Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Chwefror 2011 i’w hateb ar 08 Mawrth 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer canlyniad y refferendwm ar bwerau deddfu i’r Cynulliad hwn. OAQ(3)3463(FM)
2. Brian Gibbons (Aberafan): Beth fydd ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Strategaeth Tlodi Plant y DU. OAQ(3)3460(FM)
3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(3)3458(FM)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y portffolio Treftadaeth ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)3455(FM)
5. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch hyblygrwydd diwedd blwyddyn. OAQ(3)3462(FM)
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo bwydydd iach ledled Cymru. OAQ(3)3453(FM)
7. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun nofio am ddim. OAQ(3)3456(FM)
8. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(3)3452(FM)
9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y Gogledd. OAQ(3)3461(FM)
10. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd swyddi yn y sector cyhoeddus i Gymru. OAQ(3)3454(FM)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa wybodaeth fusnes y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei chasglu a’i throsglwyddo i gwmnïau yma yng Nghymru. OAQ(3)3457(FM)
12. David Melding (Canol De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl eiddil ac anabl. OAQ(3)3459(FM)