08/06/2011 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Mai 2011 i'w hateb ar 08 Mehefin 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu gweledigaeth ei Lywodraeth i greu cymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru. OAQ(4)0036(FM) W

2. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael am ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0035(FM)

3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru i gydlynu rhaglen drwsio a chynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru. OAQ(4)0031(FM)

4. Christine Chapman (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio canol trefi ledled Cymru. OAQ(4)0032(FM)

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Dyffryn Clwyd dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0033(FM)

6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol darlledu yng Nghymru. OAQ(4)0024(FM) W

7. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau strategol ar gyfer y Gogledd yn y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0034(FM)

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad y bydd pensiynwyr a phobl ag anableddau yn cael parhau i deithio mewn bws am ddim. OAQ(4)0029(FM)

9. David Rees (Aberafan): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ledled Cymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0030(FM)

10. Keith Davies (Llanelli): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymestyn darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. OAQ(4)0022(FM) W

11. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog adfywio economaidd yn Abertawe. OAQ(4)0021(FM)

12. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i adeiladu economi wydn yng Nghymru.  OAQ(4)0039(FM)

13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar ddarlledu yng Nghymru. OAQ(4)0025(FM)

14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Caerdydd dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0028(FM)

15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y Gogledd dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0037(FM)