17/09/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 September 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Medi 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer rhoi strategaeth ar waith i fynd i’r afael â throseddau casineb? (WAQ50344) Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu Prosiect Cydlyniant Cymunedol yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys menter i fynd i’r afael â throseddau casineb. Disgwylir i’r gwaith gymryd rhwng 9 a 12 mis i’w gwblhau ac yna byddaf yn ystyried beth arall sydd angen ei wneud o ran y rhaglen ‘Cymru’n Un’. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer gweithredu strategaeth lleihau camddefnydd alcohol i Gymru gyfan? (WAQ50345) Brian Gibbons: Mae alcohol eisoes yn rhan o Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym yn datblygu strategaeth newydd i redeg o fis Mai 2008. Ochr yn ochr â hyn, mae Is-adran Gwella Iechyd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn datblygu Cynllun Gweithredu ar Alcohol a fydd yn canolbwyntio ar atal camddefnyddio alcohol. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A yw’r Gweinidog yn bwriadu caniatáu i’r cyhoedd wneud sylwadau i groesholi tystiolaeth a gyflwynir mewn tribiwnlysoedd sy’n ymchwilio i ymddygiad Llywodraeth Leol? (WAQ50349) Brian Gibbons: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am ystyried honiadau o gamymddwyn yn erbyn aelodau llywodraeth leol yng Nghymru. Pan fo’r Ombwdsmon yn ystyried bod gofyn ymchwilio i honiad, gall gynnal yr ymchwiliad hwnnw ei hun, neu gyfeirio’r mater at Swyddog Monitro yr awdurdod perthnasol er mwyn ymchwilio iddo ac adrodd i’r pwyllgor safonau lleol. Pan fo’r Ombwdsmon yn cynnal yr ymchwiliad, gall gyfeirio ei adroddiad naill ai at y pwyllgor safonau lleol neu at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, yn ôl ei ddisgresiwn. Swyddogaeth y pwyllgorau safonau lleol a’r tribiwnlysoedd a ffurfiwyd gan y Panel Dyfarnu yw penderfynu, ar sail adroddiad y Swyddog Monitro neu’r Ombwdsmon fel y bo’n briodol, p’un a dorrwyd cod ymddygiad ac os felly, pa gosb y dylid ei rhoi, os o gwbl. Gall aelodau sy’n wynebu honiadau o gamymddwyn ddewis ymddangos gerbron y pwyllgor safonau neu dribiwnlys i roi tystiolaeth yn bersonol neu drwy gynrychiolydd, neu gallant gyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig. Mae gan Bwyllgorau Safonau a thribiwnlysoedd yr hawl i alw ar dystion perthnasol i roi tystiolaeth i’w helpu i wneud eu penderfyniad. Gallant hefyd ofyn i’r swyddog ymchwilio fynychu i gyflwyno ei adroddiad ac i egluro materion ynddo. Er y gall gwrandawiadau fod yn agored i’r cyhoedd, nid oes gan y cyhoedd yr hawl i groesholi tystiolaeth a gyflwynir mewn gwrandawiad. Dylai person sy’n credu bod ganddynt dystiolaeth sy’n berthnasol i ymchwiliad gysylltu â’r swyddog ymchwilio yn ystod ei ymchwiliad. Os bydd person o’r farn bod ganddo/ganddi wybodaeth berthnasol yn ystod gwrandawiad, mae’n rhaid iddynt roi gwybod i’r pwyllgor safonau neu’r tribiwnlys drwy’r staff cymorth gweinyddol. Y pwyllgor safonau neu’r tribiwnlys fydd yn penderfynu p’un a oedd tystiolaeth o’r fath yn berthnasol ac yn dderbyniol.