20/11/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Tachwedd 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Tachwedd 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion? (WAQ52752)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Cymru’n Un yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i barhau â rhaglen buddsoddi cyfalaf fawr i wella adeiladau ysgolion, gan ragori ar y symiau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Roedd y cyfanswm y buddsoddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y cyfnod 2008-09 i 2011-12 yn £706 miliwn (gan gynnwys gwerth cyfalaf cynlluniau PFI).

Yn ogystal, gall pob Awdurdod benderfynu, yng ngoleuni blaenoriaethau lleol, ariannu prosiectau o’u hadnoddau presennol. Gallai hyn fod drwy eu cyllid cyfalaf cyffredinol eu hunain, mynediad i fenthyciadau darbodus a/neu dderbyniadau cyfalaf.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau bod ysgolion yn addas i’r diben yn ogystal â chreu amgylcheddau dysgu i’r 21ain ganrif sy’n ymgysylltu ac yn ysbrydoli dysgwyr ifanc, athrawon a’r gymuned ehangach.

Bydd diffiniad clir o ysgolion yr 21ain ganrif yn rhoi safon i Awdurdodau Lleol weithio tuag ati fydd yn galluogi cynllunio strategol effeithiol gan Awdurdodau lleol a gwell cynllunio er mwyn rheoli asedau.

Bydd y rhaglen fuddsoddi o dan faner ysgolion yr 21ain ganrif yn cynnwys diwygio prosesau ariannu cyfalaf a fydd yn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i ddatblygu rhaglenni buddsoddi cyfalaf a fydd yn mynd i’r afael â’r broblem amlwg a hirsefydlog mewn perthynas â chyflwr ac addasrwydd ysgolion yng Nghymru yn ogystal â chynorthwyo Awdurdodau Lleol gyda’u cynlluniau ar gyfer aildrefnu ysgolion.

Mae’r un mor bwysig bod Awdurdodau’n datblygu cynlluniau cadarn ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion hefyd sy’n ystyried y dirywiad mawr yn niferoedd y disgyblion a’r angen i ffocysu buddsoddiad mewn ysgolion sy’n ddichonadwy, sydd â dyfodol diogel ac sy’n gallu darparu addysg o safon, yn ogystal â darparu cyfleusterau at ddefnydd y gymuned.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog a) roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brofi ar gyfer canser y coluddyn a b) ystyried a ellir dechrau gwneud profion sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn 60 oed yn hytrach na 65 oed fel y mae ar hyn o bryd? (WAQ52769)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ar 27 Hydref, dechreuodd y gwaith o gyflwyno sgrinio canser y coluddyn ledled Cymru i ddynion a merched rhwng 60 a 69 oed gyda phecynnau sgrinio cartref yn cael eu hanfon fel y gall defnyddwyr brofi eu hunain ym mhreifatrwydd eu cartrefi. Ar ôl dwy flynedd, caiff y rhaglen sgrinio’r coluddyn ei hymestyn i bobl hyd at 74 oed ac erbyn 2015 caiff ei chynnig i bawb sy’n byw yng Nghymru sydd rhwng 50 a 74 oed.

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ail-leoli’r arian a ddychwelwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin o’i gyllideb ddeintyddiaeth ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2007/8 er mwyn gwneud gwelliannau i wasanaethau orthodonteg yn y flwyddyn ariannol nesaf? (WAQ52757)

Edwina Hart: Nid oes unrhyw gynlluniau i wneud hynny. Mae’r adnoddau a ddyrennir ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG wedi’u neilltuo. Os na fydd BILl yn gallu gwario’i ddyraniad cyfan, yna dychwelir y balans i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yna caiff ail-ddyrannu adnoddau o’r fath ei ystyried yng ngoleuni’r holl bwysau ar gyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod ceisiadau Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cau ac, os felly, pryd y cânt eu hailagor? (WAQ52754)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Fel rhan o’i chynllun strategol newydd ('Gwerthfawrogi ein Treftadaeth: Buddsoddi yn ein Dyfodol. Ein Strategaeth 2008-2013’) lansiodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri raglenni grant diwygiedig ym mis Ebrill 2008. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni hyn yn agored i geisiadau drwy gydol y cyfnod hwn o newid, ond yng Nghymru, gohiriwyd penderfyniadau ar ddwy raglen grantiau bach am gyfnod o dri mis er mwyn caniatáu dilyniant llyfn rhwng deunyddiau cais ac er mwyn sicrhau eglurder i ymgeiswyr. Caewyd y rhaglenni grantiau bach yr effeithiwyd arnynt rhwng mis Gorffennaf a mis Medi ac fe’u gelwir yn 'Eich Treftadaeth’ a 'Gwreiddiau Ifanc’. Mae’r naill a’r llall bellach yn agored i geisiadau.