Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2007
i’w hateb ar 5 Rhagfyr 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau fel Cwnsler Cyffredinol. OAQ(3)0070(CGE)
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi asesu’r darpariaethau cyfreithiol yn y Mesur Trafnidiaeth Leol ar gyfer Cymru. OAQ(3)0067(CGE) Tynnwyd yn ôl
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cynnal ynghylch dyfodol deddfwriaeth arfaethedig Aelodau. OAQ(3)0066(CGE)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ar ddatganoli materion barnwrol. OAQ(3)0071(CGE)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): Beth fydd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ystyried wrth lunio ymatebion i ymgynghoriadau ar faterion cyfreithiol nas datganolwyd ar ran Llywodraeth y Cynulliad. OAQ(3)0073(CGE)
6. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi asesu’r pwerau fframwaith newydd sy’n ymwneud â Chymru, sydd yn y Mesurau gerbron y Senedd. OAQ(3)0076(CGE)
7. Alun Ffred Jones (Arfon): Beth yw cysylltiad y Cwnsler Cyffredinol ym mhroses sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan. OAQ(3)0075(CGE) W
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0069(CGE)
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r pwerau llunio Mesurau sydd yn Neddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd. OAQ(3)0077(CGE)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr adnoddau sydd ganddo i gyflawni ei swyddogaethau. OAQ(3)0065(CGE)
11. Mike German (Dwyrain De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi asesu cwmpas cyfreithiol y Mesur Trafnidiaeth Ysgol arfaethedig. OAQ(3)0068(CGE)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bysgota ar hyd afonydd yng Nghymru. OAQ(3)0120(RAF)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i ddatblygu economi cymunedau gwledig yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0124(RAF)
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rheoliadau ar gyfer labelu cynnyrch a baratoir yng Nghymru. OAQ(3)0147(RAF)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch gwella’r seilwaith yn yr ardaloedd mwyaf gwledig. OAQ(3)0139(RAF)W
5. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch costau rheoli clefydau anifeiliaid. OAQ(3)0153(RAF)
6. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r rheini sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig. OAQ(3)0128(RAF)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn hyrwyddo ein cynnyrch amaethyddol i'r cyhoedd dros y blynyddoedd nesaf. OAQ(3)0112(RAF) W
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i helpu ffermwyr i gyflenwi rhagor o gynnyrch i ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0130(RAF) Tynnwyd yn ôl
9. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y blaenoriaethau ar gyfer datblygu ffermio defaid yng Nghymru. OAQ(3)0141(RAF)
10. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau i amddiffyn a gwella ein cymunedau gwledig. OAQ(3)0137(RAF)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynhyrchu bwyd fferm. OAQ(3)0125(RAF)
12. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y gymuned ffermio o ran darparu cynnyrch i ysgolion. OAQ(3)0132(RAF)
13. Paul Davies (Preseli Penfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i ddifa TB mewn gwartheg yng Nghymru. OAQ(3)0113(RAF)W
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i hyrwyddo cydweithfeydd ffermio. OAQ(3)0142(RAF)
15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyflwyno adroddiad cynnydd am wasanaeth Cyswllt Ffermio. OAQ(3)0115(RAF)