06/07/2011 - Iechyd, Cwnsler Cyffredinol a Comisiwn

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2011 i’w hateb ar 06 Gorffennaf 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Canol De Cymru am y chwe mis nesaf. OAQ(4)0006(HSS)

2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros yng Nghanol De Cymru. OAQ(4)0007(HSS)

3. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau ymarferol fydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn sefydlu trefniadau gweithio ar y cyd ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol pan fydd angen iddynt gydweithio. OAQ(4)0005(HSS)

4. Lynne Neagle (Tor-faen): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer Tor-faen am y pum mlynedd nesaf. OAQ(4)0017(HSS)

5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y caiff camau eu cymryd i wneud yn siwr bod ffisiotherapi niwrogyhyrol arbenigol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru fel y caiff yr arbenigedd ei drosglwyddo i ffisiotherapyddion cymunedol. OAQ(4)0012(HSS)

6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gofal cymdeithasol yn y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0014(HSS)

7. David Rees (Aberafan): Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni’r addewid yn ei maniffesto i wella mynediad at Feddygon Teulu. OAQ(4)0008(HSS)

8. Simon Thomas (Canolbarth a’r Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Iechyd Gwledig. OAQ(4)0018(HSS)W

9. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag atal pobl rhag colli’u golwg yng Nghymru. OAQ(4)0002(HSS)

10. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. OAQ(4)0003(HSS)

11. David Rees (Aberafan): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer pedwerydd tymor y Cynulliad. OAQ(4)0015(HSS)

12. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol. OAQ(4)0011(HSS)

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran cydweithredu a chydgyllido rhwng Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol wrth ddarparu gwasanaethau. OAQ(4)0016(HSS)W

14. Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi gwneud asesiad o’r cyflogau uchel ymysg haen uchaf rheolwyr y GIG. OAQ(4)0010(HSS)

15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru. OAQ(4)0013(HSS)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a’r Gorllewin Cymru): Beth yw eich blaenoriaethau fel Cwnsler Cyffredinol. OAQ(4)0006(CGE)W

2. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei swyddogaeth o ran deddfwriaeth y Llywodraeth. OAQ(4)0005(CGE)W

3. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi cyfrifoldebau ei swydd o ran pwyso a mesur Cynigion Caniatâd Deddfwriaethol. OAQ(4)0001(CGE)

4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Ddeddf Cyfathrebiadau. OAQ(4)0004(CGE)

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu’r hyn y mae’n ei ystyried wrth bwyso a mesur cyfreithlondeb Bil Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0002(CGE)

6. Julie James (Gorllewin Abertawe): I ba raddau fydd y Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda Swyddogion eraill y Gyfraith yn y DU. OAQ(4)0003(CGE)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda swyddfa’r Twrnai Cyffredinol ers iddo gael ei benodi. OAQ(4)0007(CGE)

Gofyn i Un o Gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A oes gan Gomisiwn y Cynulliad unrhyw gynlluniau i ailsefydlu Cofnod y Trafodion hollol ddwyieithog. OAQ(4)0007(AC)

2. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am swyddogaeth Comisiwn y Cynulliad o ran gweinyddu materion beunyddiol y Cynulliad. OAQ(4)0009(AC)

3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A fydd Comisiwn y Cynulliad yn ailgyflwyno Cofnod hollol ddwyieithog. OAQ(4)0001(AC)

4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am fynediad y cyhoedd i gyfarfodydd llawn. OAQ(4)0002(AC)

5. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa ddarpariaeth y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i gwneud i alluogi Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarfod y tu allan i Gaerdydd. OAQ(4)0006(AC)

6. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Ac ystyried bod hacwyr wedi cael gafael ar fanylion personol chwaraewyr gemau ar-lein a gadwyd gan ddau gwmni mawr, pa fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  OAQ(4)0010(AC)

7. Simon Thomas (Mid and West Wales): Pa sylwadau y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’u derbyn eleni ynglyn â chyhoeddi Cofnod y Trafodion. OAQ(4)0011(AC) W

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am lwyddiant argymhellion y Bwrdd Taliadau i Aelodau ym misoedd cynnar y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0008(AC) TYNNWYD YN ÔL

9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am gontractau Comisiwn y Cynulliad ar gyfer glanhawyr a staff arlwyo. OAQ(4)0004(AC)

10. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw ymateb y Comisiwn i adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar Gynllun Iaith Comisiwn y Cynulliad. OAQ(4)0003(AC) W

11. David Rees (Aberafan): Pa fesurau sydd wedi’u cymryd i ddiogelu’r prosesau trosglwyddo data electronig ar system gyfrifiadurol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. OAQ(4)0005(AC) TYNNWYD YN ÔL