06/05/2014 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2014 i'w hateb ar 6 Mai 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag aelodau o Lywodraeth y DU ynghylch gwneud y mwyaf o fanteision HS2 i Gymru? OAQ(4)1631(FM)W

2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhagolygon economaidd ar gyfer Cymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ(4)1639(FM)

3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am deledu cylch cyfyng yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)1643(FM)

4. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o ran mesurau i ddiogelu treftadaeth Cymru? OAQ(4)1638(FM)

5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau llywodraeth lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1628(FM)

6. Lynne Neagle: (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yn Nhorfaen? OAQ(4)1642(FM)

7. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gofal i gleifion canser yng Nghwm Cynon? OAQ(4)1633(FM)

8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Tasglu Purfa Murco? OAQ(4)1644(FM)

9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal dementia? OAQ(4)1630(FM) TYNNWYD YN OL

10. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1627(FM)

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau gweithredu sydd wedi eu cymryd gan glystyrau Cymunedau yn Gyntaf i wella iechyd? OAQ(4)1629(FM)

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu nwy drwy ddulliau anghonfensiynol? OAQ(4)1641(FM)

13. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynglyn â materion cyllido? OAQ(4)1637(FM)W

14. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc o gefndiroedd tlotach i gael mynediad i addysg uwch? OAQ(4)1640(FM)

15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cynnal gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglyn â Bil Cymru? OAQ(4)1634(FM)W