Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Mehefin 2008 i’w hateb ar 02 Gorffennaf 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu tai cymdeithasol ar gyfer pobl leol. OAQ(3)0463(ESH)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni. OAQ(3)0448(ESH)
3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ddefnyddio Deddf Tyddynnod a Rhandiroedd 1908 i wella’r amgylchedd lleol. OAQ(3)0424(ESH)
4. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau cynllunio fel y maent yn berthnasol i anheddau anghenion lleol. OAQ(3)0464(ESH)
5. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am yr ymgyrch Gwlad Masnach Deg. OAQ(3)0462(ESH)
6. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella effeithlonrwydd ynni ledled Cymru. OAQ(3)0429(ESH)
7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar newid yn yr hinsawdd. OAQ(3)0475(ESH)
8. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lanweithdra traethau Cymru. OAQ(3)0450(ESH)
9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y mae costau ynni uwch yn effeithio ar dlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)0444(ESH)
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd. OAQ(3)0427(ESH)
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch rheoli gwastraff sy’n cael ei ddympio’n anghyfreithlon. OAQ(3)0445(ESH)
12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i Swyddogion Galluogi Tai Gwledig. OAQ(3)0432(ESH)
13. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau i warchod mannau glas ledled Cymru. OAQ(3)0423(ESH)
14. Janice Gregory (Ogwr): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)0466(ESH)
15. Janice Gregory (Ogwr): A yw’r Gweinidog yn rhagweld swyddogaeth ar gyfer undebwyr llafur ifanc o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth o agenda werdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0465(ESH)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi amgueddfeydd ac archifau Cymru. OAQ(3)0430(HER)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer twristiaeth yn y Gogledd. OAQ(3)0400(HER)
3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. OAQ(3)0401(HER)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal i ddatblygu Llanberis fel canolfan allweddol i dwristiaeth ddiwydiannol. OAQ(3)0399(HER) W
5. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarlledu materion sy’n ymwneud â Chymru yng Nghymru. OAQ(3)0425(HER)
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sylwadau y mae wedi’u gwneud ynghylch darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar sianeli masnachol yng Nghymru. OAQ(3)0424(HER)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau twristiaeth yn y Gogledd. OAQ(3)0433(HER)
8. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hyrwyddo a chefnogi llyfrgelloedd yng Nghymru. OAQ(3)0428(HER)
9. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ymgynghori ag UK Transplant ynghylch cynyddu ei ddarpariaeth gwasanaeth dwyieithog. OAQ(3)0397(HER)
10. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa bolisïau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i ehangu mynediad at yr iaith Gymraeg. OAQ(3)0434(HER)
11. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i glybiau chwaraeon sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned yn Nhor-faen. OAQ(3)0416(HER)
12. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddar a gafodd ynghylch darlledu yng Nghymru. OAQ(3)0440(HER)
13. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lwyddiannau’r dynion a menywod hynny o Gymru sydd wedi cyfrannu at y celfyddydau, y gwyddorau a bywyd cyhoeddus mewn cenedlaethau a fu. OAQ(3)0410(HER)
14. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ehangu mynediad at hyfforddiant chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)0418(HER)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant atyniadau diwylliannol yng Nghymru. OAQ(3)0415(HER)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
1. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i weithio gyda phobl ifanc i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. OAQ(3)0429(SJL)
2. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0410(SJL)
3. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen cau swyddfeydd post. OAQ(3)0426(SJL)
4. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf yn y Gogledd. OAQ(3)0442(SJL)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cynnydd at gyrraedd targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer tlodi plant. OAQ(3)0409(SJL)
6. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau i liniaru tlodi yn y Gogledd. OAQ(3)0439(SJL)
7. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i fynd i’r afael â dyledion cynyddol aelwydydd. OAQ(3)0433(SJL)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch y materion cydraddoldeb a amlinellwyd yn arolwg diweddar Help the Aged - Spotlight Report. OAQ(3)0408(SJL) Trosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
9. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n helpu llywodraeth leol i fod yn fwy agored ac atebol. OAQ(3)0418(SJL)
10. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi Undebau Credyd yng Nghymru. OAQ(3)0398(SJL)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi Rhwydwaith Swyddfa’r Post yng Nghymru. OAQ(3)0411(SJL)
12. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i hyrwyddo tâl cyfartal yng Nghymru. OAQ(3)0424(SJL)
13. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. OAQ(3)0400(SJL)
14. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gasglu’r dreth gyngor yng Nghymru. OAQ(3)0431(SJL)
15. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau glanweithdra toiledau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)0423(SJL)
Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am fynediad y cyhoedd i’r Siambr. OAQ(3)0012(AC)
2. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ddarparu cyngor iechyd a diogelwch i Staff Cymorth Aelodau Cynulliad. OAQ(3)0011(AC)