03/03/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 3 Mawrth 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 3 Mawrth 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros a thargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn (WAQ55707)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Comisiwn Iechyd Cymru sy'n gyfrifol am sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru ac mae'n comisiynu'r gwasanaeth hwnnw gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd y Cyhoedd Cymru.  

Yn ôl y targed amseroedd aros, mae'n rhaid i bobl sy'n cael diagnosis o ganser y coluddyn yn sgîl atgyfeiriad gan y rhaglen sgrinio ddechrau cael eu triniaeth ddiffiniol o fewn 31 diwrnod ar ôl cael diagnosis.

Nid oes ystadegau perfformiad sy'n benodol i ganser y coluddyn yn erbyn y targed hwn ar gael yn ganolog, ond cynhwysir y data hwn yn yr ystadegau ar ganser gastro-berfeddol is. Cyhoeddir yr ystadegau diweddaraf ar wefan StatsCymru yn http://www.statscymru.cymru.gov.uk/index.htm

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd y cyfanswm a wariwyd ar raglen Her Iechyd Cymru ym mhob blwyddyn ers ei sefydlu, fesul ardal awdurdod lleol.  (WAQ55709)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Nid yw'r wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani ar gael yn ganolog.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru. (WAQ55710)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod y gall maeth gwael a diffyg gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc gynyddu'r risg o gael problemau iechyd pan fyddant yn oedolion.    Rydym yn cymryd camau i atal gordewdra drwy ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Ffitrwydd Pum Mlynedd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Mae'r cynllun yn nodi rhai o'r ffyrdd rydym yn helpu i gefnogi rhieni a phlant a phobl ifanc yn eu hymdrechion i fwyta'n iach a chadw'n heini. Er mwyn mynd i'r afael â gordewdra pobl ifanc yn benodol mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi peilot o raglen MEND yng Nghymru, gan fuddsoddi £1.2 miliwn dros dair blynedd. Rhaglen atgyfeirio gymunedol ar gyfer gordewdra sy'n canolbwyntio ar y teulu yw MEND, sef "Mind, Exercise, Nutrition…Do it!”, ar gyfer plant rhwng 7 a 13 oed sydd dros bwysau neu'n ordew. Yn ogystal â hynny rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan drafft. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, caiff ei ddefnyddio gan Fyrddau Iechyd, gyda'u partneriaid, fel dull o adolygu polisïau lleol, gwasanaethau a gweithgarwch trawsadrannol ac amlasiantaeth ar orbwysedd a gordewdra.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ddangosyddion perfformiad sydd ar waith ar gyfer y rhaglen Her Iechyd Cymru. (WAQ55712)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Mae Her Iechyd Cymru yn cynnwys nifer o raglenni ac mae gan bob rhaglen unigol ei dangosyddion perfformiad ei hun.  Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn enghraifft allweddol, ynghyd â Chynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru.

Dangosydd y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff:

• Nifer y cyfranogwyr sy'n dechrau'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (sef y nifer sy'n mynd i'r ymgynghoriad cyntaf).

Dangosyddion Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru:

• Sicrhau bod pob ysgol a gynhelir gan AALl yn cymryd rhan yn Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru erbyn mis Mawrth 2010.

• Erbyn 2012, sicrhau bod 60% o'r holl ysgolion a gynhelir yn cyflawni Cam 3 Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru, a sicrhau bod 3% o'r holl ysgolion a gynhelir yn derbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol y Rhwydwaith.

• Erbyn 2015, sicrhau bod 95% o'r holl ysgolion a gynhelir yn cyflawni Cam 3 Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru, a sicrhau bod 10% o'r holl ysgolion a gynhelir yn derbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol y Rhwydwaith.

Ceir rhagor o enghreifftiau ar wefannau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A chofio y dylai pob meddyg dan hyfforddiant gael un prynhawn ar gyfer hyfforddiant fel ymarferydd cyffredinol, mewn ysbytai gyda swyddi hyfforddi cofrestryddion mewn practis cyffredinol, sawl meddyg dan hyfforddiant sydd wedi cwblhau ei gwota llawn o hyfforddiant, a pha ganran sy’n cael ei gymryd o'r cyfanswm o hyfforddiant hanner diwrnod.  (WAQ55713)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Ar y cynlluniau hyfforddi meddygon teulu mwyaf, megis Caerdydd ac Abertawe (sydd â mwy na 60 o hyfforddeion), nid yw'n ymarferol i bob hyfforddai fynd i sesiynau hyfforddi hanner diwrnod yn rheolaidd yn ogystal â sesiynau addysgu'r adran. Mae patrymau sifft, rotas, y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd, maint y Ganolfan Ôl-raddedig a nifer yr athrawon, oll yn rhesymau posibl dros hyn.

Bydd y nifer sy'n mynychu'r sesiynau hyfforddi hyn yn gyffredinol yn amrywio bob blwyddyn ac nid oes ffigurau ar gael o ran presenoldeb ar lefel 'Cymru gyfan'.