Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Ebrill 2012
i’w hateb ar 8 Mai 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau i wella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus a pha mor ymatebol ydynt. OAQ(4)0500(FM)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru dros y misoedd nesaf. OAQ(4)0495(FM)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i symbyliad Gemau Paralympaidd 2012 i hybu cyfranogiad ehangach mewn chwaraeon. OAQ(4)0496(FM)
4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0502(FM)
5. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol statws Llyn Padarn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. OAQ(4)0499(FM) W
6. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes datblygu cynaliadwy. OAQ(4)0491(FM)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â blaenoriaethau pobl yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0490(FM)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i liniaru’r newid yn yr hinsawdd. OAQ(4)0497(FM)
9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r achosion o esgeuluso plant yng Nghymru. OAQ(4)0492(FM)
10. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn egluro ei flaenoriaethau ar gyfer Pontypridd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. OAQ(4)0498(FM)
11. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi rhieni sydd â phlant ar ddechrau addysg y blynyddoedd cynnar yn Ne Caerdydd a Phenarth. OAQ(4)0501(FM)
12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth. OAQ(4)0494(FM)
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU ynglyn â diwygio cyfansoddiadol. OAQ(4)0493(FM)
14. Dafydd Elis Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Gweinidogion y DU ynglyn â'i gynnig i sefydlu confensiwn ar ddyfodol y DU. OAQ(4)0504(FM)
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w cymryd i leddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru. OAQ(4)0505(FM) W