Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mawrth 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
David Melding (Canol De Cymru): Beth yw’r gost a amcangyfrifir ar gyfer dadhalogi tir yn safle gwaith Dolgarrog? (WAQ51522)
David Melding (Canol De Cymru): Pa gyfrifoldeb sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adfer tir sydd wedi’i halogi yn safle gwaith Dolgarrog, ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad? (WAQ51523)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae’r mater o atebolrwydd posibl o ran gwella’r tir ar safle Dolgarrog Aluminum Limited, ar ôl i Dolgarrog Aluminium Limited ddod i ben, yn cael ei drafod gan swyddogion a chyfreithwyr. Ar yr amod y caiff y materion cyfreithiol a’r materion eraill eu datrys yn foddhaol, byddaf yn gwneud datganiad maes o law.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o amodau tai gwael ac awgrymiad Cartrefi Cymunedol Cymru yr ystyrir bod dros 18% o’r holl gartrefi yn y sector preifat yn anaddas a dan Safon Ansawdd y Cynulliad? (WAQ51514)
Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Dangosodd yr arolwg 'Byw yng Nghymru’ diweddaraf yn 2004, fod anaddasrwydd yn y sector preifat yn 8.2 y cant. Roedd anaddasrwydd mewn tai perchennog-ddeiliad yn 4.3 y cant. Ers hynny rydym wedi cyflwyno’r System Raddio Tai, Iechyd a Diogelwch, sy’n berthnasol i bob deiliadaeth ac mae’n cysylltu cyflwr tŷ yn agosach ag iechyd a diogelwch deiliaid. Bydd yr Arolwg Byw yng Nghymru presennol yn mesur amodau yn erbyn y safon newydd hon.
Nick Ramsay (Mynwy): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Cod Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd? (WAQ51519)
Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu diweddaru’r Cod Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd? (WAQ51520)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa ddyddiad y mae’r Gweinidog wedi’i osod ar gyfer cyhoeddi fersiwn wedi’i ddiweddaru Cod Arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd? (WAQ51521)
Jocelyn Davies: Rydym yn ymrwymedig i adolygu’r Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyraniad a Digartrefedd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol bresennol a nodau polisi Llywodraeth 'Cymru’n Un’.
Mae’r Cod yn llawlyfr arweiniad cynhwysfawr sy’n nodi ystod eang o faterion cyfreithiol a pholisi ar ddyraniadau a digartrefedd. Mae datblygu’r Cod yn dasg heriol, ac mae angen rhoi cryn ystyriaeth gyfreithiol iddo yn ogystal â gwaith polisi. Fe’i defnyddir fel cyfeirlyfr cyfreithiol yn y llysoedd, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gywir yn ogystal ag amserol.
Rydym yn datblygu Cynllun newydd i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru. Bydd hwn yn amlinellu ein hagenda dros y deng mlynedd nesaf i sicrhau lleihad sylweddol mewn digartrefedd a bygythiad o ddigartrefedd i bobl sy’n agored i niwed. Byddwn yn ymgynghori’n eang ar y Cynllun hwn yn ystod yr Hydref ac yn ceisio casglu ystod eang o sylwadau. Bydd y Cynllun yn barod i’w roi ar waith erbyn Ionawr 2009.
Mae gwaith ailddrafftio ar y Cod yn mynd rhagddo, ond bydd angen iddo adlewyrchu ein sefyllfa polisi derfynol fel y’i hamlinellir yn ein Cynllun Digartrefedd, a hefyd ein hagenda ar ddyrannu tai cymdeithasol y byddwn yn ei ffurfioli yn y Strategaeth Dai Genedlaethol newydd.
Er y gall y gwaith ar y Cod barhau wrth i’r gwaith ar y Cynllun gael ei wneud, bydd angen i ni gwblhau’r Cod ar ôl i’r Cynllun gael ei gwblhau.
Byddwn yn ymgynghori’n eang ar y Cod diwygiedig cyn iddo gael ei fabwysiadu’n ffurfiol, ac rydym yn bwriadu ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yr Hydref hwn, ac yna caiff ei gwblhau yn ystod y Flwyddyn Newydd ar ôl i’r Cynllun Digartrefedd gael ei lansio.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud cofnodi nifer yr oedolion sydd ag awtistiaeth yn eu hardal yn ofyniad statudol ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol a chyhoeddi cyfarwyddyd iddynt ynghylch hynny? (WAQ51530)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i helpu dioddefwyr awtistiaeth yng Nghymru? (WAQ51531)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae ein copi drafft o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig yng Nghymru yn cwmpasu pobl o bob oedran gan gynnwys oedolion. Disgwyliaf i’r Cynllun Gweithredu Strategol terfynol gael ei gyhoeddi yn ystod y Gwanwyn. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yw sefydlu systemau i nodi a chofnodi pobl ymysg eu cleientiaid sydd ar y sbectrwm awtistig. Cynhwyswyd hyn fel un o’n camau gweithredu yn ein Cynllun Gweithredu Strategol drafft ac rydym wedi annog awdurdodau i barhau â’r gwaith hwn heb aros i’r Cynllun Gweithredu Strategol terfynol gael ei gyhoeddi. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol hefyd yw asesu anghenion gofal oedolion ar y sbectrwm awtistig a darparu gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion asesedig.
Dros y tair blynedd nesaf gan ddechrau yn 2008-2009 byddwn yn rhoi grant o £278,000 i ategu gwaith Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru ac Autism Cymru.