Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 19 Mawrth 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2014
Dadl Fer
NDM5466 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Achub ein Gwasanaethau – Ymgyrch pobl Sir Benfro i gadw gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.
NDM5467 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy:
a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru;
b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth;
c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu cyfleoedd i bobl anabl;
d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion cyflogaeth gwael fel contractau dim oriau.
NDM5468 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder y dyfarnwyd graddau annisgwyl o isel i rai myfyrwyr a safodd fodiwlau Saesneg TGAU ym mis Ionawr 2014;
2. Yn croesawu adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru o'r sefyllfa;
3. Yn nodi pwysigrwydd ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i'r adolygiad; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu natur y broses adolygu a'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad mewn modd agored a didwyll.
Cefnogir gan:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwelliant diweddar yn economi'r DU yn sgîl camau gweithredu Llywodraeth y DU.
2. Yn cydnabod mai 0.7% oedd twf cyffredinol cynnyrch mewnwladol crynswth y DU ym mhedwerydd chwarter 2013.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5467
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Adolygu beth sy’n achosi’r cynnydd mewn llwythi gwaith ac absenoldeb salwch oherwydd straen ymysg gweithwyr yn y sector cyhoeddus, yn benodol nyrsys ac athrawon.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
Croesawu’r cynnydd yn y lwfans personol i £10,000 yn ogystal ag ymgynghoriad Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y DU ar gontractau dim oriau.
Mae ymgynghoriad Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y DU i’w weld yn:
https://www.gov.uk/government/consultations/zero-hours-employment-contracts
NDM5469
1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le ‘yr amodau economaidd sy’n gwella’.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.
4. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.
5. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu bod angen cymryd camau ar frys i wella ffyniant economaidd Cymru, yn cynnwys mabwysiadu strategaeth wedi’i seilio ar sgiliau ac sy’n cael ei harwain gan allforio.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Mawrth 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4657
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth yn is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
Cefnogi arferion rheoli da sy’n sicrhau cysylltiadau da yn y gweithle a chyflogaeth gynaliadwy.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sgiliau gweithio wrth galon ei Hadolygiad Cwricwlwm ac Asesu newydd er mwyn lleihau’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ran cyflogaeth.
NDM4659
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r effaith gadarnhaol y bydd creu mwy na miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010 wedi’i chael ar economi’r DU ac yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng dros 26% rhwng 2006 a 2012.