Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Ionawr 2011 i’w hateb ar 09 Chwefror 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb
1. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei monitro. OAQ(3)1320(BB)
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw blaenoriaethau cyllidebol y Gweinidog ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1307(BB)
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i fynd i’r afael â’r bwlch cyllido cynyddol mewn addysg gynradd rhwng Cymru a Lloegr wrth bennu'r gyllideb derfynol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1316(BB) TROSGLWYDDWYD I'W ATEB YN YSGRIFENEDIG
4. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa ffactorau wnaeth y Gweinidog eu hystyried wrth bennu’r gyllideb ar gyfer y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1305(BB)
5. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch nifer y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a’u cost. OAQ(3)1322(BB)
6. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch y dyraniad yn y gyllideb i’r portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. OAQ(3)1311(BB)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyffredinol o gyllid i’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1323(BB)
8. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaeth y mae’r Gweinidog wedi’i chael gyda sefydliadau ariannol yng Nghymru. OAQ(3)1321(BB)
9. Veronica German (Dwyrain De Cymru): Sut y mae’r Gweinidog yn monitro cyllidebau Adrannol Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. OAQ(3)1303(BB)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyhoeddi gwybodaeth yn hyrwyddo pwysigrwydd y Cyfrifiad yng Nghymru. OAQ(3)1317(BB)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Canol De Cymru dros weddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1294(BB)
12. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn. OAQ(3)1298(BB)
13. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y Gorllewin. OAQ(3)1312(BB)
14. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido Mentrau Cyllid Preifat. OAQ(3)1297(BB)
15. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU. OAQ(3)1296(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. OAQ(3)1419(HER)
2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi llyfrgelloedd yng Nghymru. OAQ(3)1413(HER)
3. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. OAQ(3)1437(HER) W
4. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth y Celfyddydau yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1426(HER)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau llyfrgell yn y Gogledd. OAQ(3)1421(HER)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. OAQ(3)1423(HER) TYNNWYD YN ÔL
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at weithgareddau diwylliannol i blant a phobl ifanc yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1434(HER)
8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Torfaen dros weddill tymor hwn y Cynulliad. OAQ(3)1408(HER)
9. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei rhoi i lyfrgelloedd Cymru. OAQ(3)1424(HER) TYNNWYD YN ÔL
10. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch dyfodol S4C. OAQ(3)1414(HER)
11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi llyfrgelloedd yng Nghymru. OAQ(3)1416(HER)
12. David Melding (Canol De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i hyrwyddo perfformiadau byw yng Nghymru. OAQ(3)1436(HER)
13. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i’r diwydiant twristiaeth yn y Gorllewin. OAQ(3)1438(HER) W
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â’i flaenoriaethau ar gyfer Gorllewin De Cymru dros weddill tymor hwn y Cynulliad. OAQ(3)1410(HER) W
15. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo diwylliant Cymru drwy theatr. OAQ(3)1433(HER)
Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Comisiwn amlinellu pa bryd y maent yn bwriadu cwblhau adolygiad llawn o’r Prosiect UNO. OAQ(3)0050(AC)