06/10/2015 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 01/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Hydref 2015 i'w hateb ar 6 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi strydoedd mawr lleol? OAQ(4)2476(FM)

2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2481(FM)

3. Keith Davies (Llanelli): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ganolfannau Cymraeg i oedolion? OAQ(4)2486(FM)W

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y gorau o effaith treftadaeth Cymru ar yr economi? OAQ(4)2474(FM)

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Cyflymu Cymru? OAQ(4)2489(FM)W

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru at Velothon Cymru 2016? OAQ(4)2490(FM)

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau adeiladu tai Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2475(FM)

8. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi'r diwrnod rhyngwladol ar gyfer pobl hŷn? OAQ(4)2479(FM)

9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ba mor hir y dylai darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ei gymryd i ymateb i gwynion? OAQ(4)2482(FM)

10. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)2483(FM)

11. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i dwristiaeth yn Nelyn? OAQ(4)2484(FM)

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i gyfleusterau bancio yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)2485(FM)

13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fywiogrwydd economaidd trefi marchnad yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2487(FM)

14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y buddsoddiad diweddar yn Ysbyty Treforys? OAQ(4)2477(FM)

15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2488(FM)