02/12/2008 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2008 i’w hateb ar 02 Rhagfyr 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. (Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sialensiau sy’n wynebu economi Cymru. OAQ(3)1507(FM)

2. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am blant mewn gofal. OAQ(3)1525(FM)

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. OAQ(3)1501(FM)

4. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd. OAQ(3)1514(FM)

5. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun mynediad cyhoeddus at ddiffibrilwyr. OAQ(3)1524(FM)

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach. OAQ(3)1518(FM) TYNNWYD YN OL

7. Huw Lewis (Merthyr Tudful): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Gynllun Gweithredu Dileu Swyddi Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1513(FM) TYNNWYD YN OL

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o fyddardod mewn ysgolion a gweithleoedd yng Nghymru. OAQ(3)1517(FM)

9. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi’r rheini yr effeithir arnynt yn sgil colli swyddi yn Delyn. OAQ(3)1506(FM) TYNNWYD YN OL

10. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am les pobl hŷn yng Nghymru. OAQ(3)1512(FM)

11. Irene James (Islwyn): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer dyfodol adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.  OAQ(3)1504(FM)

12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hynt taliadau i bensiynwyr dan y Cynllun Cymorth Ariannol. OAQ(3)1521(FM)

13. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyllid cydgyfeirio yng nghyswllt Gorllewin Cymru. OAQ(3)1511(FM)

14. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gau ar ddydd Sadwrn o fis Ebrill nesaf ymlaen. OAQ(3)1505(FM)

15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch dyfodol y diwydiant gweithgynhyrchu yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1502(FM)