Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mai 2008 i’w hateb ar 3 Mehefin 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni. OAQ(3)1068(FM) Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig.
2. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen cyllido ar gyfer ysgogi yn nwfn yr ymennydd. OAQ(3)1066(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)1065(FM)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i wella ansawdd bywyd pobl yng Nghanol De cymru. OAQ(3)1064(FM)
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ymchwil a datblygu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. OAQ(3)1043(FM)
6. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau eirioli ar gyfer pobl hŷn. OAQ(3)1054(FM)
7. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gau swyddfeydd post yng Nghymru. OAQ(3)1067(FM)
8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Canolfannau Plant Integredig yng Nghymru. OAQ(3)1047(FM)
9. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd yn y gogledd. OAQ(3)1048(FM)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru. OAQ(3)1059(FM)
11. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau PFI yng Nghymru. OAQ(3)1056)
12. Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch adfywio’r Barri. OAQ(3)1045(FM)
13. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer gwella addysg yng Nghymru. OAQ(3)1070(FM) TYNNWYD YN ÔL
14. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi gofalwyr yng Nghymru. OAQ(3)1060(FM)
15. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safonau addysgol yng Nghymru. OAQ(3)1050(FM)