04/02/2014 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ionawr 2014 i’w hateb ar 4 Chwefror 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin? OAQ(4)1475(FM)W

2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyhoeddi targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer mewnfuddsoddi? OAQ(4)1476(FM)

3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru? OAQ(4)1462(FM)

4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch Cychwyn Iach Cymru i wneud ceir yn ddi-fwg pan mae plant yn teithio ynddynt? OAQ(4)1473(FM)

5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)1477(FM)

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ffermio yn rhostiroedd Brycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1471(FM)

7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)1470(FM)

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1464(FM)

9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r modd y mae llywodraeth leol yn cydymffurfio â Chynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig? OAQ(4)1469(FM)

10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe? OAQ(4)1461(FM)

11. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sbarduno twf economaidd yng Nghymru? OAQ(4)1480(FM)

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at driniaethau’r GIG yng Nghymru? OAQ(4)1463(FM)

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau trais domestig? OAQ(4)1465(FM)

14. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng nghyswllt addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)1478(FM)W

15. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau sydd ganddo i adolygu cyfnodau swyddi Comisiynwyr ac Ombwdsmyn? OAQ(4)1472(FM)