16/02/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 Chwefror 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 16 Chwefror 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn debyg o benderfynu ynghylch cynllun ad-drefnu ysgolion Caerdydd. (WAQ55613)

Rhoddwyd ateb ar 2 Mawrth 2010

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am benderfynu ar strategaethau na chynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer ad-drefnu ysgolion. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol, o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, wrth benderfynu ar gynigion i drefnu ysgolion y mae anghydfod yn eu cylch.

Cafwyd gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu statudol ynghylch y cynigion canlynol, a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd a/neu gyrff llywodraethu yr ysgolion gwirfoddol perthnasol a gynorthwyir, ac fe'u cyfeiriwyd ataf i'w cymeradwyo:

• dirwyn Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Gymraeg Tan Yr Eos i ben, trosglwyddo Ysgol Gymraeg Treganna i safle presennol Ysgol Gynradd Lansdowne, a chynyddu capasiti ac ystod oedran Ysgol Gynradd Radnor ac Ysgol Gymraeg Treganna;

• dirwyn Ysgolion Uwchradd Rhymni a Llanrhymni i ben ac agor ysgol uwchradd newydd ar safle Maes Chwaraeon Tredelerch;

• dirwyn Ysgol Uwchradd Llanedeyrn i ben, trosglwyddo Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant i safle presennol Ysgol Uwchradd Llanedeyrn a chynyddu ei chapasiti, a sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd ar safle presennol Ysgol Teilo Sant.

• sefydlu Canolfan Awtistiaeth yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf.

Caiff penderfyniadau eu gwneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Yn 2009, faint o bysgotwyr sydd wedi cael cymorth ariannol, ar ffurf cyfanswm y niferoedd a chyfanswm y swm ariannol drwy a) arian o gronfa pysgodfeydd Ewrop ac b) yr arian a ddyrennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi'r gronfa hon. (WAQ55611)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyfarnu dros £5.5 Miliwn i'r diwydiannau pysgota môr masnachol, dyframaethu a genweirio yng Nghymru, drwy raglen Cronfa Pysgodfeydd Ewrop.

Yn 2009, cyfrannwyd £3,452,027 o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop a £1,682,636 o arian cyfatebol Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Gronfa Pysgodfeydd Ewrop tuag at brosiectau yng Nghymru. Mae'r buddiolwyr yn cynnwys Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion a Chymdeithas Pysgotwyr De a Gorllewin Cymru, sydd â chyfanswm o tua 200 o aelodau rhyngddynt. Yn ogystal cymeradwywyd prosiectau'r RNLI i gefnogi hyfforddiant diogelwch ar gyfer pysgotwyr, a chyngor busnes gan Menter a Busnes, sydd ar gael i 1000 o bysgotwyr yng Nghymru.

Darparwyd cymorth ariannol i gynrychiolwyr y tair phrif ymddiriedolaeth afonydd yng Nghymru:  Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Gaerfyrddin, Sefydliad y Gwy a'r Wysg ac Afonydd Cymru.  Roedd hyn o dan fesurau i wella cynefinoedd a mannau silio pysgod mudol yng Nghymru.  Bydd hyn o fudd i'r holl Enweirwyr a'r diwydiannau twristiaeth cysylltiedig ar ddalgylchoedd yr afonydd hyn.

Gweler y tabl canlynol i weld yr holl brosiectau a gymeradwywyd yng Nghymru:-

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/foodandfisheries/fisheries/europeanfundforfisheries/effpublications/effapprovedprojects2010/?lang=cy

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru cost yr hysbyseb a ymddangosodd ar dudalen 6 atodiad Country & Farming y Western Mail ar 12fed Ionawr 2010. (WAQ55612) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhoddwyd ateb ar 2 Mawrth 2010

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Costiodd yr hysbyseb £657.44 heb gynnwys TAW.  

Prif amcan yr ymarfer hwn oedd rhoi cyfle i'r cyhoedd gynnig am dir a oedd o ddiddordeb yn lleol o ran pori, yn enwedig gan nad oedd y tir wedi bod ar gael i'r cyhoedd ers 16 Awst 2005.