10/02/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Chwefror 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 10 Chwefror 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cynnydd o ran gweithredu Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd drwy’r hen safle Corus i Draffordd yr M4. (WAQ55586)

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa bryd y bydd ymgynghori’n dechrau ynghylch y cysylltiad rhwng Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd drwy’r hen safle Corus a Thraffordd yr M4. (WAQ55587)

William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa bryd fydd y Gweinidog yn gallu cyhoeddi amcan gost y cysylltiad rhwng Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd drwy’r hen safle Corus a Thraffordd yr M4. (WAQ55588)

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa bryd y bydd y cynlluniau ar gael ar gyfer y cysylltiad rhwng Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd drwy’r hen safle Corus a Thraffordd yr M4. (WAQ55589)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, Corus a Rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cynllun a chynllunio'r gwaith adeiladu i gysylltu Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd â Thraffordd yr M4 drwy hen safle Corus.  Bwriedir dechrau'r gwaith adeiladu ar ddechrau 2011, a'r gost amcangyfrifedig ar hyn o bryd yw tua £20 miliwn.  Bydd cynlluniau'r Ffordd ar gael yn yr haf.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyfrifo ffioedd cynllunio yn seiliedig ar arwynebedd gwirioneddol y tyrbin gwynt ei hun, yn hytrach nag ar nifer hectarau’r safle cyfan.  (WAQ55583)

Rhoddwyd ateb ar 2 Mawrth 2010

Ystyriwyd lefel ffioedd ceisiadau cynllunio ar gyfer tyrbinau gwynt wrth baratoi'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig)(Diwygio)(Cymru) 2009. Cyfrifir ffioedd ar gyfer tyrbinau a gyflwynir o dan ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref ar sail maint ardal safle'r cais sy'n cynnwys y tyrbinau ac nid swm yr ôl troed ar gyfer pob tyrbin. Mae hyn oherwydd bod tyrbinau ar ffermydd gwynt yn cael eu cysylltu gan lwybrau gwasanaeth a cheblau tanddaearol. Mae ein dull yn gyson â'r hyn ddefnyddir mewn ardaloedd eraill yn y DU.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o allu Asiantaeth Amgylchedd Cymru i gyflawni ei swyddogaeth o warchod yr amgylchedd petai unrhyw ddigwyddiadau’n codi yn sgil sefydlu Gorsaf Bŵer Doc Penfro.  (WAQ55584)  

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi ynghylch pwy fyddai’n gyfrifol am warchod yr amgylchedd petai unrhyw ddigwyddiadau’n codi yn sgil sefydlu Gorsaf Bŵer Doc Penfro, sy’n fater a gadwyd yn ôl yn llwyr gan Lywodraeth y DU. (WAQ55585)

Rhoddwyd ateb ar 2 Mawrth 2010

Atebaf WAQ55584 a WAQ55585 gyda'i gilydd.

Ar hyn o bryd, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn disgwyl derbyn cais gan RWE Npower i weithredu gorsaf ynni nwy ym Mhenfro. Er ei bod yn rhy gynnar i'r Asiantaeth wneud sylw am lwyddiant y cais, gall roi ymateb cyffredinol am y ffordd y mae'n diogelu'r amgylchedd rhag cyfleusterau o'r math hwn a ganiateir.

Mae gan hawlebau'r Asiantaeth amodau safonol ynddynt i reoleiddio allyriadau o ffynonellau ac i sicrhau bod cynlluniau rheoli ar gyfer allyriadau yn eu lle. Mae'n ofynnol hefyd i systemau rheoli fod mewn lle sy'n adnabod a lleihau risg llygredd, gan gynnwys llygredd o weithrediadau, gwaith cynnal a chadw, damweiniau, digwyddiadau, diffyg cydymffurfiaeth a chau yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu dwyn i sylw'r gweithredwr o ganlyniad i gwynion. Yr Asiantaeth fyddai'n gyfrifol am reoleiddio llygredd o'r broses awdurdodedig.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymatebydd Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ac mae ganddi brofiad o ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud â llygredd. Mae'r Asiantaeth yn ymarfer yn aml â phartneriaid er mwyn sicrhau y gall ymateb yn sydyn i ddigwyddiadau yn ymwneud â llygredd o amgylch Aberdaugleddau. Byddai'r ymateb i ddigwyddiad yn dibynnu ar ei natur a'i ddifrifoldeb a'r cynllun argyfwng priodol y dylid ei ddilyn.

Mae pum safle haen uchel o amgylch Aberdaugleddau fel y'u diffinnir gan Reoliadau Rheoli Damweiniau Mawr a Pheryglon (COMAH) 1999. Mae'n bosibl y bydd yr orsaf ynni arfaethedig ym Mhenfro yn safle COMAH haen is.

Mae'r Asiantaeth wedi ymarfer sawl achos posibl o lygredd o ganlyniad i ddigwyddiad yn y cyfleusterau presennol, neu long yn nesáu at lanfa neu gyfleusterau porthladd yn Aberdaugleddau. Mae'r Asiantaeth wedi'm sicrhau bod pob ymatebydd yn deall ac wedi ymarfer ei rôl.

Mae gan yr Asiantaeth raglen hyfforddiant ac ymarfer barhaus i sicrhau bod y lefelau ymateb yn cael eu cadw.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer gwasanaethau i gleifion â demensia.  (WAQ55590)

Rhoddwyd ateb ar 2 Mawrth 2010

Rwy'n ymrwymedig i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer pobl â demensia. Y llynedd sefydlwyd grŵp, dan gadeiryddiaeth Ian Thomas, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer yng Nghymru, i oruchwylio'r gwaith ar fersiwn ddrafft y Cynllun Demensia Cenedlaethol, a fu'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar ôl hynny.

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae chwe maes blaenoriaeth wedi'u nodi ar gyfer gwella ac rwyf wedi sefydlu grwpiau o arbenigwyr allanol, annibynnol ym mhob un o'r meysydd hyn.  Mae cadeiryddion yn cael eu penodi i arwain y grwpiau hyn a byddant yn cyfarfod yn fuan i gynllunio'r blaenoriaethau allweddol i wella bywydau pobl â demensia.