Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Hydref 2007
i’w hateb ar 06 Tachwedd 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. OAQ(3)0398(FM)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella economi Cymru. OAQ(3)0399(FM)
3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r newyddion diweddaraf am ddatblygiad y biblinell LNG. OAQ(3)0395(FM)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. OAQ(3)0400(FM)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am restri aros yn y sector tai cymdeithasol. OAQ(3)0417(FM)
6. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. OAQ(3)0405(FM)
7. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer 'Cynllun Oes’. OAQ(3)0423(FM)
8. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r newyddion diweddaraf am gynlluniau i greu cangen Casnewydd oddi ar y rheilffordd newydd rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy. OAQ(3)0397(FM)
9. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sesiwn nesaf y Cynulliad. OAQ(3)0420(FM)
10. Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefydlu’r Comisiwn Annibynnol i adolygu nawdd a chyllid y Cynulliad. OAQ(3)0415(FM)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. OAQ(3)0427(FM) W
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed tuag at sefydlu Comisiwn annibynnol i adolygu nawdd a chyllid y Cynulliad. OAQ(3)0409(FM) W
13. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd arfaethedig o gronfeydd a ddyrannwyd i Gymru yn sgil asedau nas hawliwyd. OAQ(3)0394(FM)
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch y Cynllun Gweithredu Addysg, y disgwylir iddo gael ei gyflwyno ar y 5ed o Dachwedd. OAQ(3)0406(FM)
15. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bartneriaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gydag Awdurdodau Lleol. OAQ(3)0401(FM)