18/12/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 18 Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 18 Rhagfyr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Leanne Wood (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 'Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant’, a wnaiff y Gweinidog amlinellu’r broses werthuso a ddefnyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Rhaglenni Amlinellol Strategol a’r Achosion Amlinellol Strategol, ac a wnaiff y Gweinidog nodi p’un ai a fydd y gwerthusiadau hyn ar gael i'r cyhoedd graffu arnynt. (WAQ55312)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Yn unol â gofynion y Polisi Gweddnewid, cyflwynodd Partneriaethau Dysgu gynigion amlinellol i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad naill ai ym mis Ionawr neu ym mis Mawrth 2009.  Cafodd y cynigion hyn eu harfarnu'n unigol gan Dimau Ardal perthnasol Llywodraeth y Cynulliad ac amrywiaeth o swyddogion polisi.

Yn y ffordd hon, nid yn unig y cafodd cynigion amlinellol eu harfarnu yn erbyn y meini prawf a gyhoeddwyd yn y Polisi Gweddnewid, ond fe'u hystyriwyd hefyd o ran eu cysoni â holl bolisïau a rhaglenni perthnasol eraill Llywodraeth y Cynulliad.  Trafodwyd a chymeradwywyd holl ganlyniadau'r arfarniadau gan uwch swyddogion ac yn sgîl hynny rhoddwyd gwybod i Bartneriaethau Dysgu am unrhyw ddiffygion.   

Wrth i gynlluniau manylach gael eu datblygu a'u cyflwyno, caiff y gweithdrefnau a amlinellir eu dilyn o hyd, gyda'r gofyniad ychwanegol i sicrhau cymeradwyaeth gan Fwrdd Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth y Cynulliad lle gwneir ceisiadau am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol.

O ran gwerthusiadau sy'n destun craffu cyhoeddus, gall unrhyw aelod o'r cyhoedd wneud cais am unrhyw ddogfen a gedwir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac ystyrir a gaiff y wybodaeth ei rhyddhau yn unol â'n rhwymedigaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn egluro sut y dylid dehongli maen prawf (vii) - 'yr effaith gadarnhaol a gaiff y cynnig o ran yr amrywiaeth o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddysgwyr ac ansawdd y cyfleoedd hynny’ - yn agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 'Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant’. (WAQ55313)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Yn y polisi, Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, nododd Llywodraeth y Cynulliad fframwaith cenedlaethol i ategu'r broses o drawsnewid y rhwydwaith darparwyr yng Nghymru. Mae'n cyfeirio darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru i roi trefniadau traddodiadol, cul, sefydliadol o'r neilltu a chynllunio darpariaeth ar y cyd; cyfeirio mwy o'r arian sydd ar gael at addysg a dysgu a chymorth dysgu; a thrawsnewid y rhwydwaith darparwyr i'r graddau bod ystod lawn o opsiynau dysgu yn cael ei chynnig i fyfyrwyr 14-19 mewn ffordd sy'n paratoi pobl ifanc ar gyfer yr ystod lawn o lwybrau sy'n agored iddynt.

Yn wyneb diwylliant ac ethos unigol y rhannau [hyn] o Gymru, mae'r fframwaith trawsnewid yn annog rhanddeiliaid i ddatblygu atebion lleol ar gyfer anghenion lleol yn hytrach na model unfath ledled Cymru.  O ganlyniad, nid yw'r polisi'n rhagnodi unrhyw fodel penodol.

Mae gwella'r Gymraeg yn hanfodol i gyflawni'r agenda drawsnewid.  Bydd angen i gynlluniau Partneriaethau Dysgu ar gyfer trawsnewid addysg a hyfforddiant ddangos gwelliannau o ran maint ac ystod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gynigir drwy ailgyflunio'r rhwydwaith dysgu o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, neu ar draws ffiniau awdurdodau lleol lle y bo'n briodol.  Dylent ddangos llwybrau cynnydd ac opsiynau ôl-16 ac ôl-18 clir drwy gyfrwng y Gymraeg a'r rhai y gellir eu dilyn yn ddwyieithog yn y ddarpariaeth addysg bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a darpariaeth chweched dosbarth fel y bo'n briodol.  

Ystyrir darparu addysg Gymraeg, mewn ardaloedd trefol a gwledig, yn llawn wrth gytuno ar gynlluniau lleol a sector ar gyfer trawsnewid.  Er nad yw'r polisi yn rhagnodol o ran y model a allai gael ei fabwysiadu, disgwylir i awdurdodau lleol a darparwyr dysgu eraill ystyried y gofyniad i ddatblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach yng nghyd-destun y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a'r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru).  Cydnabyddir y bydd hyn yn her sylweddol i rai awdurdodau lleol, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Aseswyd effaith bosibl cynigion trawsnewid ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn llawn yn ystod y gweithdrefnau arfarnu sy'n berthnasol i gynigion gan Swyddogion Llywodraeth y Cynulliad.  Oherwydd yr eir ati i ddatblygu cynigion yn gynlluniau manylach, bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau bod darparwyr ac awdurdodau lleol yn cymryd camau priodol i sicrhau gwelliannau yn y nifer a'r mathau o raglenni dysgu sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan ganolbwyntio ar y rhannau hynny sy’n ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng y deilliannau i ddysgwyr ar gyrsiau Cyfrwng Cymraeg a ddarparwyd mewn sefydliadau lle mae Saesneg yw’r iaith bob dydd a deilliannau’r cyrsiau hynny a ddarparwyd drwy addysg Cyfrwng Cymraeg cyflawn mewn sefydliad sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. (WAQ55314)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Mae'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ddrafft yn cyfeirio'n fras at gyflwyno rhywfaint o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Byddai angen pwyso'r manteision posibl o godi safonau Cymraeg ail iaith drwy'r dull hwn yn erbyn yr anfanteision megis nad yw'r fath ddarpariaeth o reidrwydd yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg rhugl, nad yw o bosibl yn gynaliadwy dros amser, ac y gallai danseilio ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n darparu profiad cyfrwng Cymraeg mwy cyfannol.

Cyfeirir hefyd at yr angen i ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg gael eu trochi yn yr iaith (h.y. drwy addysg cyfrwng Cymraeg) os ydynt am ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus. Derbynnir yn gyffredinol y dylai o leiaf 70% o'r amser cwricwlaidd fod drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn i'r fath ddisgyblion feistrioli'r iaith mewn ystod eang o sgiliau.

Trafodir y canlyniadau ieithyddol gwahanol a all ddeillio o ddarpariaeth mewn lleoliadau 'dwyieithog' yn y Strategaeth ddrafft. Gall rhai o'r rhain arwain at ruglder, ond efallai na fydd eraill bob tro yn sicrhau bod unigolyn yn dod yn rhugl ac yn hyderus yn y ddwy iaith.

Mae'r papur Cyd-destun ac Ystyriaethau sy'n ategu'r Strategaeth ddrafft yn cyfeirio at y perygl y gallai rhai cynigion ar gyfer ailstrwythuro'r ddarpariaeth ôl-16, o dan yr agenda Weddnewid, megis sefydlu colegau trydyddol, o bosibl danseilio cryfderau cyfredol y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Dylid llunio cynigion ar gyfer y ddarpariaeth weddnewid i wella cwmpas ac ystod y cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr. Mae hefyd yn bwysig i'r agenda Weddnewid ehangach gael ei datblygu o dan amodau sy'n cydnabod anghenion penodol y sector cyfrwng Cymraeg.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch p’un ai a yw’r dewis a ffafrir gan Rondda Cynon Taf ar gyfer trawsnewid, sy’n cynnwys cau pob Dosbarth 6 ledled yr Awdurdod a chreu un system drydyddol, yn cydymffurfio â’r meini prawf gwerthuso a nodwyd yn 'Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant’. (WAQ55315)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Ysgrifennaf atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar y rhyngrwyd.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ba gymorth grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i dalu ffioedd pensaernïol cyn rhoi caniatâd cynllunio. (WAQ55311)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cymorth grant i awdurdodau lleol er mwyn cynorthwyo â ffioedd pensaernïol cyn y rhoddir caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, gall awdurdodau lleol ddarparu cyngor i aelodau'r cyhoedd cyn iddynt gyflwyno cais, ac maent yn gwneud hynny fel arfer.