18/12/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Rhagfyr 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Rhagfyr 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i ehangu darpariaeth gwasanaethau bws ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? (WAQ50803)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Byddaf yn cyflwyno cynigion yn y Mesur Trafnidiaeth Lleol drafft i hyrwyddo gweithio mwy effeithiol rhwng awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau. At hynny, yr wyf wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu’r Rhwydwaith TrawsCambria sy’n darparu cysylltiadau allweddol o amgylch canolbarth Cymru ag aneddiadau allweddol ac sy’n eu cysylltu â’r rhwydwaith trenau. Yr wyf hefyd yn disgwyl i Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TRACC nodi’r blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer gwella gwasanaethau bws yng nghanolbarth Cymru.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi tua £1.2 miliwn i Gyngor Sir Powys yn Setliad Refeniw Llywodraeth Leol 2007-08 i gefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau bws lleol. Yr wyf hefyd wedi dyrannu £752,636 i Bowys yn ystod 2007-08 o dan ein cynllun Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol i gefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau bws sydd eu hangen yn gymdeithasol. Fodd bynnag, dylai’r Cyngor benderfynu sut i ddefnyddio’r arian hwn i ddiwallu blaenoriaethau lleol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A aseswyd effaith siopau bach a nifer y siopau gwag yng nghyswllt dyfodiad archfarchnadoedd mawr yn ein trefi/cymunedau ac, os felly, a wnaiff roi manylion yr arolwg hwnnw, os nad, a wnaiff ystyried sefydlu arolwg? (WAQ50818)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid yw Polisi Cystadleuaeth yn fater datganoledig ac nid wyf wedi cynnal asesiad o’r fath. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn Cystadleuaeth yn cynnal arolwg o’r Farchnad Fwyd ar hyn o bryd. Mae’r Comisiwn Cystadleuaeth yn ystyried a yw nodweddion y farchnad hon neu farchnadoedd eraill yn atal, yn cyfyngu neu’n amharu ar gystadleuaeth.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau dros dro ar 31 Hydref 2007 ac mae angen yr adroddiad terfynol erbyn 8 Mai 2008.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio llwyddiant masnachol y Gelli Gandryll ym Mhowys fel esiampl o dref wledig yng Nghymru? (WAQ50831)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nodir ymagwedd Llywodraeth y Cynulliad tuag at greu cymdeithas lewyrchus a chynaliadwy yn y ddogfen 'Cymru’n Un.’ Mae’r Gelli Gandryll yn un o blith nifer o drefi gwledig llwyddiannus ledled Cymru ag economi gref a mentrus.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Ramsay (Mynwy): Pa fesurau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i sicrhau bod cefnogaeth addysgol ar gael i blant gyda dyslecsia yn ysgolion Cymru? (WAQ50826)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod cymorth priodol a chyson ar gael i blant a phobl ifanc â dyslecsia ym mhob ysgol yng Nghymru.

I’r perwyl hwnnw, rhoddasom gymorth ariannol i Gymdeithas Dyslecsia Prydain yng Nghymru o dros £25,000 i argraffu a dosbarthu’r pecyn adnoddau 'Cyflawni Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia’ er mwyn cynnal y Fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia yng Nghymru.

Mae gennym Grŵp Cyfeirio Allanol hefyd ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol (sy’n cynnwys Dyslecsia), sy’n cynnwys ystod o randdeiliaid o AALlau, ysgolion, y sector gwirfoddol ac arbenigwyr yn y maes.

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd y Grŵp Cyfeirio Allanol yn cynnal astudiaeth er mwyn cwmpasu adolygiad o ymagweddau a chanllawiau i ddarparwyr gwasanaeth ac ysgolion i blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu penodol. Disgwylir i ganllawiau gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn ystod 2008 yn dilyn yr adolygiad hwn. Bydd y canllawiau yn cynnwys arfer gorau o ran asesu a chymorth i blant a phobl ifanc â dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol cysylltiedig eraill.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw’r Gweinidog wedi cyflwyno sylw i’w swyddog cyfatebol yn San Steffan am y Papur Gwyn Cynllunio ac os felly, beth oedd hwnnw ac a fydd copi ar gael? (WAQ50812)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Rwyf wedi gwneud sylwadau i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol mewn perthynas â sawl agwedd ar y Papur Gwyn ar Gynllunio. Bydd copi o’r ohebiaeth ar gael i chi.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i ddelio â llifogydd yn rhanbarth Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion? (WAQ50819)

Jane Davidson: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Awdurdodau Lleol a Dŵr Cymru yw’r prif sefydliadau â chyfrifoldeb gweithredol dros ymdrin â llifogydd ledled Cymru. Mae’r cyrff hyn yn rheoli’r systemau afonydd a draenio tir, yr amddiffynfeydd rhag llifogydd a’r seilwaith carthffosydd sy’n gwasanaethu ein cymunedau. Ceir cynlluniau aml-asiantaeth sefydledig hefyd sy’n cynnwys y gwasanaethau brys i ddelio ag achosion o lifogydd. Deallaf fod systemau draenio cymhleth a weithredir gan y sefydliadau hyn yn gwasanaethu Llanbedr Pont Steffan.

Gwn am y llifogydd a gafwyd yn Llanbedr Pont Steffan ym mis Mehefin eleni, pan effeithiwyd ar y dref gan stormydd garw o fellt a tharanau a phan orlethwyd y carthffosydd a’r systemau draenio. Cafwyd llifogydd mewn sawl eiddo o ganlyniad i hyn. Ers y digwyddiad, mae Dŵr Cymru wedi fy hysbysu bod y silt ym mhob carthffos gyhoeddus yn y dref gyfan wedi’i waredu a chynhaliwyd arolwg o’r carthffosydd er mwyn sicrhau y gellir eu defnyddio hyd eithaf eu capasiti mewn digwyddiadau o’r fath.

Deallaf fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu adolygu lefel y perygl o lifogydd yn Llanbedr Pont Steffan o afon Dulas ac afon Tywi yn ystod 2009 fel rhan o’i rhaglen tymor canolig.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu’r Asiantaeth ac yn rhoi cymorth ariannol a grantiau i awdurdodau lleol er mwyn cynnal eu gweithgareddau i reoli’r perygl o lifogydd.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i ddelio â llifogydd yn ardal Ciliau Aeron yng Ngheredigion? (WAQ50820)

Jane Davidson: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Awdurdodau Lleol a Dŵr Cymru yw’r prif sefydliadau sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros ddelio â llifogydd ledled Cymru. Mae’r cyrff hyn yn rheoli’r systemau afonydd a draenio tir, yr amddiffynfeydd rhag llifogydd a’r seilwaith carthffosydd sy’n gwasanaethu ein cymunedau. Ceir cynlluniau aml-asiantaeth sefydledig hefyd sy’n cynnwys y gwasanaethau brys i ddelio ag achosion o lifogydd.

Deallaf fod ystod o systemau a weithredir gan y sefydliadau hyn ar waith yng Nghiliau Aeron er mwyn mynd i’r afael â’r perygl o lifogydd yn y gymuned.

Mae Dŵr Cymru wedi nodi materion yn ymwneud â chynnal a chadw carthffosydd yn ogystal â rhwystrau yn y pentref y mae’n gobeithio eu datrys yn fuan drwy gynnal gwaith torri gwreiddiau ac arolygon teledu cylch cyfyng.  Mae Dŵr Cymru hefyd yn bwriadu cynnal gwaith ail-leinio’r carthffosydd yn yr ardal fel rhan o’i raglen cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu’r Asiantaeth ac yn rhoi cymorth ariannol a grantiau i awdurdodau lleol er mwyn cynnal eu gweithgareddau i reoli’r perygl o lifogydd.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau lliniaru ac amddiffyn rhag llifogydd yn rhanbarth Cwmann yn sir Gaerfyrddin? (WAQ50821)

Jane Davidson: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Awdurdodau Lleol a Dŵr Cymru yw’r prif sefydliadau sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros ddelio â llifogydd ledled Cymru.  Mae’r cyrff hyn yn rheoli’r systemau afonydd a draenio tir, yr amddiffynfeydd rhag llifogydd a’r seilwaith carthffosydd sy’n gwasanaethu ein cymunedau. Ceir cynlluniau aml-asiantaeth sefydledig hefyd sy’n cynnwys y gwasanaethau brys i ddelio ag achosion o lifogydd.

Deallaf fod systemau draenio cymhleth a weithredir gan y sefydliadau hyn yn gwasanaethu Cwmann. Mae Dŵr Cymru wedi nodi bod problemau hysbys o ran system gorlwytho hydrolig y carthffosydd yng Nghwmann ac mae hanes o lifogydd yn yr ardal. Mae contractwyr Dŵr Cymru yn cynnal gwaith addasu i Orsaf Bwmpio Carthffosiaeth Cwmann ar hyn o bryd. Mae hanner y gwaith hwn wedi’i gwblhau ac unwaith y bydd y gwaith wedi ei wneud bydd yn sicrhau rhagor o effeithlonrwydd o ran pwmpio llifau o’r ardal. Mae Dŵr Cymru hefyd yn cynnal gwaith ail-leinio yn yr ardal hon er mwyn gwella’r rhwydwaith carthffosiaeth ymhellach.

Deallaf fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu adolygu lefel y perygl o lifogydd yng Nghwmann o afon Dulas ac afon Tywi yn ystod 2009 fel rhan o’i rhaglen tymor canolig.

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’i wneud o ran gosod a chyrraedd targedau ar niwtraliaeth carbon adeiladau cyhoeddus? (WAQ50824)

Jane Davidson: Yr wyf wedi sefydlu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a bûm yn cadeirio cyfarfod cyntaf y Comisiwn ar 10 Rhagfyr. Bydd y Comisiwn yn helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau newydd, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu’r targedau a nodir yn y Ddogfen 'Cymru’n Un’.

Mae ein polisi Adeiladau Cynaliadwy yn nodi ein dyhead y bydd pob adeilad a adeiladir yng Nghymru o 2011 yn ddi-garbon a byddwn yn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gosod esiampl ar gyfer hyn.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi llofnodi Datganiad Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni ac mae camau i leihau allyriannau ar waith.

Michael German (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw gynlluniau i newid adrannau’r dosbarth defnydd cynllunio A3 cyfredol? (WAQ50825)

Jane Davidson: Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymgynghori ar newidiadau i Ddefnydd Dosbarth A3, sy’n debyg i’r rhai a fabwysiadwyd eisoes yn Lloegr—isrannu’r dosbarth yn dri dosbarth, ar gyfer bwytai a chaffis; tafarndai; a defnyddiau bwyd poeth.

Rhagwelaf y caiff y newidiadau hyn eu mabwysiadu yn ddiweddarach yn ystod 2008.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cyfanswm y gwariant yn y gyllideb a’r gwariant cyfalaf go iawn gan Lywodraeth y Cynulliad ar amddiffynfeydd arfordirol a mewndirol rhag llifogydd ar gyfer pob un o’r 5 mlynedd ariannol diwethaf? (WAQ50829)

Jane Davidson: Defnyddir cyllidebau amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynnal gwaith gwella a hyrwyddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol. I’r ddau sefydliad hyn, mae lefel yr arian wedi cynyddu ac mae’r dulliau ariannu wedi newid dros y pum mlynedd diwethaf.

Nodir y wybodaeth ar wariant cyfalaf ar sail Llywodraeth Leol ac Asiantaeth yr Amgylchedd fel a ganlyn:

Asiantaeth yr Amgylchedd

Cyllideb Gwariant

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Rhagfyr 2007

2006/07

£11,934,000

£11,934,000

2005/06

£9,934,000

£9,934,000

2004/05

£3,768,000

£3,713,000

2003/04

£2,605,000

£2,004,000

2002/03

£3,286,000

£2,210,000

Awdurdodau Lleol

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Rhagfyr 2007

2006/07

£5,800,000

£4,996,000

2005/06

£5,800,000

£4,995,000

2004/05

£3,945,000

£3,025,000

2003/04

£3,670,000

£3,004,000

2002/03

£3,808,000

£1,062,512

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A all y Gweinidog gadarnhau a yw’r tendrau a gyflwynwyd gan DEFRA ar gyfer prynu brechlyn tafod glas yn cynnwys darparu’r brechlyn ar gyfer ei ddefnyddio ar dda byw Cymru? (WAQ50811)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Fe’ch cyfeiriaf at fy Natganiad Ysgrifenedig ar 13 Rhagfyr 2007.