Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Hydref 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2009
Dadl Fer
NDM4307 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Croeso i Gymru
NDM4303 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol a Rheol Sefydlog 35.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2009; ac
2. Yn cymeradwyo’r gwelliant i Reolau Sefydlog a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
NDM4304 Mick Bates (Sir Drefaldwyn)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Lleihau allyriadau carbon drwy'r Defnydd o Dir: Pumed adroddiad ar ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i leihau allyriadau carbon yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2009
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Faterion Gwledig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2009.
NDM4305 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2010-11, fel y pennir yn nhabl 1 "Cynigion y Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010-11”, a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2009; a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Blynyddol am y Gyllideb dan Reol Sefydlog 27.17(ii).
NDM4306 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi â chryn bryder bod diweithdra yng Nghymru bellach yn 130,000 (9.1%), cynnydd o 45,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.
NDM4308 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y cynnydd pellach mewn diweithdra yng Nghymru;
2. Yn gresynu bod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU yn ystod y chwarter olaf; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu manylion sut y mae’n bwriadu cyflawni ei tharged cyflogaeth tymor hir o 80%.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 16 Hydref 2009
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i Gynigion:
NDM4308
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn gresynu wrth ddiffyg strategaeth effeithiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddelio â’r diweithdra cynyddol.
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r ffaith bod strategaeth Llywodraeth y Cynulliad sef, Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru wedi cael ei chyhoeddi
, a’r ffaith bod Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru wedi’i sefydlu, sy’n amlygu’r dull partneriaeth a ddefnyddir er mwyn diwallu anghenion y dyfodol mewn ecomoni sy’n tyfu yng Nghymru.
Gellir gweld y Strategaeth Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru ar y ddolen isod-
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/policy/skillsthatforwales/?skip=1&lang=cy
NDM4306
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymhellach:
a) y camau sylweddol sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi pobl sy’n cael eu bygwth gan ddiweithdra neu sy’n wynebu diweithdra, megis y rhaglen PROACT newydd, gwella’r rhaglen ReACT ac Adeiladu Sgiliau;
b) y ffordd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewrop i’r eithaf er mwyn mynd i’r afael â heriau’r dirwasgiad;
c) y rhaglen o bwys ar gyfer Adfywiad Economaidd a lansiwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog yr wythnos diwethaf a fydd yn cynllunio ar gyfer economi gryfach a mwy cynaliadwy ar ôl y dirwasgiad;
d) y dull partneriaeth a arddelir gan Lywodraeth y Cynulliad wrth fynd i’r afael â’r dirwasgiad gydag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys y CBI, y TUC a’r FSB; a
e) y mesurau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau cymorth mwy pendant ar gyfer busnesau trwy Gymorth Hyblyg i Fusnes a’r Gronfa Fuddsoddi Sengl.