Strategaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rhagfyr 2021

Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol.

Mae’r dudalen hon yn nodi’r strategaeth i’n gwaith yn y Chweched Senedd.

Byddwn yn parhau i adolygu’r strategaeth hon.

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Bawb yng Nghymru yn byw bywydau hirach ac iachach.

System iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n fwy effeithiol nag yr oedd cyn y pandemig.

Pobl yn defnyddio systemau iechyd a gofal gan wybod pa wasanaethau i'w cyrchu i ddiwallu eu hanghenion, a chael profiad mwy cadarnhaol.

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, bydd angen:

  • Integreiddio gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cynnydd o ran diwygio gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwell cynaliadwyedd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol.
  • Lefelau uwch o lythrennedd iechyd a chyfeirio rhwng gwasanaethau.
  • Gwell mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i bobl ifanc a phobl sydd â'r anghenion mwyaf acíwt.
  • Cynnydd o ran mynd i'r afael â phrinder gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys datblygu'r gweithlu a gwasanaethau gofal sylfaenol fel bod pobl yn gallu cael mynediad at arbenigedd priodol yn agos at gartref.
  • Morâl uwch ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Gwell hunanreolaeth a hunanofal o gyflyrau cronig.
  • Gwell safonau ac arferion mewn perthynas ag iechyd menywod.

 

"Mae’r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf, a sut byddwn yn cydweithio fel Pwyllgor.

Bydd ein strategaeth yn tywys ac yn llywio ein gwaith, ond ni fydd yn ein hatal rhab bod yn hyblyg neu ymateb i faterion sy’n codi."

Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 


Ein rôl

Ein rôl ni yw sbarduno newid drwy ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn gwneud hyn drwy’r canlynol:

  1. Cynnal ymdeimlad o ddiben cyffredin trawsbleidiol mewn perthynas â’r weledigaeth rydym yn ei rhannu, gan hefyd gydnabod a pharchu y bydd gan Aelodau safbwyntiau gwleidyddol gwahanol.
  2. Cadw mater neu faterion blaenoriaeth ar agenda'r Llywodraeth, neu wthio mater neu faterion i fyny'r agenda, drwy ymchwiliadau, gwaith craffu cyffredinol, trafodaethau anffurfiol gyda'r Gweinidog, ceisio sesiynau briffio gan Lywodraeth Cymru, gohebiaeth, monitro sut mae argymhellion yn cael eu gweithredu, a chwestiynau neu gyfraniadau'r Aelodau eu hunain yn y Cyfarfod Llawn ac ati.
  3. Adnabod rhwystrau i weithredu neu newid, a sut y gellir mynd i'r afael â rhwystrau o'r fath, a mynd ar drywydd gwaith i weld a aethpwyd i'r afael â'r rhwystrau. Gallai hyn hefyd gynnwys gwaith craffu mwy systematig ar ymatebion Llywodraeth Cymru, a mynd ar drywydd ymatebion nad ydynt yn ddigon clir, cadarn neu gynhwysfawr.
  4. Cynllunio gwaith mewn digon o amser roi eglurder i randdeiliaid, golygu bod modd meithrin perthynas â phobl na fyddai eu lleisiau'n cael eu clywed fel arall, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac amser, gan hefyd gadw digon o hyblygrwydd a chapasiti i'n galluogi i ymateb i faterion amserol neu faterion sy'n codi.
  5. Rhoi amser o'r neilltu o bryd i'w gilydd i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed tuag at y weledigaeth gyffredinol, pa gyfraniad rydym wedi'i wneud, a pha gamau pellach y gallem eu cymryd i lywio cynnydd.

 

Materion

Materion trawsbynciol

Bydd y themâu canlynol yn rhedeg drwy ein holl waith:

Rhoi pobl wrth galon iechyd a gofal Cymdeithasol

Er enghraifft, pwy mae polisïau neu benderfyniadau’n effeithio arnynt; effeithiau gwahanol ar wahanol grwpiau neu gymunedau; ffyrdd o gyfathrebu â phobl, ymgysylltu â nhw, ymgynghori â nhw neu eu cynnwys.

Arloesi er mwyn gwella

Er enghraifft, alinio ag agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru; arloesi mewn prosesau, technoleg, offer, hyfforddiant ac agweddau; rhwystrau; sylfaen dystiolaeth; gwerthuso, rhannu a chyflwyno; cyllid; archwaeth risg a chydbwyso diogelwch ac arloesedd; atebolrwydd ac uchelgais; ystwythder; alinio dyhead a gweithredu.

Y gweithlu iechyd a gofal Cymdeithasol

Er enghraifft, capasiti; hyfforddi ac ailhyfforddi; ymgorffori arloesedd wrth gynllunio a datblygu'r gweithlu; morâl a llesiant staff.

Anghydraddoldebau ac annhegwch iechyd

Er enghraifft, y gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd a mynediad at wasanaethau ar draws gwahanol grwpiau, cymunedau, grwpiau economaidd-gymdeithasol neu ardaloedd daearyddol.

Ailosod ar ôl y pandemig

Er enghraifft, ystyried sut oedd pethau cyn y pandemig, sut y gwnaeth y pandemig effeithio arnynt, a sut yr ydym am i'r sefyllfa fod.

Blaenoriaethau

Materion blaenoriaeth

Rydym wedi nodi'r materion blaenoriaeth a ganlyn. Byddwn yn parhau i adolygu’r rhestrau hyn.

Blwyddyn un y Chweched Senedd (2021 - 22)

  • COVID: cadw golwg ar y pandemig, ac ailosod ar ôl COVID.
  • Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys hyfforddiant; recriwtio; cadw; anghenion; lleoedd hyfforddi; diwylliant o arloesi a gwella; ac uwch arweinyddiaeth (er enghraifft drwy wrandawiadau cyn penodi neu sesiynau craffu).
  • Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros.
  • Llif cleifion drwy ysbytai, gan ganolbwyntio i ddechrau ar eu rhyddhau o'r ysbyty.
  • Iechyd meddwl.
  • Cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal Cymdeithasol.
  • Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Blaenoriaethau posibl yn ystod blynyddoedd dau i bump o'r Chweched Senedd (2022 - 26)

  • Gofal sylfaenol, gan gynnwys ehangu dealltwriaeth o'r ystod o wasanaethau, cyfeirio, rhagfarn anymwybodol a llythrennedd iechyd.
  • Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal problemau.
  • Iechyd menywod.
  • Gwasanaethau adsefydlu.
  • Mynediad at wasanaethau ar gyfer cyflyrau cronig hirdymor.
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Integreiddio ac ariannu gofal cymdeithasol.
  • Cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl.
  • Y pandemig, ac ailosod ar ôl COVID.

Ein dull gweithredu

Sut y byddwn yn gweithio

Rydym wedi cytuno y byddwn:

  • Yn meithrin cysylltiadau i hwyluso cydweithredu adeiladol a dylanwad.
  • Yn gwrando ar brofiad byw, gan gynnwys mynd ar ymweliadau pan fydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu.
  • Bod yn effro i’n cyfarfodydd ac yn hyblyg o ran amseroedd ein cyfarfodydd.
  • Cynnal cyfarfodydd hybrid fel mater o drefn.

Strategaeth

Am wybod mwy?

Mynnwch eich copi o strategaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Chweched Senedd.

Lawrlwytho’r crynodeb

 

Adolygiad interim

Ym mis Chwefror 2023 fe wnaethom gynnal adolygiad interim. Gwnaethom gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad, gan gynnwys pedwar casgliad allweddol, ym mis Mehefin 2023.

Lawrlwytho’r adolygiad interim


Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol.

Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.