12/12/2007 - Pleidleisiau a thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (37)

Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2007
Amser: 12.30pm

Cyhoeddodd y Llywyddd ganlyniadau’r balot i Aelodau gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth.  

Canlyniadau’r balot:

Enillwyd y balot ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gan Helen Mary Jones gyda’i chynnig ar ofalwyr.
Enillwyd y balot ar gyfer cyflwyno Mesur gan Dai Lloyd gyda’i gynnig ar asesiadau effaith ar gyfer gwerthu caeau chwarae.

Eitem 1 - Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 9 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

...................................................

1.07pm
Eitem 2 - Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cafodd cwestiynau 3 ac 11 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai. Trosglwyddwyd cwestiwn 10 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

...................................................

1.45pm
Eitem 3 - Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol  

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 7 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai a chafodd cwestiynau 9 ac 11 eu grwpio.

...................................................

2.29pm
EItem 4 - Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Penodi'r Comisiynydd Plant

...................................................

2.48pm

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NDM3613 - Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan Eitem 5 a 6 gael eu hystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher 12 Rhagfyr 2007.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

2.48pm
Eitem 5: Cynigion i sefydlu ac i ethol Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy

NNDM3614 - Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu Pwyllgor i ystyried y Gorchymyn arfaethedig, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008 mewn perthynas â Thai Fforddiadwy, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2007, ac i gyflwyno adroddiad arno.

Bydd y Pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft cysylltiedig ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.  

NNDM3615 - Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Alun Davies, Lesley Griffiths, Leanne Wood, Mark Isherwood a Peter Black yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

2.48pm
Eitem 6: Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal


NNDM3616 - Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Mick Bates (Democratiaid Rhyddfrydol).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

2.49pm
Eitem 7 - Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Atebwyd y cwestiwn.

...................................................

2.51pm
Eitem 8 - Dadl ar Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2006/07

NDM3834 - Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.61 (vii):

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2006/07, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2007.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

3.17pm
Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig  

NDM3835 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn mynegi pryderon difrifol ynghylch cau ysgolion bach, ac yn cydnabod:

a) y diffyg polisi a chanllawiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ysgolion bach;

b) methiant Llywodraeth y Cynulliad i gydnabod cyflawniad rhagorol ysgolion bach; ac

c) methiant Llywodraeth y Cynulliad i gydnabod y rôl hanfodol y mae ysgolion bach yn ei chwarae yn eu cymunedau ehangach.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl "Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:

"Yn croesawu:

a) y polisi cytbwys a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag ysgolion bach, sy’n rhoi lles y dysgwyr yn gyntaf;

b) yr adolygiad cyfredol o’r canllawiau ar gynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion, i sicrhau y byddant yn adlewyrchu’n gywir y datblygiadau polisi diweddar a’r datblygiadau polisi sydd ar y gweill;

c) parhad y trefniadau grant presennol ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig, gan wneud mwy o ddefnydd o adeiladau ysgol i wella hyfywedd.”


Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ffedereiddio ysgolion bach fel dewis arall yn hytrach na’u cau, pan fydd hynny’n briodol.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y bleidlais:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

NDM3835 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu:

a) y polisi cytbwys a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag ysgolion bach, sy’n rhoi lles y dysgwyr yn gyntaf;

b) yr adolygiad cyfredol o’r canllawiau ar gynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion, i sicrhau y byddant yn adlewyrchu’n gywir y datblygiadau polisi diweddar a’r datblygiadau polisi sydd ar y gweill;

c) parhad y trefniadau grant presennol ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig, gan wneud mwy o ddefnydd o adeiladau ysgol i wella hyfywedd.

d) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ffedereiddio ysgolion bach fel dewis arall yn hytrach na’u cau, pan fydd hynny’n briodol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

6

10

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


...................................................

4.23pm
Eitem 10 - Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM3836 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig nyrsys arbenigol a phroffesiynau perthynol, megis ffisiotherapyddion, i greu Cymru iachach.

2. Yn galw am roi mwy o bwyslais ar hyfforddi a phenodi nyrsys cymunedol i sicrhau y gellir trin mwy o bobl yn eu cymuned heb orfod mynd i'r ysbyty.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 2 a rhoi pwynt 2 newydd yn ei le:

"Yn croesawu’r pwyslais newydd yng nghytundeb Cymru’n Un ar hyfforddi a phenodi nyrsys cymunedol er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael eu trin yn eu cymuned heb orfod mynd i’r ysbyty.”


Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn nodi’r diffyg o 27% yn y nyrsys newyddenedigol y mae eu hangen i fodloni’r safonau gofynnol a argymhellir yng Nghymru, ac yn cydnabod swyddogaeth hollbwysig nyrsys newyddenedigol o ran helpu rhieni i drosglwyddo o’r ysbyty i’r cartref.”

Gwelliant 3 - Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn cydnabod bod angen strategaeth arnom i ddatblygu rôl nyrsio cymunedol.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

NDM3836 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig nyrsys arbenigol a phroffesiynau perthynol, megis ffisiotherapyddion, i greu Cymru iachach.

2. Yn croesawu’r pwyslais newydd yng nghytundeb Cymru’n Un ar hyfforddi a phenodi nyrsys cymunedol er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael eu trin yn eu cymuned heb orfod mynd i’r ysbyty

3. Yn cydnabod bod angen strategaeth arnom i ddatblygu rôl nyrsio cymunedol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

2

8

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

...................................................

5.18pm
Gohiriwyd y cyfarfod

5.23pm
Bu i’r Cynulliad ailymgynnull ar gyfer y cyfnod pleidleisio

...................................................

5.26pm
Eitem 11 - Dadl fer

NDM3837 - Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni):

Nadolig Plentyn yng Nghymru (2020).

...................................................

Daeth y cyfarfod i ben am 5.53pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 15 Ionawr 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr