06/10/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 6 Hydref 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 6 Hydref 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ac ystyried yr A470 rhwng Ganllwyd a Dolgellau, (a) pryd fydd y gwaith yn bwrw ymlaen i ledu’r ffordd, (b) pam mae’r gwaith yn cymryd cyn hired, ac (c) a osodwyd dyddiad ar gyfer cwblhau’r gwaith i ledu’r ffordd? (WAQ52540)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Ieuan Wyn Jones: Cynigir dau gynllun yn yr ardal hon. Bydd y cyntaf, y cyfeirir ato fel cynllun Interim A470 Gelligemlyn yn mynd i’r afael â’r hyd a reolir ar hyn o bryd gan oleuadau traffig lle mae’r cymorth ymylol yn achosi pryder. Mae gwaith paratoadol hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gyfer hyd estynedig o welliant ffordd yn y lleoliad hwn.

Mae’r ddau gynllun yn mynd drwy ardal sy’n sensitif iawn yn amgylcheddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r angen i gydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd wedi golygu cynnal arolygon ac asesiadau amgylcheddol sydd wedi cymryd cryn dipyn o amser. Gobeithiaf wneud cyhoeddiad ynglŷn â’r ddau gynllun cyn diwedd y flwyddyn.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A allwch gadarnhau a yw Awdurdod Cynllunio Lleol yn gywir i ddefnyddio’r swm £10,000 o elw fel y prawf ariannol ar gyfer TAN 6 ac egluro a nodir y swm hwn yn TAN 6? (WAQ52544)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nid yw Polisi Cynllunio Cymru na Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Datblygiad Amaethyddol a Gwledig yn nodi swm o ran y profion ariannol sydd eu hangen wrth ystyried anheddau newydd hanfodol yng nghefn gwlad. Mae TAN 6 yn nodi bod yn rhaid i’r uned amaethyddol a gweithgaredd fod wedi’i sefydlu am o leiaf dair blynedd, yn broffidiol am o leiaf un ohonynt, yn ariannol gadarn ar hyn o bryd, a’r rhagolygon yn nodi’n glir y bydd yn parhau felly. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal asesiadau ariannol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio o’r fath. Mewn rhai achosion (fel y dynodir yn TAN 6) mae awdurdodau cynllunio lleol yn gofyn am geisiadau a ategir gan arfarniad technegol annibynnol a gomisiynir gan yr ymgeisydd.

Ar hyn o bryd mae TAN 6 yn cael ei adolygu a chaiff ymgynghoriad cyhoeddus llawn ei gynnal maes o law.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn ystyried symleiddio cynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru i sicrhau na fydd oedi diangen mewn prosesau cynllunio? (WAQ52549)

Jane Davidson: Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod yr angen i hyrwyddo prosiectau seilwaith newydd a pharhau i adolygu prosesau cynllunio a phrosesau caniatâd rheoleiddiol. Mae’n bwysig cydbwyso cyflymder gwneud penderfyniad ag ystyriaeth briodol o oblygiadau prosiectau o’r fath o ran cymunedau a’r amgylchedd ledled Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Mewn perthynas ag ardrethi busnes, pa ystyriaeth a roddir i eithriadau ar gyfer eiddo sydd wedi cael eu hadeiladu i greu swyddi yn hytrach nag at ddibenion adwerthu? (WAQ52547)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae’r rhan fwyaf o eiddo busnes a feddiennir yn atebol am ardrethi annomestig ac fe’i defnyddir ar gyfer gweithgareddau economaidd neu weithgareddau eraill sy’n cynhyrchu gweithgarwch economaidd ac yn cyfrannu tuag at greu swyddi. Cyfarfyddais yn ddiweddar â’r CBI a datblygwyr eiddo a’u gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ddilysadwy i’r Adran Economi a Thrafnidiaeth o unrhyw effaith andwyol ar yr economi y gellir ei phriodoli i’r newidiadau i ryddhad ardrethi ar gyfer eiddo gwag ond nid ydynt wedi gwneud hynny eto.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn perthynas ag ardrethi busnes ar eiddo gwag? (WAQ52548)

Brian Gibbons: Rhoddod Llywodraeth y DU y gorau i ariannu rhyddhad ardrethi yng Nghymru a Lloegr ar gyfer eiddo diwydiannol a oedd yn wag am fwy na chwe mis, ac unrhyw eiddo masnachol arall a oedd yn wag am fwy na thri mis ar 1af Ebrill 2008. Pe na bai Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud yr un newidiadau yng Nghymru â Llywodraeth y DU yn Lloegr, byddai wedi gorfod ymgymryd â chostau ariannu’r rhyddhad hwn.

Argymhellodd Adroddiad Barker ar Gynllunio’r Defnydd o Dir y dylai Llywodraeth y DU wneud gwell defnydd o gymhellion ariannol i annog defnydd effeithlon o dir wedi’i ddatblygu ac, yn arbennig, y dylid diwygio rhyddhad ardrethi busnes, o ran eiddo gwag. Wedi hynny, argymhellodd adroddiad Ymchwiliad Lyons hefyd, a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2007, y dylid diwygio a lleihau rhyddhad ardrethi busnes sy’n bodoli eisoes o ran eiddo gwag. Dylai’r newidiadau hyn i ardrethi eiddo gwag annog perchnogion i barhau i ddefnyddio eu hadeiladau. Dylai perchnogion eiddo gwag sy’n ei chael yn anodd rhentu neu werthu eu heiddo ystyried adolygu dull marchnata a phrisio eu heiddo.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Mewn perthynas ag ardrethi busnes ar eiddo gwag, pa ystyriaeth a roddir i eithriadau ar gyfer ardaloedd Amcan Un? (WAQ52556)

Brian Gibbons: Mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth wedi rhoi pecyn helaeth o fesurau ar waith i ddatblygu’r economi yn ardaloedd Amcan Un, ac nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried bod ariannu rhyddhad ardrethi i berchnogion eiddo gwag yn ffordd gosteffeithiol o helpu busnesau. Yn ddiweddar cyhoeddais ychwanegiadau at ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach a fydd o fudd i fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd Amcan Un.