Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21ain Hydref 2008 i’w hateb ar 4ydd Tachwedd 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amseroedd aros presennol ar gyfer cwnsela, seicotherapi a therapi gwybyddol ymddygiadol. OAQ(3)1393(FM)
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru rhag cael eu cam-drin. OAQ(3)1412(FM)
3. Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch Banciau Gwlad yr Iâ yn mynd i ddwylo’r derbynnydd. OAQ(3)1409(FM)
4. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pysgodfeydd môr yng Nghymru. OAQ(3)1391(FM)
5. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i fynd i’r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn y rheini sy’n gweithio mewn siopau yng Nghymru. OAQ(3)1401(FM)
6. Nerys Evans (Mid and West Wales): Will the First Minister make a statement with regard to the benefits of education through the medium of Welsh. OAQ(3)1383(FM) W
6. Nerys Evans (Mid and West Wales): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â buddiannau addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. OAQ(3)1383(FM) W
7. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y Setliad i Lywodraeth Leol ar gynghorau mewn ardaloedd gwledig. OAQ(3)1388(FM)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. OAQ(3)1406(FM)
9. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith ieuenctid yng Nghymru. OAQ(3)1385(FM) TYNNWYD YN ÔL
10. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. OAQ(3)1399(FM)
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae ei weinyddiaeth yn rhoi sylw i feichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1415(FM)
12. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau rheilffordd ar gyfer cymunedau ynysig yng Nghymru. OAQ(3)1396(FM)
13. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yn ystod y dirwasgiad sydd ar ein gwarthaf. OAQ(3)1410(FM)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu magu plant yn gadarnhaol yng Nghymru. OAQ(3)1395(FM)
15. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo defnydd o amlieithrwydd yng Nghymru. OAQ(3)1389(FM)