Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Awst 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Michael German (Dwyrain De Cymru): O dan ba amgylchiadau y mae gan Aelodau Cynulliad, ac eithrio'r rheini sy'n Weinidogion Cymru, hawl i gael staff cymorth o'r gwasanaeth sifil, megis ysgrifenyddion preifat? (WAQ50298)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae gan unrhyw aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru yr hawl i gael staff cymorth o’r gwasanaeth sifil, gan gynnwys Ysgrifenyddion Preifat. Byddai hyn yn cynnwys Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi ar waith argymhellion Adroddiad y Pwyllgor Addysg (Mawrth 2007) ynghylch helpu plant ag awtistiaeth i ymdopi pan fyddant yn gadael yr ysgol? (WAQ50301)
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ei wneud i helpu plant ag awtistiaeth i ymdopi pan fyddant yn gadael yr ysgol? (WAQ50302)
Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc (Jane Hutt): Cyhoeddwyd yr adroddiad ar gam terfynol adolygiad y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau o AAA a oedd yn canolbwyntio ar bontio ac ymateb cychwynnol Llywodraeth y Cynulliad ym mis Mawrth 2007. Derbyniwyd 30 o'r 47 o argymhellion a derbyniwyd 27 mewn egwyddor neu'n rhannol.
Mae cynllun gweithredu yn cael ei baratoi i roi'r argymhellion ar waith. Bydd hwn yn defnyddio profiad y Grwp Gweithredu ar Bontio sy'n gweithio gyda phobl ifanc anabl, gan gynnwys rhai sydd ag anhwylder yn y sbectrwm awtistig, er mwyn amlygu'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio o ran dod yn oedolyn; yn ogystal ag astudiaeth gan Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru ‘Transition from School - What works?’ Yr ydym yn bwriadu rhoi adroddiad cynnydd interim i'r Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn.
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglenni a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, drwy gyfrwng y cwricwlwm cenedlaethol, i addysgu plant ysgol ac oedolion ifanc am broblemau cyffuriau yn y Canolbarth a'r Gorllewin? (WAQ50307)
Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi Rhaglen Ysgolion Cymru Gyfan sy'n gweithredu mewn 97% o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw galluogi plant a phobl ifanc i ymdrin â nifer o faterion anodd y gallant eu hwynebu mewn bywyd, gan gynnwys peryglon cyffuriau ac alcohol. Mae'n ffurfio rhan o linyn Addysg Bersonol a Chymdeithasol y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatgan yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hwy ar gyfer cleifion o Gymru o'u cymharu â chleifion o Loegr sy’n disgwyl i gael triniaeth yn ysbytai Lloegr? (WAQ50299)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amseroedd aros hwy ar gyfer cleifion o Gymru o'u cymharu â chleifion o Loegr sy’n disgwyl i gael triniaeth yn ysbytai Lloegr? (WAQ50300)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Dim ond ag amseroedd aros cyd-gleifion o Gymru sy'n cael eu hatgyfeirio i ysbytai yng Nghymru y gellir cymharu amseroedd aros y cleifion hynny o Gymru a gaiff eu hatgyfeirio i ysbytai yn Lloegr.
Dylid gweld a thrin cleifion o Gymru o fewn amseroedd aros hwyaf Cymru ym mha ysbyty bynnag y maent yn mynd iddo, yng Nghymru neu yn Lloegr, ac i'r rhan fwyaf o bobl, bydd hyn fel arfer yng Nghymru. Yr amserau hwyaf hyn ar gyfer diwedd mis Mawrth 2008 yw 22 wythnos ar gyfer cleifion allanol, 22 wythnos ar gyfer triniaeth cleifion mewnol/achosion dydd, 14 wythnos ar gyfer diagnosteg benodol a 24 wythnos ar gyfer therapïau penodol. Erbyn mis Rhagfyr 2009, y targed ar gyfer cyfanswm yr amser aros o'r adeg y mae meddyg teulu yn eich atgyfeirio am driniaeth, gan gynnwys aros am y profion a'r therapïau diagnosteg penodol, fydd 26 wythnos.
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Yn rhinwedd pa swydd y bu i chi ymweld â Chanolfan Dreftadaeth Gwyr ddydd Llun 13 Awst? (WAQ50309)
Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty (Carwyn Jones): Fel aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am unrhyw drafodaethau a gafodd yn ystod ei ymweliad â Chanolfan Dreftadaeth Gwyr ddydd Llun 13 Awst? (WAQ50310)
Carwyn Jones: Diben yr ymweliad oedd amlygu'r amrywiaeth o atyniadau twristiaeth sydd gan Gymru i'w cynnig ac annog pobl i'w mwynhau yr haf hwn.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa rai o adnoddau cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddefnyddiwyd gan y Cwnsler Cyffredinol i ymweld â Chanolfan Dreftadaeth Gwyr ddydd Llun 13 Awst? (WAQ50311)
Carwyn Jones: Lluniodd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru hysbysiad drafft i'r wasg a threfnu i ffotograffydd roi cyhoeddusrwydd i'r ymweliad.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Sut y mae'r ymweliad â Chanolfan Dreftadaeth Gwyr yn gweddu i'ch rôl fel Cwnsler Cyffredinol? (WAQ50312)
Carwyn Jones: Fel aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru, gallaf wneud sylwadau priodol ar unrhyw fater sy'n effeithio ar Gymru: y tro hwn, annog pobl i fwynhau treftadaeth naturiol Cymru.