Cewch ddiwrnod yn llawn o ddiwylliant, creadigrwydd a chymuned, gan fwynhau gweithgareddau a pherfformiadau a gaiff eu cynnal drwy gydol y dydd – bydd rhywbeth at ddant pawb!
- Gallwch roi tro ar fod yn greadigol yn un o’n gweithdai crefftau neu beth am roi tro ar jyglo yn ein sesiwn Sgiliau Syrcas neu gymryd rhan mewn gweithdy a pherfformiad o farddoniaeth.
- Dyma gyfle i fwynhau sain hyfryd corau o Gymru, datganiad ar y delyn, dawnsio gwerin traddodiadol, a DJ.
- Beth am ymuno â sesiwn flasu dysgu Cymraeg,
- Bydd cynnig arbennig Dydd Gwyl Dewi ar gael yn y caffi – sef, pice ar y maen am ddim gyda phob diod poeth.
Noder: Mae angen cadw lle mewn rhai gweithdai ymlaen llaw.