
£3.1m (20%) |
£3.4m (20%) |
£4.7m (24.3%) |
£3.14m (21.7) |
14.70 (21.9) |
Tor-faen |
£3.1m (20%) |
£3.4m (20%) |
£3.8m (19.7%) |
£2.44m (16.8%) |
13.1 (19.1) |
£15.5m |
£17m |
£19.37m |
£14.48 |
£68.15 (nodyn - yn cynnwys £1.8m ar gyfer 05/06) |
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaethpwyd at bumed gwasanaeth ar Reilffordd Calon Cymru. (WAQ55197)
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Mae fy swyddogion a rhanddeiliaid yn y diwydiant gan gynnwys Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Fforwm Llinell Calon Cymru yn ailystyried astudiaeth arfarnu Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WELTAG) 2008 ar gyfer gwasanaethau ychwanegol ar Linell Calon Cymru.
Mae'r astudiaeth ddichonoldeb bron â'i chwblhau a disgwyliaf gael y canlyniadau ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyflymder y caiff trenau deithio ar reilffordd Calon Cymru a pha drafodaethau y mae wedi’u cael â rhanddeiliad priodol gyda golwg ar waith cyfalaf a allai helpu trenau i deithio’n gynt. (WAQ55198)
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Y cyflymder uchaf y caniateir i drenau yng Nghymru deithio ar Linell Calon Cymru yw 60 mya ond mae'r nifer fawr o groesfannau a chroesfannau fferm ar y llinell yn lleihau hyn yn sylweddol mewn mannau.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am waith cyfalaf i Linell Calon Cymru. Nid yw'r astudiaeth arfarnu WELTAG gyfredol a gomisiynwyd gennyf i nodi atebion posibl i'r amserlen er mwyn darparu gwasanaeth gwell ar y llinell hon yn dibynnu ar welliannau mewn seilwaith.
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaethpwyd at sefydlu Fforwm Preswylwyr Cartrefi mewn Parciau. (WAQ55199) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai
Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009
Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Rydym wrthi'n cynnal ymarfer mawr i gasglu data mewn perthynas â chartrefi mewn parciau er mwyn creu darlun mwy cyflawn o nifer y safleoedd, y perchnogion a'r preswylwyr yng Nghymru. Unwaith y bydd y wybodaeth hon gennym, byddwn mewn sefyllfa well i ddatblygu'r broses o sefydlu fforwm. At hynny, yn ddiweddar buom yn blaenoriaethu gwaith ar sefydlu'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl fel y corff dyfarnu ar gyfer datrys anghydfodau a threfniadau trwyddedu safle diwygiedig. Bydd y ddau fesur yn diogelu buddiannau preswylwyr cartrefi mewn parciau ymhellach.
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wario ar hyn o bryd ar iechyd y geg ymysg oedolion yn Wrecsam. (WAQ55192)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wario ar hyn o bryd ar iechyd y geg ymysg oedolion yng Nghymru. (WAQ55193)
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu'r wybodaeth hon.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod yr holl gleifion a symudwyd oddi ar y rhestri aros orthopedig yn 2007/08 yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro ac a roddwyd yn ôl wedyn yn 2008/09 wedi cael eu trin. (WAQ55194)
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod pob claf gwasanaeth iechyd meddwl fforensig yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau triniaethau cyffuriau ac alcohol angenrheidiol. (WAQ55186)
Rhoddwyd ateb ar 10 Rhagfyr 2009
Mae strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yn pwysleisio'r angen i wasanaethau gydweithio i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ynghyd â phroblemau iechyd meddwl.
Cyhoeddwyd modiwl camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl y fframwaith trin camddefnyddio sylweddau gyntaf ym mis Tachwedd 2004 ac mae'n rhoi canllawiau clir ar ddatblygu llwybrau gofal integredig a sefydlu gweithdrefnau rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl ar gyfer y grŵp cleient hwn. Ail-lansiwyd y modiwl hwn ym mis Rhagfyr 2007 a rhoddwyd y pwyslais ar sicrhau bod rheolwyr gwasanaeth iechyd meddwl yn arwain y gwaith o sefydlu'r gweithdrefnau hyn.
Mae sefydlu'r gweithdrefnau hyn yn ofyniad o dan Gam Gweithredu 37 o Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol diwygiedig iechyd meddwl oedolion.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am system monitro triniaethau cyffuriau cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ55187)
Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009
Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn darparu data ar bobl sy'n cael triniaeth ar gyfer problemau'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Mae'n ofynnol i'r holl ddarparwyr gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno gwybodaeth i'r gronfa ddata.
Mae'r gronfa ddata yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i fonitro cyflawniadau yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, a chaiff pob adroddiad chwarterol a blynyddol ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn asesu ac yn diwallu anghenion plant sy’n byw gyda rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau. (WAQ55188)
Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009
Mae 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', strategaeth camddefnyddio sylweddau deng mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i leihau'r niwed i blant a phobl ifanc o ganlyniad i'r ffaith bod aelod o'r teulu yn camddefnyddio sylweddau. Mae'r camau hyn yn hanfodol i gefnogi strategaethau tlodi plant a cham-drin domestig Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae camau o'r fath yn cynnwys rhoi Dull Integredig ar gyfer Asesiad Trylwyr o Gamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru (WIISMAT) a Phrotocolau Cydweithio rhwng gwasanaethau Cam-drin Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau ar waith, y mae'r ddau ohonynt yn darparu canllawiau arfer gorau ar asesu risg i blant a phobl ifanc a'r prosesau atgyfeirio pellach priodol. Mae canllawiau hefyd wedi'u cyhoeddi i bartneriaid statudol Byrddau Lleol Diogelu Plant, sy'n cyfeirio'n benodol at ymateb i anghenion plant sydd â rhieni sy'n camddefnyddio sylweddau.
Ymhlith y mentrau eraill sy'n cael eu rhoi ar waith i ddiogelu plant sy'n agored i niwed a chefnogi ymyriadau teuluol mae cyflwyno'r Rhaglen Atgyfnerthu Teuluoedd a sefydlu'r Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd amlddisgyblaethol. Bydd y timau hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol medrus a phrofiadol a gaiff eu cefnogi'n dda a fydd yn cyflwyno model rhagnodedig o ymyriadau teuluol i deuluoedd bregus lle mae'r ffaith bod y rhieni yn camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar les y plant ac felly maent yn wynebu risg.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o oedolion sy’n cael triniaethau cyffuriau neu alcohol sy’n rhieni. (WAQ55189)
Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009
Yn ôl y wybodaeth reoli ddiweddaraf sydd ar gael gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, ar 30ain Mehefin 2009 roedd 4,360 o gleientiaid camddefnyddio sylweddau (sy'n defnyddio gwasanaethau trin ar hyn o bryd) a oedd ag o leiaf un plentyn naill ai'n byw gyda hwy neu'n byw mewn man arall.
David Melding (Canol De Cymru): Pa gyfraniad a fu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru at benodi Comisiynydd Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. (WAQ55190)
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Cynrychiolwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar lefel swyddogol yn ystod y broses benodi, a cheisiwyd cymeradwyaeth y Prif Weinidog ar gyfer y penodiad.
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r broses penodi ar gyfer Comisiynydd Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac a wnaiff ddatganiad. (WAQ55191)
Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009
Mae hwn yn benodiad statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Gwneir y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus (OCPA). Croesawaf benodiad Ann Beynon OBE fel Comisiynydd Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch i Dr Neil Wooding, y cyn-Gomisiynydd, am ei gyfraniad cadarnhaol iawn at Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.