Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2013 i’w hateb ar 3 Rhagfyr 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch plismona yng Nghymru? OAQ(4)1374(FM)
2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng nghyswllt yr amgylchedd yn Nhorfaen? OAQ(4)1385(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel yr ardrethi busnes yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)1372(FM)
4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyflog byw ymysg cyflogwyr yng Nghymru? OAQ(4)1373(FM)
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gynyddu ystod y teithiau hedfan o Faes Awyr Caerdydd? OAQ(4)1386(FM)
6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer biliau ynni yn Islwyn? OAQ(4)1375(FM)
7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu pobl hyn yn eu cartrefi? OAQ(4)1380(FM)
8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai? OAQ(4)1384(FM)
9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu effaith polisïau iechyd Llywodraeth Cymru ar Ddwyrain De Cymru? OAQ(4)1379(FM)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithdrefn asesu Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1376(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar undebau credyd? OAQ(4)1371(FM)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr? OAQ(4)1387(FM)
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu niferoedd y teithwyr ar reilffyrdd ledled Cymru? OAQ(4)1383(FM)
14. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ymhelaethu ar y sylwadau a wnaeth yn ei araith ddiweddar yn yr Alban ar sefyllfa sterling mewn perthynas â Chymru? OAQ(4)1370(FM)
15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am roi sganio gwegilog ar waith yng Nghymru? OAQ(4)1382(FM)