28/05/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 22 Mai 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Mai 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dangosyddion y mae’r Gweinidog yn eu defnyddio i asesu pa mor effeithiol y caiff ei adran ei rhedeg ac a allai amlinellu patrymau diweddaraf pob un o’r dangosyddion hynny? (WAQ54216)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dangosyddion economaidd y mae’r Gweinidog yn eu defnyddio i asesu pa mor effeithiol yw polisïau economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a allai amlinellu patrymau diweddaraf pob un o’r dangosyddion hynny? (WAQ54217)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Rwyf yn adolygu ystod o ddangosyddion perfformiad yn rheolaidd o ran effeithiolrwydd fy Adran gan gynnwys adnoddau a chyflenwi rhaglenni. Dim ond yng nghyd-destun lefelau cyllidebau ac amcanion a bennaf bob blwyddyn ariannol ar gyfer fy Adran y mae tueddiadau o ran dangosyddion adnoddau ariannu a staffio, a dangosyddion cyflenwi yn berthnasol.  Mae dangosyddion ariannol ac adnoddau staff yn perfformio yn wahanol i’r cynllun. Mae llawer o ddangosyddion cyflenwi yn parhau yn gryf tra bo eraill yn adlewyrchu heriau cyflawni canlyniadau economaidd i bobl Cymru o dan yr amodau economaidd presennol.

Rwyf hefyd yn ystyried ystod o ddangosyddion economaidd yn rheolaidd gan gynnwys y raddfa gyflogaeth ac anweithgarwch. Mae hyn yn wybodaeth gyhoeddus fel y mae’r data am dueddiadau hanesyddol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn yr ateb i WAQ51631 beth oedd costau terfynol teithio dwyffordd, y costau llety a chynhaliaeth a’r lwfansau a’r treuliau eraill dros holl gyfnod secondiad Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru i Awstralia? (WAQ54212)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Cyfanswm cost (heb gynnwys cyflog) y prosiect 'Researching community engagement in the zero waste culture in Australia’ a gynhaliwyd gan y Cynllun Craff am Wastraff ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd £28,870.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn yr ateb i WAQ51631 beth oedd costau terfynol cyflog Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru pan oedd yn Awstralia a chost wirioneddol darparu staff i lenwi ei swydd yn ystod yr absenoldeb? (WAQ54213)

Jane Davidson: Cyfanswm y costau cyflogau yn ymwneud â’r prosiect (gan gynnwys argostau a chyflenwi staff) oedd £67,936.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn yr ateb i WAQ51631 beth oedd canlyniadau’r secondiad ac a oes unrhyw gynlluniau i ailadrodd y broses? (WAQ54214)

Jane Davidson: Adroddiad yn nodi sut y caiff deunyddiau gwastraff eu rheoli yn Awstralia fydd prif ganlyniad y prosiect. Mae canlyniadau eraill yn cynnwys adroddiadau ar ymweliadau astudio a chyfnewid arfer gorau gydag ymarferwyr gwastraff yn Awstralia. Rydym hefyd yn ystyried cynnal cysylltiadau mwy ffurfiol â Llywodraeth De Cymru Newydd fel un o nifer o enghreifftiau o arfer gorau rhyngwladol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw drafodaethau â chyd-Weinidogion yn yr Alban ynghylch clustogfeydd 2km rhwng tyrbinau gwynt ac ymyl pentrefi? (WAQ54223)

Jane Davidson: Jane Davidson: Mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â chydweithwyr yn yr Alban ar ystod o faterion cynllunio. Mater i Lywodraeth yr Alban yw polisïau yn yr Alban. Rydym yn cydgysylltu â hwy ar ystod o faterion yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy ond ni chynhaliwyd trafodaethau â chydweithwyr yn yr Alban am glustogfa 2km rhwng tyrbinau gwynt ac ymylon pentrefi gan i bolisi Llywodraeth yr Alban ar y mater hwn ôl-ddyddio Nodyn Cyngor Technegol 8.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gan y cyhoedd gyda golwg ar gyflwyno clustogfa 2km rhwng tyrbinau gwynt ac ymyl pentrefi? (WAQ54224)

Jane Davidson: Rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau ar bwnc clustogfa rhwng tyrbinau gwynt ac ymylon pentrefi yng Nghymru. Mae’n fater cyffredin a ddygwyd i’m sylw gan fy swyddogion drwy ohebiaeth a dderbyniwyd oddi wrth aelodau’r cyhoedd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno clustogfa 2km rhwng tyrbinau gwynt ac ymyl pentrefi yng Nghymru? (WAQ54225)

Jane Davidson: Nodir polisi cynllunio ar ynni adnewyddadwy yn Natganiad Polisi Cynllunio Dros Dro’r Gweinidog 01/2005 'Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy’ a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy. Mae TAN 8 yn awgrymu, pan fo awdurdodau cynllunio lleol yn cynnal gwaith mireinio’r ardaloedd chwilio strategol, yr ystyrir pellter o 500 metr rhwng y tyrbinau gwynt ac eiddo preswyl yn glustogfa nodweddiadol er mwyn osgoi effeithiau sŵn annerbyniol. Cydnabyddir y gall effaith tyrbinau gwynt amrywio gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol ac mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn gofyn am dystiolaeth na fydd datblygiadau ffermydd gwynt arfaethedig yn achosi niwed amgylcheddol diangen. Mater i’w ystyried yn lleol yw lleoliad tyrbinau gwynt unigol, fodd bynnag mae TAN8 yn argymell y dylid gosod tyrbinau gwynt pellter diamedr 3-10 rotor ar wahân (byddai hyn cyfateb i 180-600m ar gyfer datblygiad yn defnyddio rotorau â diamedr o 60m, a thyrbin 1.3 MW). Mae gosod y tyrbinau hef hyn yn gyfaddawd rhwng cywasgu, sy’n cadw costau cyfalaf i’r lleiafswm, a’r angen am eu cadw ar wahân yn ddigonol er mwyn lleihau’r ynni a gollir drwy beiriannau yn groes i’r llif yn cysgodi gwynt. Ni chaiff y gwaith o ddiwygio pellter y glustogfa ei ystyried hyd nes y caiff TAN 8 ei adolygu yn hwyrach eleni yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Ynni.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau dialysis arennol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, gan gynnwys unrhyw gynlluniau ar gyfer unedau newydd yn yr etholaeth? (WAQ54221)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ar ôl ymarfer blaenoriaethu Cymru gyfan a hwyluswyd gan y Grŵp Cynghori Arennol a’r Rhwydweithiau Arennol yn gynharach eleni cadarnhawyd bod darpariaeth dialysis newydd ar gyfer Powys yn flaenoriaeth. Mae arfarniad o’r opsiynau i ystyried lleoliadau a chyfluniadau bellach yn mynd rhagddo a bydd hwn yn llywio achos busnes a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad erbyn mis Medi 2009.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ54092, beth fu cyfanswm y costau argraffu a oedd yn gysylltiedig â chofrestru pobl dros 60 ar gyfer cynllun mynediad am ddim CADW? (WAQ54194)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Cyfanswm y costau argraffu sydd ynghlwm wrth gofrestru pobl 60 oed a throsodd neu blant 16 oed neu’n iau sy’n preswylio yng Nghymru hyd yn hyn yw £4,600.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ54092, beth yw cyfanswm yr unigolion sydd wedi cael budd o’r cynllun? (WAQ54195)

Alun Ffred Jones: Hyd yn hyn mae 6417 o drigolion Cymru wedi manteisio ar y cynllun cerdyn mynediad am ddim. Un categori yn unig o fynediad am ddim yw mynediad am ddim i drigolion Cymru ac mae’n mynd law yn llaw â mynediad am ddim i ysgolion ac ymwelwyr anabl a’u cymdeithion. O’r 127 o henebion yng ngofal Cadw, deil 99 i gynnig mynediad am ddim i bawb ymweld â hwy. Ymysg yr ychwanegiadau diweddaraf i’r rhestr o henebion sy’n cynnig mynediad am ddim mae Baddonau Caer Rufeinig Caerllion a Gwaith Haearn Blaenafon.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ54092, beth fu cyfanswm cost marchnata cynllun mynediad am ddim CADW? (WAQ54196)

Alun Ffred Jones: Cyfanswm cost marchnata’r cynllun mynediad am ddim i bobl 60 oed a throsodd neu blant 16 oed neu’n iau sy’n preswylio yng Nghymru yw £7,100.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofynion a geir i awdurdodau lleol Cymru gyhoeddi manylion y cyflogau a’r pecynnau tâl a gynigir i’w prif weithredwyr a’u huwch reolwyr? (WAQ54215)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol i gynnwys nodyn, o leiaf, yn eu hadroddiadau a chyfrifon blynyddol am gydnabyddiaeth ariannol a dalwyd i uwchgyflogeion a swyddogion. Dylai’r nodyn ddangos nifer y cyflogeion, mewn bandiau o £10,000, sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol o fwy na £60,000 y flwyddyn. Mae cydnabyddiaeth ariannol, at ddibenion y nodyn, yn cynnwys cyfanswm yr arian a dalwyd neu a dderbyniwyd a hefyd yn cynnwys treuliau lwfansau ac amcangyfrifon o werth arian parod unrhyw fuddiannau nad ydynt yn arian parod.

Mae ymghynghoriad yn mynd rhagddo ar ddiwygiadau i’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) presennol lle y ceisir barn am gyflwyno adroddiadau ar gydnabyddiaeth ariannol gan awdurdodau lleol; yn arbennig ynghylch mwy o fanylion am gydnabyddiaeth ariannol a delir i uwchgyflogeion a swyddogion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 31 Gorffennaf 2009.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl gorchymyn atebolrwydd llwyddiannus sydd wedi bod yng Nghymru am beidio â thalu treth gyngor bob blwyddyn er 1999, fesul awdurdod lleol? (WAQ54227)

Brian Gibbons: Mae erlyniadau ar gyfer peidio â thalu’r dreth gyngor yn cael eu cynnal mewn llysoedd ynadon. Mae materion y llys yn annatganoledig; cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder ydynt o hyd. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru felly’n casglu’r ystadegau hyn. Y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym yw gwybodaeth ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2006/07, ac fe’i cyhoeddir ar y wefan, lle y cafodd ei chyflenwi fel rhan o ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad gan Nicholas Bourne AC ar 16eg Chwefror (WAQ53360). Atodaf fanylion er gwybodaeth [cyhoeddwyd fel gwybodaeth ychwanegol at y ffeil].

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pryd gaiff adolygiad y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol ei gwblhau a’i agor i dendr? (WAQ54233)

Brian Gibbons: Mae’r adolygiad mewnol o’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol wrthi’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd a gwneir cyhoeddiad yn fuan. Y nod yw y daw’r adolygiad i rym ar gyfer cylch ceisiadau mis Hydref 2009.