13/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Yn dilyn ei hateb i WAQ50886, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod angen i awdurdodau addysg lleol wneud asesiad rhesymol o anghenion disgyblion a allai gofrestru yn yr ysgol yn y dyfodol, ac nid dim ond y rheini sydd wedi’u cofrestru adeg adeiladu, i gydymffurfio â SENDA2001 a DDA2005/1995? (WAQ51136)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Byddwn yn bendant yn disgwyl i AALlau ystyried anghenion uniongyrchol disgyblion a, chyhyd ag sy’n ymarferol ac yn bosibl, anghenion y rheini sy’n debygol o gofrestru, yn bendant yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl cwblhau’r adeilad.  

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gost gyfredol atgyweirio, adnewyddu neu ailadeiladu adeiladau ysgolion cynradd yng Nghymru? (WAQ51151)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gost gyfredol atgyweirio, adnewyddu neu ailadeiladu adeiladau ysgolion uwchradd yng Nghymru? (WAQ51152)

Jane Hutt: Mae amcangyfrifon presennol a ddarperir gan awdurdodau lleol yn nodi mai’r ffigur ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw a diweddaru pob adeilad ysgol yw £818 miliwn. Mae angen i awdurdodau adolygu eu darpariaeth ysgolion, gan sicrhau bod ganddynt y nifer gywir o ysgolion o’r math a’r maint cywir ac yn y lleoliadau cywir i ddiwallu anghenion lleol. Mae angen iddynt ystyried pa adeiladau y mae’n briodol buddsoddi ynddynt—pa rai y mae angen eu hailadeiladu, pa rai y mae angen eu hadnewyddu a pha rai y byddai’n well eu cau a chael gwared arnynt. Mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn nifer o awdurdodau a hyd nes caiff yr ymarferion hynny eu cwblhau ni all awdurdodau ddarparu ffigurau cywir o ran y gost o ailadeiladu ysgolion cynradd ac uwchradd lle nodwyd yr angen hwnnw.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw amcan gost y cynllun brecwast ysgol am ddim bob blwyddyn hyd at 2011? (WAQ51154)

Jane Hutt: O’r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei gwneud yn glir bod cymryd rhan yn y cynllun yn wirfoddol ac y byddwn yn darparu’r arian angenrheidiol i’r ysgolion a’r plant hynny sy’n dymuno gwneud hynny. Caiff y fenter ei harwain yn ôl y galw ac mae nifer yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn parhau i godi. Yn seiliedig ar weithgarwch a ragwelir, y gost amcangyfrifedig o weithredu’r fenter yn ystod 2007-08 yw £6 miliwn. Gan ystyried yr alldro amcangyfrifedig ar gyfer 2007-08 a chan adlewyrchu’r ffaith y gall nifer yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y fenter barhau i godi y gost amcangyfrifedig ar gyfer 2008-09; 2009-10; 2010-2011 yw £6.5 miliwn; £7 miliwn; £7.5 miliwn yn y drefn honno.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am y cynnig i gau ysgolion yng Ngwynedd, ac a wnaiff ddarparu manylion? (WAQ51208)

Jane Hutt: Rwyf wedi derbyn sylwadau ysgrifenedig gan Aelodau’r Cynulliad, llywodraethwyr ysgolion, rhieni a phartïon eraill â diddordeb o ran y broses arfaethedig o ad-drefnu ysgolion cynradd Gwynedd, ac mae pob un ohonynt wedi cael ymateb naill ai gennyf i neu fy swyddogion.

Ni allaf roi sylw ar deilyngdod posibl neu fel arall cynigion unigol y gallai fod anghydfod yn eu cylch ac a ddaw ataf i gael penderfyniad, ond yn gyffredinol, yr wyf yn cymeradwyo’r awdurdodau sy’n gweithredu i ddarparu addysg o safon uwch i blant lleol mewn ysgolion sydd mewn adeiladau ysgol o safon dda ac sydd â chysylltiadau cryf â dysgu cymunedol. Yr ydym am i awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod eu lleoedd mewn ysgolion yn gynaliadwy yn addysgol ac yn ariannol, drwy reoli lleoedd mewn ysgolion yn dda, gyda chynlluniau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn gysylltiedig â chynlluniau cadarn ar gyfer darparu lleoedd mewn ysgolion.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gymorth y mae’r Gweinidog yn cynnig ei ddarparu i gadw’r ysgolion hynny yng Ngwynedd sy’n darparu addysg o’r radd flaenaf ar agor? (WAQ51209)

Jane Hutt: Mae gofyn i awdurdodau lleol barhau i adolygu patrwm darpariaeth ysgolion yn eu hardal a sicrhau eu bod yn ymateb i newidiadau o ran galw. Pan fydd awdurdod yn dod i’r casgliad bod angen ailgyflunio ei ddarpariaeth bydd angen iddo gyhoeddi cynigion statudol fel arfer er mwyn gweithredu’r newidiadau hyn. Os caiff y cynigion statudol eu herio, caiff y mater hwnnw ei gyfeirio ataf er mwyn i mi benderfynu arno. Pan fyddaf yn gwneud fy mhenderfyniad, byddaf bob amser yn rhoi buddiannau’r dysgwyr yn gyntaf.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A gynhaliwyd unrhyw astudiaethau am effaith y cynnig i gau ysgolion yng Ngwynedd ar yr iaith Gymraeg ac a wnaiff y Gweinidog roi manylion? (WAQ51210)

Jane Hutt: Mae effaith unrhyw gynigion statudol arfaethedig ar yr iaith Gymraeg yn fater i’r awdurdod lleol ei ystyried. Byddai’n fater y byddwn yn naturiol yn ei ystyried pe cyflwynid unrhyw gynigion y cafwyd anghydfod yn eu cylch i mi benderfynu arnynt, ond, o ystyried fy swyddogaeth bosibl yn y broses statudol, ni fyddai’n briodol i mi roi sylw ar hyn o bryd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am a) cyllideb y GIG ar gyfer cyffuriau/meddyginiaethau, a b) y swm gwirioneddol a wariwyd ar gyffuriau/meddyginiaethau yn y GIG bob blwyddyn er 1999? (WAQ51145)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Caiff y dyraniadau i Fyrddau Iechyd Lleol a’u gwariant gwirioneddol ar gyffuriau a meddyginiaethau eu cynnwys yn Nhabl 1 isod. Nid yw ymddiriedolaethau’r GIG yn cael dyraniad ar wahân ar gyfer cyffuriau a meddyginiaethau oherwydd telir costau cyffuriau ysbytai o ddyraniadau yn ôl disgresiwn BILl a Chomisiwn Iechyd Cymru. Caiff gwariant gwirioneddol gan ymddiriedolaethau’r GIG ar gyffuriau a meddyginiaethau ei gynnwys yn Nhabl 2 isod.

Tabl 1: Dyraniad gofal sylfaenol i Awdurdodau Iechyd (1999-00 i 2002-03) a Byrddau Iechyd Lleol (o 2003-04) ar gyffuriau a meddyginiaethau a gwariant gwirioneddol

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Chwefror 2008
   

£000oedd

 

Dyraniad i BILlau ar gyfer y Gyllideb Cyffuriau - Gros

Cyfanswm y gwariant gan BILlau (a) (b)

Awdurdodau Iechyd

   

1999-00

350,167

420, 952

2000-01

380,542

455,600

2001-02

416,234

491,671

2002-03

459,840

543,817

BILlau

   

2003-04 (a)

486,160

499,726

2004-05

481,409

487,883

2005-06

520,114

475,638

2006-07

520,363

498,340

2007-08

555,864

Ddim ar gael eto

Ffynhonnell: Cyfrifon blynyddol Awdurdodau Iechyd a BILlau yng Nghymru

Nodiadau

  1. Rhoddwyd gwybod am gostau cyffuriau hyd at 2002-03 gyda gwasanaethau fferyllol eraill. Diwygiwyd fformat y cyfrifon yn dilyn sefydlu BILlau a rhoddwyd gwybod am gostau rhagnodi ar wahân am y tro cyntaf.

  2. 2004-05 cafodd gwariant cyffuriau meddygon rhagnodi ei godio’n uniongyrchol i wariant Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Tabl 2: Gwariant gwirioneddol gan Ymddiriedolaethau’r GIG ar gyffuriau a meddyginiaethau o 1999-00

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Chwefror 2008
 

£000oedd

 

Cyfanswm y Gwariant ar gyffuriau gan Ymddiriedolaethau’r GIG

1999-00

85,143

2000-01

91,322

2001-02

95,666

2002-03

109,629

2003-04

127,322

2004-05

141,779

2005-06

149, 195

2006-07

165,438

2007-08

Ddim ar gael eto

Ffynhonnell: Cyfrifon blynyddol Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o adolygiadau y mae’r Gweinidog wedi’u gorchymyn i feysydd sy’n effeithio ar ei phortffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ers iddi ddechrau ar ei swydd ac a wnaiff restru pob un a orchmynnwyd? (WAQ51232)

Edwina Hart: Yr wyf wedi gorchymyn 16 adolygiad i feysydd sy’n effeithio ar fy mhortffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ers i mi gymryd y swydd, sef:

1. Adolygiad o Wasanaethau Cymunedol yn y gogledd.

2. Adolygiad o’r broses ymgynghori ynghylch ailgyflunio gwasanaethau yn Ysbytai Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn.

3. Adolygiad o Faterion Strwythurol yng nghyd-destun y newidiadau a gynigiwyd ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd.

4. Adolygiad o Faterion Llywodraethu Clinigol yn Ysbyty Abergele.

5. Adolygiad o’r dystiolaeth o’r ddau Ddadansoddiad Amseroedd Teithio ar gyfer Dyfodol Clinigol Gwent.

6. Adolygiad o’r broses o alinio gwasanaethau rhwng y Cyfleusterau Iechyd Cymuned newydd yn Aberaeron, Aberteifi a Thregaron a gwasanaethau a ddarperir o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

7. Adolygiad o’r cynlluniau presennol ar gyfer datblygu gwasanaethau ym Merthyr Tudful, gan gynnwys gwasanaethau yn safle Ysbyty Tywysog Siarl a hefyd ar gyfer y cyfleusterau arfaethedig yng nghanol y dref.

8. Adolygiad o Gomisiwn Iechyd Cymru, gan gynnwys y dull apelio.

9. Adolygiad o ba mor gyson y mae’r Agenda ar gyfer Newid yn cael ei weithredu.

10. Adolygiad o Wasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru

11. Adolygiad o’r Gwasanaethau Cludo Cleifion.

  1. Adolygiad o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

13. Adolygiad o niwrowyddorau oedolion, gan gynnwys llawdriniaeth asgwrn y cefn, a wnaed gan Mr James Steers, Niwrolawfeddyg, Caeredin.

14. Adolygiad o Lawdriniaeth y Fron yn y gogledd.

15. Adolygiad o ddyfodol Ysbyty Llandudno;

16. Adolygiad o Gontract Deintyddol y GIG;

Yr wyf hefyd wedi gofyn am gynnal yr ymgynghoriad lleol canlynol:

Ymgynghoriad ar yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Goodwin—yr ymchwiliad annibynnol i’r broses o ymgynghori ar ailgyflunio gwasanaethau llawfeddygol cyffredinol yn sir Gaerfyrddin a’i weithredu.

Yn ogystal, mae Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu wedi comisiynu adolygiad o flaenoriaethau ymchwil gofal cymdeithasol a gallu yng Nghymru, a chyflwynir adroddiad ym mis Awst a fydd yn llywio gwaith y Grŵp Cynghori ar Ymchwil Gofal Cymdeithasol.