Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Hydref 2012
i’w hateb ar 7 Tachwedd 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn darpariaeth addysg bellach yn ardal Caerdydd. OAQ(4)0197(ESK)
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ad-drefnu Addysg Uwch yn ne ddwyrain Cymru. OAQ(4)0191(ESK)
3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofynion mynediad i ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon yng Nghymru. OAQ(4)0195(ESK) W TYNNWYD YN ÔL
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau i fuddsoddi mewn uwchraddio a gwella adeiladau ysgolion. OAQ(4)0196(ESK)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0189(ESK)
6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am gonsortia addysg yn ne ddwyrain Cymru. OAQ(4)0194(ESK)
7. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch hyfforddi llywodraethwyr ysgol yn Nhor-faen. OAQ(4)0193(ESK)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda rheoleiddwyr arholiadau. OAQ(4)0200(ESK) W
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu Cymraeg fel ail iaith. OAQ(4)0192(ESK) W
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael am adroddiadau cyflawniad addysg uwch (HEAR). OAQ(4)0199(ESK) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel yr asbestos mewn adeiladau ysgol. OAQ(4)0198(ESK)
12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at brentisiaethau yng ngorllewin Cymru. OAQ(4)0190(ESK)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ym maes trafnidiaeth dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0196(LGC) TYNNWYD YN ÔL
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am greu clystyrau rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn ardal Abertawe. OAQ(4)0198(LGC)
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Beth yw ymateb y Gweinidog i’r sylwadau a gyflwynwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru i’r ymgynghoriad ar Fil Teithio Llesol (Cymru). OAQ(4)0199(LGC)
4. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau eich adran am y chwe mis nesaf. OAQ(4)0193(LGC)W
5. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithio rhwng awdurdodau lleol Cymru. OAQ(4)0203(LGC)
6. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i weithio’n drawsffiniol. OAQ(4)0201(LGC)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0195(LGC)W
8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gydweithio rhwng awdurdodau lleol. OAQ(4)0197(LGC)
9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0205(LGC)
10. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau portffolio ar gyfer Gogledd Cymru dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0204(LGC)
11. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwblhau’r gwelliannau angenrheidiol i’r A494 o Frynsaithmarchog i Wyddelwern. OAQ(4)0200(LGC)W
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido bysiau cyhoeddus. OAQ(4)0202(LGC)W
13. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau llywodraethu mewn awdurdodau lleol. OAQ(4)0194(LGC)W
14. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â thrais domestig yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0206(LGC) TYNNWYD YN ÔL