16/11/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 Tachwedd 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 16 Tachwedd 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’ Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro a hyfforddi cynllunwyr sy’n gyfrifol am sicrhau mynediad i bobl anabl dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. (WAQ55116)

Rhoddwyd ateb ar 09 Chwefror 2010

Mae datganiadau mynediad gorfodol wedi bod mewn grym ers 2007 ac fe'u cynhwyswyd mewn datganiadau cynllunio a mynediad ym mis Mehefin eleni. Cyn eu cyflwyno yn 2007, cynhaliwyd hyfforddiant i swyddogion awdurdodau cynllunio lleol ledled Cymru gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth y Cynulliad, mewn cydweithrediad â Chomisiwn Dylunio Cymru. Roedd yr hyfforddiant yn cwmpasu cyflwyniad i'r gofynion o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Mae'r Cod Ymddygiad Proffesiynol o dan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yn rhoi cyfrifoldeb ar gynllunwyr unigol i gadw eu cymhwysedd proffesiynol a pharhau i ddatblygu'n broffesiynol; dylent felly sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant priodol er mwyn bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf.

Yn fwy cyffredinol, mae pob awdurdod cynllunio lleol yn pennu gofynion hyfforddi swyddogion. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro hyfforddiant swyddogion cynllunio llywodraeth leol na'u perfformiad o ran mynediad i bobl anabl.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud o berfformiad Pympiau Gwres o’r Awyr. (WAQ55122)

Rhoddwyd ateb ar 20 Tachwedd 2009

Cynhaliwyd astudiaeth yn ddiweddar gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, a gomisiynwyd gan gontractwr Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) Llywodraeth y Cynulliad, yn ymchwilio i berfformiad pympiau gwres o'r awyr (ASHP). Gosodwyd y pympiau gwres fel rhan o HEES gyda'r astudiaeth yn ystyried y gost o'u cynnal a'r manteision o ran effaith yr allyriadau carbon o'u cymharu â dulliau amgen tebygol megis gwresogi ag olew.

Mae astudiaeth ychwanegol o asesiad perfformiad ASHP yn cael ei chynnal ar hyn o bryd gan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Ystyrir canfyddiadau'r adroddiadau hyn wrth wneud penderfyniadau o ran pryd y caiff ASHPau eu hystyried yn dechnoleg briodol ar gyfer cynlluniau tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni Llywodraeth y Cynulliad.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth oedd y rheswm dros eithrio Pympiau Gwres o’r Awyr o’r newidiadau diweddar i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer technoleg microgyngyrchu. (WAQ55123)

Rhoddwyd ateb ar 09 Chwefror 2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn cydgysylltu ag adrannau Llywodraeth y DU a'r Sefydliad Ymchwil Adeiladau i nodi cynllun ardystio safonol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau sŵn a dirgryndod sy'n gysylltiedig â phympiau gwres o'r awyr sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar eiddo cyfagos. Pan eir i'r afael â phroblemau sŵn a dirgryndod, caiff rhagor o reoliadau diwygio eu cyflwyno. Mae hyn yn gyson â Lloegr a byddai hefyd yn gymwys i dyrbinau gwynt.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu crynodyddion ocsigen cludadwy i gleifion ar ôl iddynt gael eu cyfeirio gan eu hymgynghorydd. (WAQ55115)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

O dan y Contract Ocsigen Cartref, mae Air Products (y cyflenwr cyfredol yng Nghymru) wedi treialu'r defnydd o grynodyddion ocsigen cludadwy. O ddechrau mis Rhagfyr 2009 bydd y math hwn o offer ar gael i gleifion ledled Cymru, yn amodol ar asesiad addas gan naill ai meddyg teulu neu glinigydd.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o gleifion yng Nghymru sydd wedi cael eu cyfeirio ar gyfer llawdriniaeth gordewdra bob blwyddyn dros y 3 blynedd diwethaf. (WAQ55117)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): O’r holl gleifion yng Nghymru a gafodd eu cyfeirio ar gyfer llawdriniaeth gordewdra bob blwyddyn dros y 3 blynedd diwethaf, faint o’r cyfeiriadau hyn sydd wedi cael eu cymeradwyo. (WAQ55118)

Rhoddwyd ateb ar 20 Tachwedd 2009

Mae Comisiwn Iechyd Cymru wedi derbyn cyfanswm o 1052 o geisiadau ar gyfer llawdriniaeth bariatrig.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 Tachwedd 2009

2007/08

217

2008/09

542

2009/10 (atgyfeiriadau hyd yma)

293

Maent wedi cymeradwyo 165 o gleifion dros y tair blwyddyn ariannol ddiwethaf.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 Tachwedd 2009

2007/08-35

35

2008/09-94

94

2009/10 (hyd at a chan gynnwys 11eg Tachwedd 2009)

36

Yn ogystal â'r cymeradwyaethau a wnaethpwyd gan Gomisiwn Iechyd Cymru mae'r lleiafswm o'r Byrddau Iechyd Lleol yn defnyddio gwasanaeth yn Abertawe nad oes gennym ffigurau ar ei gyfer.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa lawdriniaethau meddygol sy’n disgyn i’r categori 'triniaethau bariatrig’. (WAQ55119)

Rhoddwyd ateb ar 20 Tachwedd 2009

Mae amrywiaeth o driniaethau bariatrig ar gael, gan gynnwys gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol i reoli pwysau , yn ogystal â'r gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol sy'n arwain at lawdriniaeth bariatrig.

O ran pa lawdriniaethau meddygol a ddosberthir fel triniaeth bariatrig, y canolfannau arbenigol sy'n rhoi'r driniaeth sy'n penderfynu ar hyn. Yn dilyn asesiad amlddisgyblaethol cynhwysfawr o anghenion meddygol a seicolegol cleifion a rheolaeth feddygol arbenigol bydd y llawfeddyg bariatrig yn gwneud penderfyniad o ran pa fath o lawdriniaeth y dylai'r claf ei chael. Mae'r llawdriniaethau mwyaf cyffredin a gyflawnir gan lawfeddygon bariatrig yn cynnwys gosod band gastrig â laparosgop, llawdriniaeth gastrig ddargyfeiriol â laparosgop a llawdriniaeth ddargyfeiriol agored.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ymgynghori â’r Gymdeithas Peiriannau Gwerthu Awtomatig fel rhan o’i hadolygiad o’r cyfarwyddiadau ar beiriannau gwerthu mewn ysbytai. (WAQ55120)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Mae swyddogion iechyd wedi ymgysylltu â'r GIG, sefydliadau masnachol a sefydliadau'r sector gwirfoddol yn y farchnad werthu, gan gynnwys y Gymdeithas Gwerthu Awtomatig, drwy gydol y broses o gyflwyno canllawiau ar werthu cynnyrch sy'n hybu iechyd mewn ysbytai. Bydd swyddogion iechyd yn parhau i ymgysylltu â'r sefydliadau hyn wrth i'r adolygiad gael ei gyhoeddi ac wrth i waith ar yr agenda hon fynd rhagddi.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi canfyddiadau ei hadolygiad o’r cyfarwyddiadau ar beiriannau gwerthu mewn ysbytai. (WAQ55121)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Mae adolygiad ar gyflwyno peiriannau gwerthu cynnyrch sy'n hybu iechyd mewn ysbytai wedi'i gwblhau. Mae fy swyddogion wrthi'n dadansoddi'r canlyniadau ac yn paratoi adroddiad.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Ac ystyried cost colli diwrnodau gwaith oherwydd poen cefn i unigolion ac i’r economi, pa ymdrechion y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn gwneud eu gorau glas i weithredu canllawiau NICE ar Boen yng Ngwaelod y Cefn. (WAQ55124)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Disgwyliaf i'r GIG ystyried canllawiau NICE ar boen yn rhan isa'r cefn yn llawn wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.  Fodd bynnag, gan fod canllawiau clinigol NICE mor eang eu natur, sylweddolaf y gallai gymryd cryn amser cyn i'r canllawiau gael eu gweithredu'n llawn ledled Cymru.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sut y mae Adran y Gweinidog yn monitro gweithredu’r Gyfarwyddeb Datblygu a Chomisiynu ar gyfer Poen Anfalaen Cronig i sicrhau bod y 'Camau Gweithredu Allweddol’ a bennwyd yn cael eu cyflawni gan Fyrddau Iechyd Lleol a chyrff perthnasol eraill. (WAQ55125)

Rhoddwyd ateb ar 20 Tachwedd 2009

Mae'r Asiantaeth Genedlaethol dros Arweinyddiaeth ac Arloesedd mewn Gofal Iechyd yn cynnal archwiliad blynyddol o gynnydd yn erbyn pob un o'r camau a nodir yn y Cyfarwyddebau. Mae canlyniadau archwiliad Medi 2009 yn cael eu casglu at ei gilydd ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyflwyno i mi maes o law cyn eu cyhoeddi'n eang.