07/10/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 30/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 7 Hydref 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Medi 2015

Dadl Fer

NDM5837 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Dyfodol adeiladau capeli yng Nghymru

NDM5838 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015.

Cyflwynwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2015.

NDM5839 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model cadw pwerau;

3.  Yn gwrthod unrhyw fodel cadw pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y trefniadau presennol;

4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a

5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.

NDM5840 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y gall problemau iechyd meddwl, heb gymorth a thriniaeth briodol, gael effaith ddinistriol ar ansawdd bywyd person, gan effeithio ar ei waith, ei fywyd cartref a'i berthnasau;

2. Yn croesawu diwrnod iechyd meddwl y byd, Amser i Newid Cymru, Gyda'n Gilydd Nawr! ac ymgyrchoedd eraill sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma a gwahaniaethu;

3. Yn credu bod llawer i'w wneud o hyd er mwyn darparu gwell gofal a chymorth i bobl o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi blaenoriaeth gyfartal i iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn y gyfraith i helpu i yrru newid diwylliannol mewn agweddau;

b) sicrhau bod y gyfran o gyllid ar gyfer iechyd meddwl o fewn cyllideb gyffredinol GIG Cymru yn gyson â'r baich clefydau, gan adlewyrchu maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol;

c) cyflwyno safonau amseroedd aros newydd ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol;

d) gwella hyfforddiant iechyd meddwl i athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr er mwyn rhoi'r sgiliau iddynt adnabod a chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl; ac

e) cyflwyno set graidd o ddata iechyd meddwl, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau gweithredu a sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Hydref 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5839

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
 
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned y Cyfansoddiad, 'Darparu Model Pwerau Wedi Cadw'n ôl ar gyfer Datganoli i Gymru', sy'n datgan bod y 'gallai awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fod yn wahanol, ond ni fyddai'n rhaid iddi fod ar wahân i'r awdurdodaeth yn Lloegr';

Mae'r adroddiad 'Darparu Model Pwerau Wedi Cadw'n ôl ar gyfer Datganoli i Gymru' ar gael yn: http://sites.cardiff.ac.uk/wgc/cy/2015/09/24/news-leading-experts-warn-that-proposals-for-reserved-powers-for-wales-will-leave-major-constitutional-problems-unresolved/

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
 
Ym mhwynt 5, dileu 'chreu' a rhoi 'datblygu'.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau i amrywio treth incwm i Gymru ar y cyfle cyntaf.

NDM5840

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon parhaus ynghylch gallu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru i ateb y galw.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith y bydd toriadau termau real i wariant y GIG yng Nghymru yn ei gwneud yn fwy heriol i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 4, cynnwys isbwynt newydd:

ystyried clustnodi cyllid i sicrhau bod buddsoddiad digonol mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru.