Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2009 i’w hateb ar 07 Gorffennaf 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfleusterau cymunedol ar gyfer pobl ifanc yn y Gogledd. OAQ(3)2131(FM) TYNNWYD YN ÔL
2. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau dyled yng Nghymru. OAQ(3)2145(FM)
3. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y diwydiant amaethyddol. OAQ(3)2136(FM)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael yn ddiweddar gydag Asiantaeth Ffiniau’r DU. OAQ(3)2151(FM)
5. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu buddiannau grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng nghymdeithas Cymru. OAQ(3)2148(FM)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfarwyddo ei pholisïau i alluogi’r sector preifat yn Nwyrain De Cymru i gryfhau a thyfu dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)2146(FM)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2155(FM)
8. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch cyflogau isel yng Nghymru. OAQ(3)2150(FM)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryd y bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod nesaf â’r Gweinidog dros Iechyd i drafod dyfodol y GIG yng Nghymru. OAQ(3)2129(FM)
10. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwella mynediad at feddygfeydd. OAQ(3)2139(FM)
11. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog drafod y paratoadau sydd ar waith er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Ngaeaf 2009/10. OAQ(3)2137(FM) TYNNWYD YN ÔL
12. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael gyda’r Ysgrifennydd Cartref ynghylch diogelwch cerbydau. OAQ(3)2142(FM)
13. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â sefydlu Coleg Ffederal yng Nghymru. OAQ(3)2130(FM) W
14. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu llwyddiannau Llywodraeth Cynulliad Cymru ers dechrau’r trydydd Cynulliad. OAQ(3)2144(FM)
15. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cael yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. OAQ(3)2133(FM)