30/01/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 30 Ionawr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 30 Ionawr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi defnyddio menter cyllid preifat ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ51004)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd trefi yng Nghymru yn gallu gwneud cais i fod yn 'Drefi Teithio Cynaliadwy’? (WAQ50917)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid oes newid i’r ateb a roddais o dan WAQ50476 fis Hydref y llynedd.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o swyddi fydd yn cael eu creu ar gyfer pobl leol o ganlyniad i’r Academi Filwrol arfaethedig yn Sain Tathan? (WAQ50957)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Disgwylir i’r prosiect greu cyfleoedd cadwyn gyflenwi arwyddocaol ar gyfer busnesau lleol yn ystod camau adeiladu a gweithredu’r Academi Hyfforddiant Amddiffyn. Ni fydd nifer penodol y swyddi, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, yn hysbys hyd nes bydd y trafodaethau cytundebol presennol rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r consortiwm Metrix ynglŷn â’r datrysiadau hyfforddiant ac ystad olaf wedi’u cwblhau.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad a wnaethpwyd o’r galw am seilwaith ychwanegol yn ardal Sain Tathan a fydd yn angenrheidiol i gefnogi’r cyfleuster hyfforddiant milwrol arfaethedig? (WAQ50958)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae Brîff Datblygu Sain Tathan a gymeradwywyd gan Gyngor Bro Morgannwg ym mis Gorffennaf 2006 yn nodi’r effaith debygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn ei chael ar y seilwaith lleol. Caiff asesiadau llawnach eu cynnwys pan gyflwynir ceisiadau cynllunio ffurfiol, er enghraifft Asesiad llawn o Effaith Trafnidiaeth; a bydd hyn yn destun yr ymgynghoriad lleol arferol o dan y weithdrefn gynllunio. Hefyd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’i holl bartneriaid, gan gynnwys darparwyr gwasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol lleol, drwy’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol, i gydlynu ystyriaeth o’u datblygiad seilwaith o ganlyniad i’r prosiect arfaethedig.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer yr holl waith cynnal a chadw neu wella sy’n cael ei wneud ar yr A470? (WAQ50961)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Byddwn yn parhau gyda’n rhaglenni gwaith ar raddfa lai i gynnal a gwella cyflwr a diogelwch yr A470 ledled Cymru. Mae hon yn broses barhaus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer yr A470? (WAQ50962)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Gwneir cyhoeddiad ar y cynlluniau ffyrdd Gogledd - De sy’n cynnwys yr A470 yn ystod gwanwyn 2008.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50967) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ51003) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

David Melding (Canol De Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i’r Cyngor Partneriaeth Busnes gwrdd? (WAQ51005)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Cyfarfu’r Cyngor Partneriaeth Busnes ddiwethaf ar 9 Mawrth 2007.

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pryd y bydd Rheilffordd Glynebwy yn agor? (WAQ51015)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Bydd y tîm prosiect yn parhau i ddatrys materion nas ymdriniwyd â hwy, gyda’r bwriad o ddechrau gwasanaethau i deithwyr cyn gynted â phosibl. Bydd datganiad yn cael ei wneud pan fydd y materion hynny wedi’u datrys.

Mae Trenau Arriva Cymru yn parhau i hyfforddi gyrwyr a deallaf fod hyn yn mynd rhagddo yn foddhaol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r ystadegau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ynghylch gwariant awdurdodau lleol ar addysg? (WAQ51016)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae awdurdodau lleol yn pennu cyllidebau i ysgolion a gwasanaethau lleol eraill o arian a ddarperir yn y setliad llywodraeth leol ac maent yn atebol am y penderfyniadau hynny. Mae’r awdurdodau yn gyfrifol am wario eu dyraniadau bob blwyddyn.

Roedd ystadegau NAHT yn seiliedig ar ddadansoddiad yr undeb ei hun o ffurflenni cyllideb y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol eu cyflwyno o dan adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei dadansoddiad ystadegol blynyddol ei hun o ffurflenni adran 52. Cyhoeddwyd gwybodaeth am gyllidebau addysg awdurdodau lleol a bennwyd ar gyfer 2007-08 ym mis Awst 2007 ac mae ar gael yn: http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/theme/loc-gov/educa/?lang=cy.

Mae prif bwyntiau’r dadansoddiad fel a ganlyn:

•cynyddodd cyllidebau refeniw net addysg (heb gynnwys grant ar gyfer darpariaeth ysgol ôl-16) o £73 miliwn i £2,006 miliwn yn 2007-08;

•cyllidebwyd y byddai gwariant gros ysgolion (sy’n cynnwys gwariant a ariennir gan grant penodol y llywodraeth gan gynnwys grant ar gyfer darpariaeth ôl-16) yn cynyddu 5.8% i £2,211 miliwn yn 2007-08;

•cynyddodd cyllidebau ysgolion unigol 4.1% (£67 miliwn) i £1,683 miliwn;

•roedd gwariant ysgolion a gyllidebwyd ar gyfer 2007-08 yn cyfateb i gyfartaledd o £4,757 fesul disgybl, cynnydd o 7.4% o’i gymharu â 2006-07.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50989) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50988) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50973) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50974) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50968) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50969) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50983) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50984) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella safon ac argaeledd gofal adsefydlu cardiaidd? (WAQ51008)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Dylai adsefydlu cardiaidd fod yn rhan annatod o’r cynllun gofal i gleifion sydd â chlefyd coronaidd sefydledig y galon ac rydym yn datblygu safon benodol yn Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Clefyd Coronaidd y Galon sydd wedi’i ddiweddaru, sydd â’r nod o sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau o safon uchel ledled Cymru. Fel cam mawr tuag at gyflawni hyn, rwy’n neilltuo arian o fewn dyraniadau ariannu blynyddol Bwrdd Iechyd Lleol 2008-09 er mwyn sicrhau y bydd prosiectau adsefydlu cardiaidd a ariennir gan y Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd a’r gronfa Loteri Fawr yn parhau ac yn dod yn rhan o ofal cardiaidd prif ffrwd y GIG.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau mynediad gwell at ofal meddygol ar gyfer dioddefwyr Charcot-Marie-Tooth, gan gynnwys diagnosis, triniaeth a gofal parhaus mewn gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion? (WAQ51009)

Edwina Hart: Rwy’n cydnabod bod clefyd Charcot-Marie-Tooth (CMT) yn gyflwr gwanychol a phoenus. Mae’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer cleifion sydd â CMT ledled Cymru yn gofyn am gydweithio gofalus mewn sawl maes arbenigol gan gynnwys geneteg, niwrowyddorau, meddyginiaeth anadlol, cardioleg, orthopedeg y cefn a chyfarpar. Mae Byrddau Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru yn rhan o’r broses o gomisiynu elfennau gofal ac yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau ar gyfer cydlynu’r gofal hwnnw mewn meysydd arbenigol gwahanol.

Byddwch yn gwybod i mi gyhoeddi adolygiad annibynnol o wasanaethau niwrowyddorau oedolion yng Nghymru ac fe’ch cyfeiriaf at y llythyr a anfonais atoch ynglŷn â’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad dyddiedig 7 Rhagfyr 2007 am ragor o wybodaeth. Bwriad canlyniad yr adolygiad hwn yw arwain at well mynediad i wasanaethau, gan gynnwys llawer o wasanaethau y mae eu hangen ar gleifion sydd â CMT.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau darparu gwasanaethau, drwy ganolfan niwrogyhyrol arbenigol—gan roi cefnogaeth, hyfforddiant ac arweinyddiaeth glinigol, i rwydwaith o glinigau lleol ledled Cymru? (WAQ51010)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod gan bob clinig niwrogyhyrol dimau amlddisgyblaeth arbenigol i ddarparu lefel gynhwysfawr o ofal a’r arfer meddygol gorau i’w holl gleifion? (WAQ51011)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau niwrogyhyrol yn cael eu cydnabod fel gwasanaethau arbenigol y mae angen eu comisiynu’n briodol? (WAQ51012)

Edwina Hart: Mae’n ofynnol cael cydweithrediad gofalus ar draws sawl maes arbenigol er mwyn darparu gwasanaethau i gleifion sydd â chlefyd niwro-gyhyrol ledled Cymru, gan gynnwys niwrowyddorau, meddyginiaeth anadlol, cardioleg, orthopedeg y cefn, geneteg a chyfarpar. Y Byrddau Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu gofal mewn meysydd arbenigol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad i wasanaethau amlddisgyblaethol ac arbenigol cynhwysfawr.

Caiff clefydau niwro-gyhyrol mewn plant eu hystyried fel rhan o’r Prosiect Gwasanaethau Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc a bydd yn ffurfio rhan o’r Rhwydwaith Clinigol ffurfiol a Reolir ar gyfer niwrowyddorau.

O ran gwasanaethau i oedolion, bydd y rhain yn rhan o’r adolygiad annibynnol o niwrowyddorau i oedolion ar gyfer pobl Cymru. Bydd yr adolygiad hwn yn debygol o ystyried rôl y rhwydweithiau anffurfiol a ffurfiol wrth ddarparu gwasanaethau.

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru enwau aelodau’r tîm o arbenigwyr a fydd yn ymchwilio i amrywiadau yn effaith Grogan ledled Cymru? (WAQ51013)

Edwina Hart: Caiff grŵp cynghori annibynnol ei sefydlu maes o law er mwyn adolygu cais a chostau gofal iechyd parhaus y GIG ym mhob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Disgwylir i’r grŵp gyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau erbyn diwedd mis Mai 2008. Nid oes cytundeb o ran aelodaeth o’r grŵp hwn na’i gylch gorchwyl eto ond bydd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o’r gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Byddaf yn cyhoeddi’r manylion pan fyddant yn derfynol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r ddeiseb Google ynghylch Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy wedi cael ei chyflwyno i’r Gweinidog ac, os felly, a yw’r Gweinidog yn bwriadu ymateb iddi? (WAQ50931)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Nid yw deiseb Google wedi’i chyflwyno i mi, ond rwy’n ymwybodol ohoni ac o’r pryderon o ran dyfodol Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae’r Gweinidog yn blaenoriaethu cyllid rhwng canolfannau celfyddydau cymunedol a phrosiectau megis Canolfan Mileniwm Cymru? (WAQ50932)

Rhodri Glyn Thomas: Y pecyn cyllid a gyhoeddwyd ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru yn ddiweddar yw arian ychwanegol ar gyfer y portffolio Treftadaeth ac nid yw wedi’i gymryd o’r arian i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Celfyddydau wedi ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithio o fewn fframwaith strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn unol â’r egwyddor ariannu hyd braich, nid wyf yn ymyrryd â phenderfyniadau ariannu unigol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfansoddiad demograffig ymwelwyr â Chanolfan Mileniwm Cymru ac â Chanolfan Gelfyddydau Glannau Gwy, y naill a’r llall? (WAQ50933)

Rhodri Glyn Thomas: Ni chaiff gwybodaeth am nodweddion demograffig ymwelwyr â Chanolfan Gelfyddydau Glannau Gwy a Chanolfan Mileniwm Cymru ei chadw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw data ar nodweddion demograffig ei chynulleidfaoedd sy’n talu, gan gynnwys eu lleoliad, patrymau gwariant, proffiliau economaidd gymdeithasol a buddiannau artistig. Mae hefyd yn cynnal arolygon rheolaidd o’i chynulleidfaoedd yn y cyntedd, y rhai nad ydynt yn talu.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau cynyddol Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy? (WAQ50934)

Rhodri Glyn Thomas: Rwy’n ymwybodol fod Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir Powys a Chyngor Celfyddydau Cymru o ran ei sefyllfa ariannol. Fodd bynnag, yn unol â’r egwyddor ariannu hyd braich, ni fyddai’n addas i mi ymyrryd â phenderfyniad ariannu unigol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chyngor y Celfyddydau i gynyddu cyllid ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy? (WAQ50935)

Rhodri Glyn Thomas: Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar ystod eang o faterion, gan gynnwys ei strategaethau ar gyfer datblygu a chefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru yw pennu dyraniadau arian i sefydliadau celfyddydol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chyngor Sir Powys i gynyddu cyllid ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy? (WAQ50936)

Rhodri Glyn Thomas: Rwy’n ymwybodol o’r pryderon o ran dyfodol Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy. Er bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol ar ddarpariaeth gelfyddydol yn rheolaidd, mater i’r sefydliadau unigol yw’r arian a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw ohebiaeth gyda chyrff perthnasol yng nghyswllt Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy? (WAQ50937)

Rhodri Glyn Thomas: Rwy’n ymwybodol o’r pryderon o ran dyfodol Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy ac rwyf wedi cael sawl gohebiaeth gan unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb. Mae fy holl ohebiaeth wedi amlinellu’r ffaith y caiff arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn unol â’r egwyddor ariannu hyd braich, ni fyddai’n briodol i mi ymyrryd â phenderfyniad ariannu unigol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi ymchwilio i effaith cau Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy ar ddiwydiant twristiaeth y canolbarth? (WAQ50938)

Rhodri Glyn Thomas: Rwy’n ymwybodol o’r pryderon o ran dyfodol Canolfan Celfyddydau Glannau Gwy. Wrth ystyried ei sefyllfa, byddai Cyngor Sir Powys yn siŵr o ystyried effaith bosibl hyn ar y gymuned, yr economi a’r diwydiant twristaidd lleol pe byddai’n rhaid i’r ganolfan gelfyddydau gau.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cau Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy ar brosiectau celfyddydau eraill yng Nghymru? (WAQ50939)

Rhodri Glyn Thomas: Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n penderfynu ar ddyraniadau ariannol i sefydliadau celfyddydol unigol, gan weithio o fewn cyd-destun ei strategaethau ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru. Wrth ystyried ei sefyllfa, byddai Cyngor Celfyddydau Cymru yn siŵr o ystyried yr effaith ar y ddarpariaeth o wasanaethau celfyddydol yn y rhanbarth pe byddai’n rhaid i’r ganolfan gelfyddydau gau.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cymharu Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy â sefydliadau tebyg tramor? (WAQ50940)

Rhodri Glyn Thomas: Naddo. Mae arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru wedi ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n penderfynu ar ddyraniadau ariannol i sefydliadau celfyddydol unigol, gan weithio o fewn cyd-destun ei strategaethau ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cymharu Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy â sefydliadau tebyg yn y Deyrnas Unedig? (WAQ50941)

Rhodri Glyn Thomas: Naddo. Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n penderfynu ar ddyraniadau ariannol i sefydliadau celfyddydol unigol, gan weithio o fewn cyd-destun ei strategaethau ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cymharu Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy â sefydliadau tebyg yng Nghymru? (WAQ50942)

Rhodri Glyn Thomas: Naddo. Mae arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru wedi ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n penderfynu ar ddyraniadau ariannol i sefydliadau celfyddydol unigol, gan weithio o fewn cyd-destun ei strategaethau ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cymharu Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy â Chanolfan Mileniwm Cymru o ran annog y boblogaeth leol i fynychu digwyddiadau a gynhelir yno? (WAQ50943)

Rhodri Glyn Thomas: Byddai’n rhaid i unrhyw ymarfer meincnodi i asesu llwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru o ran denu cynulleidfaoedd ganolbwyntio ar gymharu perfformiad Canolfan Mileniwm Cymru â pherfformiad lleoliadau cyfatebol mewn ardaloedd eraill, sef theatrau cerdd mawr gyda tua’r un faint o seddi ac uchelgais.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cymharu Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy â Chanolfan Mileniwm Cymru o ran annog pobl o’r DU i fynychu digwyddiadau a gynhelir yno? (WAQ50944)

Rhodri Glyn Thomas: Byddai’n rhaid i unrhyw ymarfer meincnodi i asesu llwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru o ran denu cynulleidfaoedd ganolbwyntio ar gymharu perfformiad Canolfan Mileniwm Cymru â pherfformiad lleoliadau cyfatebol mewn ardaloedd eraill, sef theatrau cerdd mawr gyda tua’r un faint o seddi ac uchelgais.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cymharu Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy â Chanolfan Mileniwm Cymru o ran annog pobl o dramor i fynychu yno? (WAQ50945)

Rhodri Glyn Thomas: Byddai’n rhaid i unrhyw ymarfer meincnodi i asesu llwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru o ran denu cynulleidfaoedd ganolbwyntio ar gymharu perfformiad Canolfan Mileniwm Cymru â pherfformiad lleoliadau cyfatebol mewn ardaloedd eraill, sef theatrau cerdd mawr gyda tua’r un faint o seddi ac uchelgais.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ganolfannau celfyddydau cymunedol? (WAQ50946)

Rhodri Glyn Thomas: Fel y crybwyllais yn fy ymateb i WAQ50861 Kirsty Williams ar 21 Ionawr 2008, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i gefnogi canolfannau celfyddydau cymunedol a lleoliadau celfyddydol eraill ledled Cymru.

Rydym yn cydnabod yn llawn y rôl bwysig a chwaraeir gan ganolfannau celfyddydau cymunedol o ran hyrwyddo ac annog cynhwysiant a chyfranogiad. Fel y gwyddoch, mae cyllid a chymorth Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Celfyddydau wedi eu sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithio o fewn fframwaith strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn helpu sawl canolfan celfyddydau ranbarthol yng Nghanolbarth Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr Brycheiniog, Oriel Davies a Theatr Hafren. Mae’r rhain, a sefydliadau cymunedol eraill yng Nghanolbarth Cymru, hefyd yn cael budd o’r £2m y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi yn benodol i weithgaredd 'Y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd’.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ymwelwyr â Chanolfan Mileniwm Cymru ac â Chanolfan Gelfyddydau Glannau Gwy, fel cyfran o gost flynyddol y naill a’r llall? (WAQ50947)

Rhodri Glyn Thomas: Byddai’n rhaid i unrhyw ymarfer meincnodi i asesu gwerth am arian o ariannu Canolfan Mileniwm Cymru ganolbwyntio ar gymharu perfformiad Canolfan Mileniwm Cymru â pherfformiad lleoliadau cyfatebol mewn ardaloedd eraill, sef theatrau cerdd mawr gyda tua’r un faint o seddi ac uchelgais.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am feini prawf Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy ar gyfer llwyddiant fel y’u diffinnir gan Gyngor y Celfyddydau a Chyngor Sir Powys, ac a ydynt wedi llwyddo i gyflawni’r rhain? (WAQ50948)

Rhodri Glyn Thomas: Cyfrifoldeb Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys yw pennu ac asesu’r meini prawf perfformiad ar gyfer derbynyddion grant.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fecanwaith penderfynu ar sut y dyrennir grantiau yng Nghymru i brosiectau sy’n ymwneud â’r celfyddydau? (WAQ50949)

Rhodri Glyn Thomas: Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithio o fewn fframwaith strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gellir cael manylion am gynlluniau ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru ar eu gwefan yn www.artswales.org.uk.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi ymchwilio i effaith cau Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy ar fusnes gwestai yn Llanfair-ym-Muallt? (WAQ50950)

Rhodri Glyn Thomas: Rwy’n ymwybodol o’r pryderon o ran dyfodol Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy. Wrth ystyried ei sefyllfa, byddai Cyngor Sir Powys yn siŵr o ystyried effaith bosibl hyn ar yr economi leol a’r sector llety i dwristiaid pe byddai’n rhaid i’r ganolfan celfyddydau gau.

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch cerddoriaeth sy’n amrywiol yn ddiwylliannol mewn cymunedau lleol a’r cyllid a briodolir iddi? (WAQ50959)

Rhodri Glyn Thomas: Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys cymorth i gerddoriaeth. Dyrannodd Cyngor Celfyddydau Cymru £5.8 miliwn i helpu sefydliadau cerddoriaeth a gwyliau cerddorol yn 06/07, gan gynnwys cymorth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a trac, Traddodiadau Cerddoriaeth Cymru.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gweithio’n eang gyda phartneriaid a sefydliadau er mwyn datblygu amrywiaeth o strategaethau ar ffurfiau ar gelfyddyd, gan gynnwys strategaeth cerddoriaeth. Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod bod cyfansoddiad Cymru fodern yn adlewyrchu sawl diwylliant a nodweddir gan fathau gwahanol o gerddoriaeth ac mae’n pwysleisio ymrwymiad Cyngor y Celfyddydau i sicrhau y caiff y mathau gwahanol hyn o gerddoriaeth eu gweld a’u clywed. Mae’r strategaethau’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd a chânt eu trafod yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau.

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch addysg cerddoriaeth sy’n amrywiol yn ddiwylliannol a’r cyllid a briodolir iddi? (WAQ50960)

Rhodri Glyn Thomas: Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys cymorth i gerddoriaeth. Dyrannodd Cyngor Celfyddydau Cymru £5.8 miliwn i gefnogi sefydliadau cerddoriaeth a gwyliau cerddorol yn 06/07.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar amrywiaeth o faterion celfyddydol yn rheolaidd. Fodd bynnag, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw pennu faint o gymorth y maent yn ei roi i wasanaethau cerddoriaeth yn eu hardaloedd, ar sail eu dealltwriaeth eu hunain o anghenion a blaenoriaethau lleol. Byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru, fodd bynnag, yn disgwyl i awdurdodau lleol roi ystyriaeth briodol i sicrhau eu bod yn adeiladu ar yr arfer da a gefnogir gan fentrau megis y Gronfa Datblygu Cerddoriaeth.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50998) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50999) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50993) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50994) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau cymdeithasol yng Nghymru? (WAQ50926)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Cyflwynais y strategaeth "Y Trydydd Dimensiwn" ar gyfer y Strategaeth Trydydd Sector, i’r Cyfarfod Llawn ar 13 Tachwedd 2007. Y Trydydd Dimensiwn bellach yw’r ddogfen gyffredinol ar gyfer y sector gwirfoddol a’r sector mentrau cymdeithasol sy’n cynnwys cyfeiriadau penodol at Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar gyfer Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru, a lansiwyd yn 2005.

Er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno’r Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar gyfer Cymru ymhellach, ac i gyflymu twf y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru, rwyf wedi gofyn i swyddogion adnewyddu’r Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar gyfer Cymru drwy ddatblygu Cynllun Gweithredu yn nodi’r cerrig milltir allweddol o’r Strategaeth wreiddiol ac adeiladu ar ddatganiadau polisi ac ymrwymiadau o fewn Y Trydydd Dimensiwn.

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw ystyriaeth y mae ef/ei swyddogion wedi’i rhoi i bosibilrwydd cyflwyno nod menter gymdeithasol yng Nghymru? (WAQ50927)

Brian Gibbons: Mae swyddogion yn gweithio ar Strategaeth Mentrau Cymdeithasol newydd ar gyfer Cymru a fydd yn arwain at Gynllun Gweithredu i ysgogi’r sector i dyfu’n gynt.

Mae defnyddio marc mentrau cymdeithasol yn cael ei dreialu ar hyn o bryd yn Ne-orllewin Lloegr, felly nid yw’r buddiannau posibl i fusnesau yn hysbys nac wedi’u profi. Mae amrywiaeth barn am fanteision marc mentrau cymdeithasol yn y sector mentrau cymdeithasol. Rydym yn edrych ymlaen at gael gweld y canlyniadau o’r ymarfer peilot maes o law.

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fudd datblygu nod menter gymdeithasol i fusnesau yng Nghymru? (WAQ50928)

Brian Gibbons: Mae defnyddio marc mentrau cymdeithasol yn cael ei dreialu ar hyn o bryd yn Ne-orllewin Lloegr, felly nid yw’r buddiannau posibl i fusnesau yn hysbys nac wedi’u profi. Mae amrywiaeth barn am fanteision marc mentrau cymdeithasol yn y sector mentrau cymdeithasol. Rydym yn edrych ymlaen at gael gweld y canlyniadau o’r ymarfer peilot maes o law.

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fudd datblygu nod menter gymdeithasol i hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yng Nghymru? (WAQ50929)

Brian Gibbons: Mae defnyddio marc mentrau cymdeithasol yn cael ei dreialu ar hyn o bryd yn Ne-orllewin Lloegr. Bydd fy swyddogion, mewn cydweithrediad â’r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru, yn asesu canlyniadau’r treial hwnnw maes o law.

Mae cynnydd yn parhau gyda’r broses o hyrwyddo Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Mae’r Adran Menter a Thrafnidiaeth yn edrych ar ei strategaeth ymgysylltu â busnes er mwyn hyrwyddo manteision cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol i fusnesau yng Nghymru ac mae’r adran hefyd yn edrych ar gysylltiadau posibl â hyrwyddo cymalau cymdeithasol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae adran y Gweinidog wedi defnyddio menter cyllid preifat er 1999? (WAQ50978) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio menter cyllid preifat yn eu hadran yn y dyfodol? (WAQ50979) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir ar ran pob un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i unrhyw gontractau Menter Cyllid Preifat ers 1999. Fodd bynnag, rydym wedi anrhydeddu ymrwymiad presennol i gefnogi cynlluniau llywodraeth leol penodol sy’n dangos ac yn cyflawni’r gwerth gorau.