20/03/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Mawrth 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Mawrth 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r £10m o arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y rhaglen Prentisiaethau yn 'arian newydd’ ynteu a yw’n arian sydd eisoes wedi’i ddyrannu i golegau? (WAQ53741)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae’r £10m i’w ddyrannu i hyfforddiant prentisiaethau yn arian newydd ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

David Melding (Canol De Cymru): Sawl sefydliad addysg uwch yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu Nod Ansawdd Ymddiriedolaeth Frank Buttle i helpu myfyrwyr a oedd yn blant a oedd yn derbyn gofal? (WAQ53774)

Jane Hutt: Mae chwech o’r 48 o ddeiliaid Nod Safon y DU yn SAUau o Gymru:

• Aberystwyth

• Bangor

• Caerdydd

• Glyndŵr

• Abertawe

• Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Mae un coleg addysg bellach arall yng Nghymru (Coleg Sir Gâr) hefyd wedi cyflawni Nod Ansawdd Ymddiriedolaeth Frank Buttle ar gyfer y sawl sy’n gadael gofal mewn Addysg Uwch.

David Melding (Canol De Cymru): Pa ddangosyddion a ganfuwyd i fonitro ac i helpu i wella cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal? (WAQ53777)

Jane Hutt: Fel rhan o fframwaith mesur perfformiad awdurdodau lleol, mae awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth am addysg plant sy’n derbyn gofal, ar newid ysgol, presenoldeb, diarddel, cwblhau cynlluniau addysg personol, y sawl sy’n cyflawni dangosydd pwnc craidd ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3 a sgôr pwyntiau cyfartalog cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16 oed. Yn ogystal, mae’r dangosydd ar gyfran y Plant sy’n Derbyn Gofal sy’n gadael ysgol, addysg neu ddysgu seiliedig ar waith yn 16 oed heb gymhwyster allanol cymeradwy yn un o’r dangosyddion statudol yn fframwaith mesur perfformiad awdurdodau lleol.

At hynny, rydym yn casglu gwybodaeth fel rhan o’r rhaglen Rhagori ar gyrhaeddiad TGAU a chymwysterau galwedigaethol eraill, anghenion addysgol arbennig a’r math o ddarpariaeth addysgol a fynychir.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’r consortia er mwyn ystyried y canfyddiadau wrth iddynt ddod i’r amlwg o’r gwerthusiad allanol o Rhagori.

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd cynlluniau addysg bersonol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal? (WAQ53778)

Jane Hutt: Mae effeithiolrwydd cynlluniau addysg personol yn allweddol i’r gwelliannau rydym yn eu gweld yn nhrefniadau addysg plant sy’n derbyn gofal, a gyflawnir gan fentrau fel y cyllid £1m y flwyddyn gan y rhaglen Rhagori. Dylai Cynlluniau Addysg Personol sicrhau y caiff anghenion addysgol plant sy’n derbyn gofal eu hasesu a’u cefnogi ac yn dod ag asiantaethau amrywiol ynghyd sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal ymarfer i asesu eu heffeithiolrwydd ymhellach. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymgynghori â phobl ifanc am eu cynlluniau addysg personol gan ddefnyddio arolwg i gasglu eu safbwyntiau. Mae’r Rhwydwaith Maethu yn ymgynghori â gofalwyr maeth hefyd am gynlluniau addysg personol y plant maent yn eu maethu, o ystyried bod 75% o’r plant gyda gofalwyr maeth. Disgwylir canlyniadau’r arolygon hyn ar ddechrau mis Mai.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ffurf Pwyllgorau Apeliadau a Chyllid Eithriadol ar ôl ad-drefnu’r GIG? (WAQ53746)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ar hyn o bryd rwy’n ystyried yr adroddiad a roddwyd gan yr Athro Mansel Aylward sy’n nodi model ar gyfer proses apeliadau gweinyddol annibynnol yng ngoleuni’r newidiadau i strwythurau’r GIG. Hefyd, byddaf yn sefydlu grŵp i weithredu canfyddiadau’r adroddiad gan yr Athro Routledge, cadeirydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), o ran ei argymhellion ar y materion ehangach mewn perthynas ag argaeledd meddyginiaethau.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am y potensial i gamddefnyddio’r polisi presgripsiynau am ddim? (WAQ53755)

Edwina Hart: Mae fy swyddogion yn parhau i fonitro tueddiadau mewn galw a’r effaith ar werthiannau dros y cownter sy’n datgelu y caiff presgripsiynau am ddim eu rheoli’n dda gan feddygon teulu ac ymarferwyr eraill a bod pobl yn ymddwyn yn gyfrifol pan ddaw at brynu meddyginiaethau dros y cownter yn hytrach na’u cael ar bresgripsiwn. Mae gwaith monitro gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ar effaith diddymu talu am bresgripsiynau yng Nghymru yn cadarnhau hyn.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu argymhellion Adroddiad Routledge gan gynnwys unrhyw oblygiadau yng nghyswllt adnoddau ariannol? (WAQ53756)

Edwina Hart: Byddaf yn sefydlu grŵp gweithredu i asesu goblygiadau’r adroddiad o ran adnoddau yn llawn ac yn gweithredu ar y canfyddiadau fel y bo’n briodol maes o law.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynlluniau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud i weithredu argymhellion Adroddiad Routledge? (WAQ53757)

Edwina Hart: Byddaf yn sefydlu grŵp gweithredu i asesu goblygiadau’r adroddiad o ran adnoddau yn llawn ac yn gweithredu ar y canfyddiadau fel y bo’n briodol maes o law.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cyflwyno cyhoeddiad polisi am feddyginiaethau atodol? (WAQ53759)

Edwina Hart: Byddaf yn sefydlu grŵp gweithredu i asesu goblygiadau’r adroddiad o ran adnoddau yn llawn ac yn gweithredu ar y canfyddiadau fel y bo’n briodol maes o law. Bydd hyn yn cynnwys ystyried mater cyd-daliadau ymhellach.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl grwpiau Gorchwyl a Gorffen y mae wedi’u sefydlu er mis Mai 2007 a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am statws bob un ohonynt? (WAQ53766)

Edwina Hart: Mae gwybodaeth am bob un namyn un o’r grwpiau Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd ers mis Mai 2007 ar gael yn gyhoeddus. Byddaf yn parhau i roi gwybod i Aelodau am gynnydd eu gwaith.

Cyfarfu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Amser Ymateb Ambiwlans Categori C am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2009 ac unwaith y bydd wedi datblygu model digon cadarn i’w weithredu byddaf yn adrodd arno’n gyhoeddus.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gwario’r arian a arbedwyd yn sgil meddyginiaethau’n dod oddi ar batentau a gostyngiadau mewn prisiau meddyginiaethau? (WAQ53769)

Edwina Hart: Byddaf yn defnyddio unrhyw arbedion a geir mewn un maes o’r arena iechyd mewn maes arall yn unol â’m blaenoriaethau iechyd ar unrhyw adeg benodol.