Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Medi 2009 i’w hateb ar 07 Hydref 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei drafodaethau diweddaraf â’r Trysorlys. OAQ(3)0811(FPS)TYNNWYD YN ÔL
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa werthusiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y dirywiad economaidd ar gyflawni amcanion ei bortffolio. OAQ(3)0810(FPS)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y pwysau cyllidebol yn y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)0809(FPS)
4. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a ddyrennir ar gyfer portffolio’r Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)0830(FPS)
5. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud dan y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol. OAQ(3)0839(FPS)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei drafodaethau â’r Trysorlys ynghylch cyllido gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. OAQ(3)0813(FPS)
7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwell cydweithrediad yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)0831(FPS)
8. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid. OAQ(3)0826(FPS)
9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer tymor yr hydref. OAQ(3)0808(FPS)
10. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a ddyrennir ar gyfer y portffolio Materion Gwledig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)0829(FPS)
11. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Gofodol Cymru wrth iddo symud i’r cam fframwaith darparu. OAQ(3)0824(FPS)
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn y mae’r Gweinidog yn rhagweld a fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)0807(FPS)
13. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut yr aeth ati i ystyried anghenion pobl hŷn yng Nghymru wrth lunio ei gyllideb ddrafft. OAQ(3)0833(FPS)
14. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gaffael gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)0815(FPS)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw blaenoriaethau cyllido’r Gweinidog ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0827(FPS)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
1. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg. OAQ(3)1066(CEL)
2. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg troseddwyr ifanc yng Nghymru. OAQ(3)1038(CEL)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth yw’r prif flaenoriaethau yn y portffolio Addysg ar gyfer y flwyddyn nesaf. OAQ(3)1068(CEL)
4. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. OAQ(3)1065(CEL) W
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch. OAQ(3)1046(CEL)
6. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau derbyn ysgolion ffydd ac ysgolion sefydledig. OAQ(3)1071(CEL)
7. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg ôl -16 ym Mlaenau Gwent. OAQ(3)1037(CEL)
8. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, 'Doing Better for Children’, fel y mae’n berthnasol i’w phortffolio. OAQ(3)1054(CEL)
9. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg i oedolion yng Nghymru. OAQ(3)1029(CEL)
10. Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun 'Dechrau’n Deg’. OAQ(3)1040(CEL)
11. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. OAQ(3)1060(CEL)
12. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig. OAQ(3)1055(CEL)TYNNWYD YN ÔL
13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)1051(CEL)TYNNWYD YN ÔL
14. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i fynd i’r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion. OAQ(3)1036(CEL)
15. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb Addysg. OAQ(3)1033(CEL)